Ffioedd Dysgu

Mae ffioedd dysgu’n talu am gostau eich astudiaethau yn y brifysgol; mae’r ffioedd yn cynnwys taliadau am bethau fel y dysgu, eich arholiadau a graddio.

Mae benthyciadau a grantiau ar gael i’ch helpu i dalu eich ffioedd dysgu a’ch costau byw. Os hoffech gael gwybod mwy am y benthyciadau a’r grantiau y gallai fod gennych hawl iddynt, ewch i’n hadran Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2022

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr y DU

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r ffioedd dysgu eto ar gyfer myfyrwyr cartref newydd sy'n cychwyn ym mis Medi 2022. Codwyd £9,000 ar fyfyrwyr newydd oedd yn cychwyn ar eu cwrs ym mis Medi 2021.

Ffioedd Israddedigion o'r Deyrnas Unedig - yn gymwys i ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.
Y ffioedd ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2022 yw:

Ffioedd Israddedigion o’r Deyrnas Unedig (Ffioedd Israddedigion o'r Deyrnas Unedig - yn gymwys i ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.)

 

£

Sesiwn Llawn

9,000

Un Semester

4,500

Cyfnewid Allan (Sesiwn Llawn)

1,350

Blwyddyn mewn Diwydiant

1,800

Blwyddyn Dramor

1,350

Ymweld â ni (Sesiwn Llawn)

9,000

Ymweld â ni (Un Semester)

4,500


 

 

 

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol (yn cynnwys UE)

Nodwch y bydd dinasyddion Iwerddon yn gymwys ar gyfer statws y DU ynghyd â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant y Man Teithio Cyffredin.

Nid yw Llywodraeth Cymru eto wedi cadarnhau’r trefniadau ar gyfer 2021-22 ymlaen, sy’n golygu y gall ffioedd dysgu godi ar gyfer unrhyw flynyddoedd astudio olynol, wedi’u mapio yn unol ag unrhyw uchafswm ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig â chwyddiant a ganiateir gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r cynnydd hwn hefyd yn berthnasol i ffioedd cyfrannol a godir ar gyfer Blwyddyn Dramor a’r Flwyddyn mewn Diwydiant.

Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd a phob myfyriwr am lefelau’r ffioedd ar gyfer 2021-22 yn ogystal â rhoi gwybod am unrhyw gynnydd sy’n gysylltiedig â chwyddiant ar gyfer blynyddoedd astudio dilynol cyn gynted ag y ceir cadarnhad gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau [ar y dudalen hon]. Dylech edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ar y dudalen hon cyn gwneud cais. Bydd y manylion diweddaraf am ffioedd perthnasol yn cael eu nodi yn y dogfennau gyda’n cynnig, a bydd eich telerau ac amodau yn disgrifio sut y gallwn fod â hawl i gynyddu neu newid ffioedd yn ystod cyfnod eich astudiaeth gyda ni. 

Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, mae lefelau’r ffioedd yn cael eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod beth yn union fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.

Mae sefyllfa’r ffioedd yn wahanol i fyfyrwyr tramor.

Myfyrwyr Rhyngwladol

 

Math

Swm (£)

Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser

14,300

Gwyddoniaeth Llawn Amser

16,300

Blwyddyn mewn Diwydiant

1,800

Blwyddyn Dramor

 

1,350



Gwybodaeth ffioedd cyrsiau dysgu o bell

Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol o 1 Awst. Mae'r ffioedd isod yn ddilys ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2022 (blwyddyn academaidd 2022-23). Mae'r ffigurau ar gyfer Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 isod felly yn enghreifftiol ac fe allant newid.

Ffioedd Dysgu o Bell ar gyfer yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth - Astudiaethau Israddedig

Cost:

Ffi Cofrestru

£350

Ffi fesul modiwl 10 credyd

£340

Ffi fesul modiwl 20 credyd

£680

Ffi fesul blwyddyn academaidd

£2,720

Cyfanswm

£8,510

Ffioedd Dysgu ar gyfer mis Medi 2023

Gwybodaeth ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol (yn cynnwys UE)

Nodwch y bydd dinasyddion Iwerddon yn gymwys ar gyfer statws y DU ynghyd â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru o dan drefniant y Man Teithio Cyffredin.

Nid yw Llywodraeth Cymru eto wedi cadarnhau’r trefniadau ar gyfer 2021-22 ymlaen, sy’n golygu y gall ffioedd dysgu godi ar gyfer unrhyw flynyddoedd astudio olynol, wedi’u mapio yn unol ag unrhyw uchafswm ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig â chwyddiant a ganiateir gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r cynnydd hwn hefyd yn berthnasol i ffioedd cyfrannol a godir ar gyfer Blwyddyn Dramor a’r Flwyddyn mewn Diwydiant.

Byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd a phob myfyriwr am lefelau’r ffioedd ar gyfer 2021-22 yn ogystal â rhoi gwybod am unrhyw gynnydd sy’n gysylltiedig â chwyddiant ar gyfer blynyddoedd astudio dilynol cyn gynted ag y ceir cadarnhad gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn cyhoeddi diweddariadau [ar y dudalen hon]. Dylech edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ar y dudalen hon cyn gwneud cais. Bydd y manylion diweddaraf am ffioedd perthnasol yn cael eu nodi yn y dogfennau gyda’n cynnig, a bydd eich telerau ac amodau yn disgrifio sut y gallwn fod â hawl i gynyddu neu newid ffioedd yn ystod cyfnod eich astudiaeth gyda ni. 

Ar gyfer myfyrwyr israddedig rhyngwladol, mae lefelau’r ffioedd yn cael eu rhewi ar lefel mynediad ar gyfer y blynyddoedd astudio dilynol. Mae hyn yn golygu eich bod yn gwybod beth yn union fydd lefelau eich ffioedd drwy gydol eich astudiaethau gyda Phrifysgol Aberystwyth.

Mae sefyllfa’r ffioedd yn wahanol i fyfyrwyr tramor.

Myfyrwyr Rhyngwladol

 

Math

Swm (£)

Y Celfyddydau / y Gwyddorau Cymdeithasol - Llawn Amser

15,375

Gwyddoniaeth Llawn Amser

17,525

Blwyddyn mewn Diwydiant

1,800

Blwyddyn Dramor

1,350



Gwybodaeth ffioedd cyrsiau dysgu o bell

Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol o 1 Awst. Mae'r ffioedd isod yn ddilys ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2023 (blwyddyn academaidd 2023-24). Mae'r ffigurau ar gyfer Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 isod felly yn enghreifftiol ac fe allant newid.

Ffioedd Dysgu o Bell ar gyfer yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth - Astudiaethau Israddedig

Cost:

Ffi Cofrestru

£360

Ffi fesul modiwl 10 credyd (24 x £360)

£8,640

Cyfanswm

£9,000