Cwestiynau Cyffredin

Y Daith Ei Hun

Beth ddylwn i ei ddisgwyl ar un o'r Teithiau?

Bydd y daith campws yn daith gerdded fydd tua awr o hyd. Byddwn yn gallu dangos lleoliad adrannau academaidd i chi, rhai cyfleusterau ar y campws, ac ystod o opsiynau o safbwynt llety. Dyma gyfle gwych i gael blas o leoliad y Brifysgol a'r ardal gyfagos.

Pa mor hir mae'r Daith yn para?

Mae'r Teithiau yn para tua 60 munud.

Faint o'r gloch ddylwn i gyrraedd y Daith Campws?

Dylech gyrraedd o leiaf 10 munud cyn eich amser penodedig fel y gellir gwneud y trefniadau priodol.

Pwy fydd yn mynd â mi ar y Daith?

Byddwch yn cael eich harwain ar y Teithiau Campws gan un o'n llysgenhadon hyfforddedig. Bydd hwn yn gyfle perffaith i chi ofyn cwestiynau am y cwrs / cyrsiau maen nhw'n eu hastudio, pa fath o brofiad yw bod yn fyfyriwr yn Aberystwyth, sut le yw'r dref a llawer mwy.

Beth ddylwn i ei wisgo?

Mae’r Daith Campws yn daith gerdded ac mae'r campws ei hun wedi'i leoli ar fryn felly byddem yn cynghori ein holl ymwelwyr i ddod ag esgidiau addas a bod yn barod ar gyfer pob tywydd!

Disgwylir i bob ymwelydd wisgo gorchudd wyneb tra bydd dan do ar holl safleoedd Prifysgol Aberystwyth. Byddwn yn darparu gorchudd wyneb i chi, ond efallai y byddwch hefyd yn dod â'ch un personol os dymunwch. Os oes gennych amgylchiadau penodol sy'n golygu na allwch wisgo gorchudd wyneb, rhowch wybod i ni pan gyrhaeddwch.

A fyddaf yn gallu gweld yr holl lety sydd ar gael?

Byddwn yn gallu eich tywys o gwmpas rhai o'n llety ‘ar campws’. I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y tu mewn i'n llety yn rhithiol, dilynwch y ddolen hon: https://virtual-tour.aber.ac.uk/ - Mae modd clicio ar ddolen cyfrwng Cymraeg yma.

Ydy’r Daith Campws yn cynnwys ymweld â’r cyfleusterau chwaraeon?

Bydd modd i chi ymweld â’n cyfleusterau chwaraeon tra ar y Daith Campws. Dyw pob un o’n hadnoddau chwaraeon ddim ar y campws, ond mae’r Ganolfan Chwaraeon yno. Bydd modd i chi weld y rhan fwyaf o’r cyfleusterau a ddangosir yma: https://www.aber.ac.uk/cy/sportscentre/facilities/ 

A fydd rhywle i mi barcio?

Bydd – mae modd parcio am ddim y tu ôl i Ganolfan y Celfyddydau. 

Unwaith i chi gofrestru ar Daith Campws dylech dderbyn e-bost yn fuan wedyn gyda chyfeiriadau sut i gyrraedd y man ymgynnull. 

Pa gymorth ariannol sydd ar gael?

Yn dilyn eich ymweliad bydd angen i chi lenwi a dychwelyd Ffurflen Hawlio Treuliau, byddwn yn anfon atoch ar ôl eich ymweliad.

Sylwer os gwelwch yn dda, mai dim ond i ymgeiswyr y mae ad-daliadau'n berthnasol (deiliaid cynnig ar gyfer mynediad 2023).