Rhaglenni a Addysgir

Rhaglenni a Addysgir

Dull mwy strwythuredig i astudio’n uwchraddedig, yn seiliedig ar addysgu.

Mae rhaglen uwchraddedig a addysgir yn gam naturiol i raddedigion sydd am wneud astudiaeth bellach.

Mae’n ddull tebyg i’r hyn a geir ar lefel israddedig, sef bod y rhaglenni yn cynnwys modiwlau a addysgir gan uwch staff academaidd trwy ddarlithoedd, seminarau, gwaith labordy a mwy.

Gwybodaeth allweddol:

 

  • Dylai gymryd blwyddyn (yn llawn amser) neu ddwy flynedd (yn rhan amser) i wneud rhaglen uwchraddedig a addysgir;
  • Mae’r rhaglenni a addysgir yn cynnwys: Meistr y Celfyddydau (MA), Meistr Gwyddoniaeth (MSc), Meistr Gweinyddiaeth Busnes (MBA), Meistr y Gyfraith (LLM) a mwy;
  • Bydd gofyn ichi fynychu pob modiwl a addysgir, a gallai hynny gynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai;
  • Bydd yr asesiadau’n amrywio rhwng disgyblaethau a gallant gynnwys peth ymchwil annibynnol, gwaith grŵp, cyflwyniadau unigol, arholiadau a phrosiect traethawd hir ar y diwedd;
  • Os oes gennych faes arbenigol mewn meddwl ar gyfer astudiaeth bellach, efallai y bydd modd i chi osgoi llunio traethawd hir drwy gwblhau Diploma Uwchraddedig neu Ddoethuriaeth Broffesiynol yn lle hynny;
  • Mae’n werth ystyried eich cyfleoedd astudio pellach a’r gofynion mynediad yn ystod blwyddyn olaf eich astudiaeth israddedig.

 

Porwch drwy ein Rhaglenni Uwchraddedig