Diwrnod Agored yn Aberystwyth

Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored yn Aberystwyth

Mae mynychu Diwrnod Agored yn ffordd berffaith i chi ddod i wybod mwy am Brifysgol Aberystwyth. Dysgwch fwy am ein digwyddiadau a chofrestrwch eich ddiddordeb.

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi gwrdd â'n staff a'n myfyrwyr, a dysgu mwy am ein cyrsiau. Dyma fwy o wybodaeth i chi am beth i’w ddisgwyl a 5 rheswm pam y dylech ymweld ag Aberystwyth ar Ddiwrnod Agored.

  1. Gweld y campws a’r llety

Ewch ar daith o amgylch y campws gyda’n llysgenhadon i gael gweld ble yn union y byddwch yn dysgu ac astudio. Fe gewch hefyd y cyfle i ymweld â Chanolfan Celfyddydau mwyaf Cymru, ein Canolfan Chwaraeon ac ein Neuaddau. Darganfyddwch pa lety fydd ar gael i chi a dewch i weld pam fod Aberystwyth yn y 5 uchaf am Breswylfeydd a Llety Myfyrwyr (WhatUni? Gwobrau Dewis Myfyrwyr 2023).

  1. Sgwrsiwch â staff

Sgwrsiwch â staff academaidd, a hefyd staff o’r adrannau Cymorth i Fyfyrwyr a Derbyniadau. Mae Diwrnod Agored yn gyfle gwych i ofyn cwestiynau a chael atebion a fydd o gymorth i chi wrth i chi ddewis pa gwrs a phrifysgol fydd yn addas i chi. Mae hefyd yn gyfle i ddarganfod pa gymorth fydd ar gael i chi fel myfyriwr wedi i chi ddechrau.

  1. Sgwrsiwch â myfyrwyr

Dysgwch am fywyd myfyrwyr trwy sgwrsio â’n llysgenhadon, a dysgwch pam fod Aberystwyth y Brifysgol Orau yng Nghymru am Fodlonrwydd Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023). Mae ein llysgenhadon yn fyfyrwyr presennol ac felly mae’n ffordd wych o gael barn gonest am sut beth yw bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

  1. Dewis cwrs

Ewch i ymweld ag ein hadrannau i ddysgu am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd gennym ar gael. Gallwch fynychu sesiynau i gael clywed mwy am y modiwlau y byddwch yn astudio a hynny gan y darlithwyr a fydd yn eich dysgu. Cewch hefyd ddod i ddeall pam ein bod ymhlith y 3 uchaf yn y DU o ran Ansawdd Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr (Canllaw Prifysgolion Da, The Times and Sunday Times 2023).

  1. Dysgu mwy am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg

Dewch i ddysgu am yr ystod eang o gyrsiau a modiwlau rydym yn eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel myfyriwr Cymraeg yn Aberystwyth mae modd i chi fyw ac astudio yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg. O astudio’r gyfraith i chwarae rygbi, o nosweithiau cymdeithasol i ganu mewn côr, mae’r bywyd Cymraeg byrlymus mae UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) yn ei gynnig yn unigryw. Cofiwch y bydd cyfle hefyd i chi ymweld â neuadd Pantycelyn, llety newydd ar gyfer myfyrwyr Cymraeg a chartref UMCA.