Doethuriaeth Broffesiynol

Astudiwch am ddoethuriaeth ar yr un pryd â gweithio.
Mae Doethuriaeth Broffesiynol neu “DProf” wedi’i chynllunio i roi modd i weithwyr proffesiynol cymwys astudio tuag at ddoethuriaeth ar yr un pryd â chadw eu gwaith cyflogedig.
Gyda chymorth gan Ysgol Raddedigion Aberystwyth, caiff ‘DProf’ eu dyfarnu i ôl-raddedigion sy’n cwblhau rhaglen astudio a addysgir, ynghyd ag astudio ac ymchwil bellach.
I sicrhau ei fod yn berthnasol, yn gysylltiedig â pholisïau sy’n newid a bod modd ei gymhwyso i fywyd go iawn, gellir cysylltu eich ymchwil yn uniongyrchol â’ch sefydliad.