Rhaglenni a Addysgir
Dull mwy strwythuredig i astudio’n ôl-raddedig, yn seiliedig ar addysgu.
Mae rhaglen ôl-raddedig a addysgir yn gam naturiol i raddedigion sydd am wneud astudiaeth bellach.
Mae’n ddull tebyg i’r hyn a geir ar lefel israddedig, sef bod y rhaglenni yn cynnwys modiwlau a addysgir gan uwch staff academaidd trwy ddarlithoedd, seminarau, gwaith labordy a mwy.
Gwybodaeth allweddol:
- Dylai gymryd blwyddyn (yn llawn amser) neu ddwy flynedd (yn rhan amser) i wneud rhaglen ôl-raddedig a addysgir;
- Mae’r rhaglenni a addysgir yn cynnwys: Meistr y Celfyddydau (MA), Meistr Gwyddoniaeth (MSc), Meistr Gweinyddiaeth Busnes (MBA), Meistr y Gyfraith (LLM) a mwy;
- Bydd gofyn ichi fynychu pob modiwl a addysgir, a gallai hynny gynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai;
- Bydd yr asesiadau’n amrywio rhwng disgyblaethau a gallant gynnwys peth ymchwil annibynnol, gwaith grŵp, cyflwyniadau unigol, arholiadau a phrosiect traethawd hir ar y diwedd;
- Os oes gennych faes arbenigol mewn meddwl ar gyfer astudiaeth bellach, efallai y bydd modd i chi osgoi llunio traethawd hir drwy gwblhau Diploma ôl-raddedig neu Ddoethuriaeth Broffesiynol yn lle hynny;
- Mae’n werth ystyried eich cyfleoedd astudio pellach a’r gofynion mynediad yn ystod blwyddyn olaf eich astudiaeth israddedig.