Teithiau Campws
Ynghyd â'n diwrnodau agored i israddedigion, mae ein Teithiau Campws yn gyfle i ymweld a’n campws hardd, mynd ar daith o amgylch ein cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf a dysgu mwy am sut mae hi i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Sut i archebu lle ar un o’n Teithiau Campws
Rydym yn darparu teithiau campws ar sail ad hoc trwy gydol y flwyddyn ar gyfer dapar fyfyrwyr ac ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol. Er mwyn bwcio dy daith campws, llenwa'r ffurflen yma.
Beth i’w ddisgwyl?
Bydd taith o’r campws yn daith gerdded a bydd yn cymryd tua awr o hyd. Bydd ymwelwyr yn cael eu tywys gan un o'n Staff. Byddwn yn gallu dangos lleoliad adrannau academaidd, rhai cyfleusterau ar y campws, ac opsiynau llety. Mae hwn yn gyfle gwych i gael blas ar leoliad y Brifysgol a'r ardal gyfagos. Mae'r daith hefyd yn gyfle i holi ein staff am fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth.
Cwestiynau Pellach
Edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Pellach am fwy o wybodaeth.
Beth i wneud yn y cyfamser?
Os oes angen i ti ganslo, gwna hynny erbyn 5pm y diwrnod cyn y disgwylir i ti ymweld fan bellaf. Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar teithiaucampws@aber.ac.uk neu 01970 622065.