Adborth RhWN - Ieithoedd Modern
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2112-1284809 - Mwynhau modiwl SP10820
Dy sylw: SP10820 I find this course very engaging, fast paced and challenging. There is a lot to learn with a new language and we cover a lot at a fast pace, but I think with the exercises and homework I can keep up !
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw. Rydym ni’n falch iawn i glywed hyn.
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2104-5409413 - Arholiadau wedi'u hamseru
Dy sylw: Our written exams in the Modern Languages department are being held in a way that gives us the time of the exam to complete the paper within a 24-hour period. However, I understand that other departments are allowing either a week to complete the exam with a time limit on the exam itself, or a 24-hour period without a time limit on the paper. These are not normal circumstances and so exams cannot be carried out in the normal ways. Our lecturers have said that they will accept an emailed submission of our paper within 10 minutes after our official end time, which I do appreciate; however this does not cover all bases. If the WiFi goes out, we may not be able to email, and in some exams we are expected to use a dictionary which for the majority of students will be online. When relying on technology, we cannot simply assume it will be okay with something as important as our exams. With issues of WiFi and noise, it is imperative that we are able to choose an appropriate time for us to do the exam, and reducing the slot in which we have to choose reduces the chance of us finding an appropriate time. It does not seem fair that other departments are allowing the same flexibility as with the assignments but not all departments are following the same procedures for the exams. I hope you take this into consideration. Thank you.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau ynghylch yr arholiadau Ieithoedd Modern ac ymddiheuriadau os bu unrhyw ddryswch. Anfonwyd diweddariad ar ein gweithdrefnau arholi diwygiedig at bob myfyriwr ar 19 Ebrill trwy e-bost a dylai hyn ateb eich ymholiad.
-
CYF:66-2104-6763513 - Amseru arholiadau
Dy sylw: Modiwlau FR30130 and SP30130- oral exams should be more spread out. For students who study more than one language, they currently only have one or two days between each exam. In addition, final year Spanish students last year only had to learn four oral exam topics yet this year we are expected to learn six, despite having had a much more disruptive and unsettling year due to the pandemic. I think this needs to be taken into consideration. It has been a very difficult year as a finalist, and as well as the oral exams, the final exams are very demanding considering that none of us were able to complete what we had planned for our year abroad. Not having this experience to acquire knowledge could impact severely on our performance in the final exam.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw. Bob blwyddyn dim ond ffenestr o 4 diwrnod sydd gennym i gynnal yr holl arholiadau llafar, ar gyfer pob iaith ar bob lefel. Mae hyn oherwydd bod angen eu cynnal ar ôl i’r addysgu orffen, ond cyn dechrau'r cyfnod arholiadau swyddogol ar gyfer y brifysgol, ac mae'r wythnos hon bob amser yn glanio ar wythnos gŵyl banc gyntaf mis Mai. Rydym yn sicrhau na chaiff gwahanol ieithoedd ar yr un lefel eu cynnal ar yr un diwrnod ond mae'n anochel mai dim ond diwrnod neu ddau efallai fydd rhwng dwy iaith ar yr un lefel. Dyma sy’n anochel am astudio dwy neu fwy o ieithoedd mewn cynllun gradd a disgwylir i fyfyrwyr allu symud rhwng yr ieithoedd fel hyn.
Mae nifer y pynciau yn y flwyddyn olaf yn adlewyrchu lefel y dysgu a gyflawnwyd gan fyfyrwyr yn eu dosbarthiadau sgwrsio yn ystod y flwyddyn ac mae arholwyr allanol wedi cytuno eu bod yn effeithiol er mwyn cwrdd â chanlyniadau dysgu ac yn deg o ystyried yr amgylchiadau presennol. Dylai’r holl bynciau fod wedi cael sylw yn ystod y dosbarthiadau sgwrsio wythnosol
Bydd yr amgylchiadau presennol a'r anawsterau y mae’r myfyrwyr yn eu hwynebu oll yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar ddosbarthiadau’r graddau terfynol.
-
CYF:66-2104-9588213 - Arholiadau ieithoedd modern
Dy sylw: A number of students feel that our exams this year are unfair and unacceptable. Although the pandemic has changed everything about university, wellbeing and life, the only thing that has changed about our exams is that they have been moved online. Modern Languages students often live together and therefore have the same exams. The wifi of a university student is often not strong enough to support this. I have five of us in my house and even when we are just scrolling through Facebook, the wifi plays up, so how are we expected to complete exams? Also, one of my lecturers said that marking will take longer this year, as things take longer to do online. However, this is surely not what they think when it comes to our work, as we have exactly the same material to do and time to do it in as previous student had. It is just extremely unfair that alternative solutions have been found for many of my friends on different courses, such as essays being open for a week, or even a day, but when it comes to languages, we are just given this unfair treatment. I believed that this kind of exam would only happen when absolutely necessary, and this is definitely not necessary for modern languages students, as there are many other ways to test us.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau. Rwy'n credu bod yna gamddealltwriaeth posib. O ran Ieithoedd Modern penderfynwyd defnyddio profion ar-lein ar gyfer yr arholiadau am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae angen i ni gydymffurfio â chanlyniadau dysgu pob modiwl o ganlyniad i reoliadau’r brifysgol ac mae angen lefel benodol o allu ieithyddol ar gyfer llawer o'r canlyniadau hynny. Yn ail, mae angen i ni gynnal rheoliadau llym y cyrff llywodraethu sy'n rheoleiddio safonau academaidd er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymhwyster gradd y maent yn ei haeddu. Yn ein hachos ni mae'r safonau academaidd hyn yn cael eu rheoleiddio gan yr ASA ac mae angen i ni ddilyn eu meincnodau pwnc. Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i fyfyrwyr gael eu profi'n iawn am eu gallu ieithyddol ac nid yw hyn bob amser yn bosibl mewn pynciau ieithyddol heb asesiadau wedi'u hamseru, ond mewn pynciau eraill efallai na fydd angen asesiadau wedi'u hamseru i gyflawni'r rheoliadau hyn.
Ond nid yw'n wir mai'r unig wahaniaeth yw bod yr arholiadau ar-lein oherwydd gellir sefyll yr arholiadau hyn o fewn cyfnod o 24 awr ac fe'u cymedrolwyd i ystyried amgylchiadau'r pandemig, ac fe'u haddaswyd i gyd-fynd â chyfleoedd dysgu cyfyngedig y flwyddyn ddiwethaf hon. Mae ein holl arholiadau wedi cael eu gweld gan arholwyr allanol o sefydliadau eraill sydd wedi cadarnhau eu heffeithiolrwydd a'u tegwch.
Er bod yr arholiadau wedi'u hamseru ar ôl cychwyn, dylai ein holl arholiadau fod ar gael i'w cwblhau yn ystod cyfnod o 24 awr a dylai myfyrwyr gael digon o rybudd o ddyddiad yr arholiad. Os yw materion Wi-Fi yn debygol o achosi pryder yna mae posibilrwydd o archebu lleoedd astudio yn y llyfrgell er mwyn cynnal asesiadau o'r fath gyda chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy. Gweler: Prifysgol Aberystwyth - Gwasanaethau Gwybodaeth: Mannau astudio.
O ran marcio, mae'n wir bod hyn yn cymryd ychydig mwy o amser i'w wneud ar-lein, gan fod clicio’r llygoden ar gyfer pob cywiriad mewn un darn o waith yn cymryd mwy o amser na thrawiad sydyn gydag ysgrifbin. Lluoswch hyn â llawer o ddarnau o waith i bob aelod o staff ac mae'r llwyth gwaith yn cynyddu. Fodd bynnag, mae'r holl staff yn ymwybodol o'r terfyn amser 15 diwrnod gwaith ar gyfer dychwelyd gwaith wedi'i asesu a dylent gadw at hynny o hyd.
-
CYF:66-2104-5186013 - Addasu arholiadau
Dy sylw: Modern Languages are unfair this year because there have been no adjustments made on neither time nor material/tasks to be completed during the exam, the exams have to be completed in one three-hour sitting with many internet worries not to mention the added difficulty of doing things online such as strain on eyesight and headaches etc. Furthermore, it is simply unfair in comparison to the other subjects within the university and we are completely dissatisfied with the thoughtless arrangement of these exams.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau.
Bob blwyddyn mae gennym 4 diwrnod i gwblhau ein holl arholiadau llafar gan eu bod bob amser yn digwydd yn ystod yr wythnos cyn i'r wythnos arholiadau swyddogol ddechrau ac yn ystod wythnos gŵyl y banc. Ond mae'r pynciau ar gyfer yr arholiadau hyn i gyd yn dod o'r pynciau y gofynnir i fyfyrwyr eu paratoi trwy gydol y flwyddyn ar gyfer eu dosbarthiadau sgwrsio ac felly ni ddylai myfyrwyr tair iaith orfod paratoi 18 pwnc mewn un wythnos oherwydd disgwylir y bydd myfyrwyr eisoes yn gallu sgwrsio am y pynciau hyn erbyn diwedd y cyfnod addysgu.
O ran yr arholiad tair awr wedi'i amseru: rydym wedi darparu addasiad mawr i fyfyrwyr drwy gynnal yr arholiad ar-lein. Mae hyn yn golygu y bydd gan fyfyrwyr yr holl gymhorthion cymorth iaith ar-lein ar gael iddynt, na fyddai ar gael yn ystod amgylchiadau 'arferol'. Fodd bynnag, mae'r adran wedi ymgynghori, a bydd nifer o addasiadau yn cael eu gwneud i’r gweithdrefnau asesu. Fe'ch hysbysir o'r rhain yn fuan.
Os yw myfyrwyr yn teimlo nad yw eu hamgylchedd astudio yn ffafriol i gymryd yr asesiadau hyn yna gellir archebu lleoedd astudio personol yn y brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/hughowen/mannauastudio/
-
CYF:66-2103-9968916 - Oriau sywddfa staff
Dy sylw: It would be *really* helpful to be able to find out what staff's office hours are without having to ask each member of staff - either as part of their staff profile on the Aber website and/or in an automatic email signature. Very often I try to find out staff's office hours (without wanting to bother them just to find out when they are) but can't find this anywhere. (If this information is accessible somewhere, take my comment as it would be useful if this it was easier to find.) Thank you!
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylw. Mae'r oriau swyddfa i'w gweld ar Safle Gwybodaeth Israddedig BlackBoard (o dan 'Ieithoedd Modern: Gwybodaeth Israddedig') ac o dan broffiliau aelodau o staff ar y tudalennau gwe.
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2010-977315 - Dim blwyddyn dramor
Dy sylw: I am a final year student in the Modern Languages department. The other students in my year and I missed a significant proportion of our year abroad due to COVID-19. For those of us studying more than one language (which is the vast majority of us), for many of us this meant only one week in a country of one of our target languages, and for some no time at all. The year abroad is the year where our language skills are supposed to develop most considerably, meaning that we are now lacking the necessary skills for our final year. We are in desperate need of more contact time with our lecturers as individual study is by far less effective. Without additional in person support, I fear that we will graduate without the necessary knowledge and language abilities to work in our field.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau. Mae'n anffodus bod rhai myfyrwyr IM wedi colli allan ar eu profiad blwyddyn dramor heb unrhyw fai arnynt hwy na'r brifysgol. Yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill a Medi, cafodd myfyrwyr fynediad at yr holl ddeunydd Lefel 2 er mwyn eu helpu i adolygu a pharatoi ar gyfer y flwyddyn olaf gymaint â phosibl, er fy mod yn deall nad yw hyn yn cymryd lle’r profiad o flwyddyn dramor, gan na all unrhyw beth wneud hynny. Mae'r adran IM yn ychwanegu un awr ychwanegol o amser cyswllt (drwy MS Teams) er mwyn helpu myfyrwyr i ddal i fyny â dysgu iaith. Bydd hyn yn cychwyn yr wythnos nesaf. Felly bydd gennych 5 awr gyswllt yr wythnos ar gyfer SP/FR/GE/IT30130 ynghyd â llu o ddeunydd a grëwyd gan aelodau o staff ymroddedig a'i gyflwyno ar BlackBoard. Mae gennych gyfle hefyd i gysylltu ag unrhyw un o'ch tiwtoriaid yn ystod eu horiau adborth a chynghori i gael sgyrsiau un i un (yn yr iaith darged er mwyn ymarfer os hoffech) neu i gael cyngor am unrhyw agwedd ar eich dysgu.