Cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr israddedig llawn-amser o Gymru

Costau Ffioedd Dysgu

Yn 2022/23, bydd Prifysgol Aberystwyth yn codi ffi o £9,000 y flwyddyn am bob cwrs gradd israddedig llawn-amser. Nid oes raid i chi dalu unrhyw ffioedd dysgu tra ydych yn astudio (er y gallwch wneud hynny os dymunwch). Caiff y taliad ei ohirio nes ar ôl i chi raddio trwy Fenthyciad Ffioedd Dysgu.

Nid yw’r Benthyciad Ffioedd Dysgu yn ddibynnol ar incwm y teulu. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr sydd wedi astudio ar lefel Addysg Uwch yn y gorffennol gysylltu â Cyllid Myfyrwyr Cymru. i wirio eu hawl.

Mae Benthyciadau Ffioedd Dysgu yn ad-daladwy ar ôl i chi adael y brifysgol a dechrau ennill dros £27,925 y flwyddyn (Ebrill 2021 ymlaen). Mae'r gyfradd llog yn gysylltiedig â chwyddiant (Mynegai Prisiau Manwerthu). Am ragor o wybodaeth am ad-dalu'ch benthyciad, ewch i'r wefan ganlynol: www.studentloanrepayment.co.uk. Fel arall, gallwch dalu eich ffioedd wrth astudio.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru

  • Bydd pob myfyriwr israddedig llawn amser cymwys sy’n byw yng Nghymru yn derbyn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru gwerth £1,000 gan Lywodraeth Cymru.
  • Gall myfyrwyr o Gymru hefyd wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ychwanegol. Bydd y grant ychwanegol yn cael ei asesu ar incwm trethadwy cartref y myfyriwr.
  • Bydd cyfran o'r grant yn cael ei dalu yn lle rhan o'r Benthyciad Cynhaliaeth
  • Caiff y grant yma eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn tri rhandaliad - un ar ddechrau pob tymor
  • Nid fydd raid i chi dalu’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn nol ar ôl graddio.

Tabl hawl Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Benthyciadau Cynhaliaeth 

 
Incwm Trethadwy
Eich Cartref

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
- byw oddi cartref

Benthyciad Cynhaliaeth
- byw oddi cartref

Cyfanswm  Grant & Benthyciad –  byw oddi cartref

 

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru
- byw gyda’u rhieni

 
Benthyciad Cynhaliaeth
- byw gyda’u rhieni

Cyfanswm  Grant & Benthyciad - byw gyda’u rhieni

£18,370 neu lai

£8,100

£3,620

£11,720

 

£6,885

£3,620

£9,950

£20,000

£7,817

£3,903

£11,720

 

£6,651

£3,299

£9,950

£25,000

£6,947

£4,773

£11,720

 

£5,930

£4,020

£9,950

£30,000

£6,078

£5,642

£11,720

 

£5,209

£4,741

£9,950

£35,000

£5,208

£6,512

£11,720

 

£4,488

£5,462

£9,950

£40,000

£4,339

£7,381

£11,720

 

£3,767

£6,183

£9,950

£45,000

£3,469

£8,251

£11,720

 

£3,047

£6,903

£9,950

£50,000

£2,600

£9,120

£11,720

 

£2,326

£7,624

£9,950

£55,000

£1,730

£9,990

£11,720

 

£1,605

£8,345

£9,950

£59,200 neu fwy

£1,000

£10,720

£11,720

 

£1,000

£8,095

  £9,950

Benthyciad Cynhaliaeth

  • Mae Benthyciad Cynhaliaeth ar gael i’ch helpu gyda chostau byw fel llety, bwyd, llyfrau, dillad a theithio. Daw’r arian yma gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
  • Bydd incwm trethadwy eich cartref a lle byddwch chi'n byw wrth astudio yn penderfynu faint o fenthyciad byddwch yn ei dderbyn.
  • Caiff benthyciadau eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc mewn tri rhandaliad - un ar ddechrau pob tymor.

Mae’n rhaid i fenthyciad cynhaliaeth gael ei ad-dalu unwaith y byddwch wedi gorffen eich cwrs ac yn ennill mwy na £27,295 y flwyddyn (Ebrill 2021 ymlaen). Fel rheol bydd eich cyflogwr yn tynnu’r arian o’ch cyflog trwy’r system dreth PAYE, yn yr un ffordd a threth incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Byddwch yn ad-dalu ar gyfradd o 9% o unrhyw swm a enillwch dros £27,295 y flwyddyn (Ebrill 2021 ymlaen). Am ragor o wybodaeth am ad-dalu'ch benthyciad, ewch i'r wefan ganlynol: www.studentloanrepayment.co.uk

Pryd a sut i wneud cais am Gyllid Myfyrwyr

  • Mae bosib gwneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu, Benthyciad Cynhaliaeth a’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru trwy gwblhau un ffurflen cais - PN1. 
  • Mae bosib i fyfyrwyr wneud cais ar y we neu drwy lawr lwytho ffurflen oddi ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru : www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
  • Mi fydd y ffurflenni ar gael o fis Marwth 2022 ymlaen.
  • Fe’ch cynghorir i lenwi'r ffurflen cyn gynted â phosib fel bod yr asesiad ariannol wedi ei gwblhau ymhell cyn i'ch cwrs ddechrau ym mis Medi 2022.

Sut y byddwch yn derbyn eich cyllid myfyrwyr?

Mae’r grantiau a benthyciad cynhaliaeth yn cael ei talu i mewn i'ch cyfrif banc mewn tri rhandaliad.  Y taliad cyntaf ar ôl cofrestru yn y Brifysgol, yr ail ran daliad ddechrau mis Ionawr ar rhandaliad olaf ar ôl Pasg.

Astudiaethau Addysgu Uwch blaenorol

Os ydych wedi astudio cwrs addysg uwch o'r blaen, gallai hyn effeithio ar eich hawl i gael cyllid myfyrwyr.  Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru : www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu'r Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian ym Mhrifysgol Aberystwyth am ragor o wybodaeth a chyngor cyn gynted ag y byddwch yn penderfynu gwneud cais i brifysgol. 

 

Myfyrwyr gyda phlant neu oedolion dibynnol

Grant Cymorth Arbennig

Mae Grant Cymorth Arbennig wedi ei gyflwyno ar gyfer myfyrwyr a all fod yn gymwys i dderbyn budd-daliadau phrawf modd megis Cymhorthdal Incwm / Credyd Cyffredinola a Budd-dal Tai. Yn fras, bydd hyn yn cynnwys

  • Rhieni sengl
  • Cyplau gyda phlant ble mae’r ddau yn fyfyrwyr llawn amser
  • a rhai myfyrwyr anabl.

Mae uchafswm y cymorth yr un faint â’r Grant Dysgu Llywodraeth Cymru. Mae’r grant yma yn cael ei dalu yn lle Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nid yn ychwanegol iddo.  

Tabl hawl Grant Cymorth Arbennig a Benthyciadau Cynhaliaeth  

 
Incwm Trethadwy
Eich Cartref

Grant Cymorth Arbennig
- byw oddi cartref

Benthyciad Cynhaliaeth
- byw oddi cartref

Cyfanswm  Grant & Benthyciad –  byw oddi cartref

 

Grant Cymorth Arbennig
- byw gyda’u rhieni

Benthyciad Cynhaliaeth
- byw gyda’u rhieni

Cyfanswm  Grant & Benthyciad - byw gyda’u rhieni

£18,370 nai lai

£8,100

£4,855

£12,955

 

£6,885

£4,045

£10,930

£25,000

£6,947

£4,855

£11,802

 

£5,930

£3,045

£9,975

£35,000

£5,208

£5,502

£10,710

 

£4,488

£4,607

£9,095

£45,000

£3,469

£7,241

£10,710

 

£3,047

£5,048

£9,095

£50,000

£2,600

£8,110

£10,710

 

£2,326

£6,769

£9,095

£55,000

£1,730

£8,980

£10,710

 

£1,605

£7,490

£9,095

£59,200 neu fwy

£1,000

£9,710

£10,710

 

£1,000

£7,095

£9,095

 Bydd swm y Grant Cymorth Arbennig a gewch yn cael ei diystyru'n llawn at ddibenion budd-dal prawf modd.

Grant Gofal Plant

Gall myfyrwyr llawn amser sydd â phlant dibynnol mewn gofal plant cofrestredig a chymeradwy wneud cais am Grant Gofal Plant.

  • Gallwch dderbyn hyd at 85% o’ch costau gofal plant hyd at uchafswm o: £184 yr wythnos ar gyfer un plentyn; neu £315 yr wythnos ar gyfer dau neu fwy o blant.

Mae faint o gymorth cewch chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac incwm cartref.

  • Chewch chi ddim mo’r grant hwn os ydych chi neu eich partner yn derbyn elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith oddi wrth Gyllid a Thollau EM.
  • Os ydych yn gymwys am y ddau, yna fe allwch ddewis pa un i gymryd.
  • Fe allwch chi dderbyn Grant Gofal Plant yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.

 Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith nac adrannau Budd-dal Tai yn cyfrif y Grant Gofal Plant wrth gyfrifo eich hawl i gael budd-daliadau.

Mae’r Grant fel arfer yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau pob tymor, gyda’ch benthyciad a grantiau eraill. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gofyn am gadarnhad o’ch costau gofal plant unwaith bob tymor. Os na fyddant yn cael y cadarnhad yma gennych, ni fyddwch yn cael eich rhandaliad nesaf.

Lwfans Dysgu i Rieni

Mae Lwfans Rhieni sy'n Dysgu (PLA) yn gymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd â phlant dibynnol.

  • Uchafswm y Lwfans Dysgu Rhieni sy'n daladwy yn 2022-23 fydd £1,862 a'r isafswm o £50.00
  • Mae faint o gymorth cewch chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau ac incwm cartref
  • Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith nac adrannau Budd-dal Tai yn cyfrif y grant hwn wrth gyfrifo eich hawl i gael budd-daliadau.
  • Mae’r Grant fel arfer yn cael ei dalu mewn tri rhandaliad, un ar ddechrau pob tymor, gyda’ch benthyciad a grantiau eraill.

Grant Oedolion Dibynnol

Mae Grant yma ar gael i fyfyrwyr sydd â dibynyddion sy'n oedolion. Os oes gennych bartner, sy'n dibynnu arnoch yn ariannol, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am y grant hwn nad oes rhaid ei ad-dalu. 

  • Uchafswm y Lwfans Dysgu Rhieni sy'n daladwy yn 2022-23 fydd £3,262
  • Bydd faint o gymorth a dderbyniwch yn dibynnu ar incwm eich dibynyddion.
  • Bydd y grant hwn yn cael ei drin fel incwm gan unedau budd-dal Tai neu Dreth Gyngor neu Fudd-dal Lles eraill.
  • Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith nac adrannau Budd-dal Tai yn cyfrif y grant hwn wrth gyfrifo eich hawl i gael budd-daliadau

Gwefannau Defnyddiol