CYF:66-2104-9588213 - Arholiadau ieithoedd modern
Dy sylw: A number of students feel that our exams this year are unfair and unacceptable. Although the pandemic has changed everything about university, wellbeing and life, the only thing that has changed about our exams is that they have been moved online. Modern Languages students often live together and therefore have the same exams. The wifi of a university student is often not strong enough to support this. I have five of us in my house and even when we are just scrolling through Facebook, the wifi plays up, so how are we expected to complete exams? Also, one of my lecturers said that marking will take longer this year, as things take longer to do online. However, this is surely not what they think when it comes to our work, as we have exactly the same material to do and time to do it in as previous student had. It is just extremely unfair that alternative solutions have been found for many of my friends on different courses, such as essays being open for a week, or even a day, but when it comes to languages, we are just given this unfair treatment. I believed that this kind of exam would only happen when absolutely necessary, and this is definitely not necessary for modern languages students, as there are many other ways to test us.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr am eich sylwadau. Rwy'n credu bod yna gamddealltwriaeth posib. O ran Ieithoedd Modern penderfynwyd defnyddio profion ar-lein ar gyfer yr arholiadau am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae angen i ni gydymffurfio â chanlyniadau dysgu pob modiwl o ganlyniad i reoliadau’r brifysgol ac mae angen lefel benodol o allu ieithyddol ar gyfer llawer o'r canlyniadau hynny. Yn ail, mae angen i ni gynnal rheoliadau llym y cyrff llywodraethu sy'n rheoleiddio safonau academaidd er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymhwyster gradd y maent yn ei haeddu. Yn ein hachos ni mae'r safonau academaidd hyn yn cael eu rheoleiddio gan yr ASA ac mae angen i ni ddilyn eu meincnodau pwnc. Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i fyfyrwyr gael eu profi'n iawn am eu gallu ieithyddol ac nid yw hyn bob amser yn bosibl mewn pynciau ieithyddol heb asesiadau wedi'u hamseru, ond mewn pynciau eraill efallai na fydd angen asesiadau wedi'u hamseru i gyflawni'r rheoliadau hyn.
Ond nid yw'n wir mai'r unig wahaniaeth yw bod yr arholiadau ar-lein oherwydd gellir sefyll yr arholiadau hyn o fewn cyfnod o 24 awr ac fe'u cymedrolwyd i ystyried amgylchiadau'r pandemig, ac fe'u haddaswyd i gyd-fynd â chyfleoedd dysgu cyfyngedig y flwyddyn ddiwethaf hon. Mae ein holl arholiadau wedi cael eu gweld gan arholwyr allanol o sefydliadau eraill sydd wedi cadarnhau eu heffeithiolrwydd a'u tegwch.
Er bod yr arholiadau wedi'u hamseru ar ôl cychwyn, dylai ein holl arholiadau fod ar gael i'w cwblhau yn ystod cyfnod o 24 awr a dylai myfyrwyr gael digon o rybudd o ddyddiad yr arholiad. Os yw materion Wi-Fi yn debygol o achosi pryder yna mae posibilrwydd o archebu lleoedd astudio yn y llyfrgell er mwyn cynnal asesiadau o'r fath gyda chysylltiad rhyngrwyd dibynadwy. Gweler: Prifysgol Aberystwyth - Gwasanaethau Gwybodaeth: Mannau astudio.
O ran marcio, mae'n wir bod hyn yn cymryd ychydig mwy o amser i'w wneud ar-lein, gan fod clicio’r llygoden ar gyfer pob cywiriad mewn un darn o waith yn cymryd mwy o amser na thrawiad sydyn gydag ysgrifbin. Lluoswch hyn â llawer o ddarnau o waith i bob aelod o staff ac mae'r llwyth gwaith yn cynyddu. Fodd bynnag, mae'r holl staff yn ymwybodol o'r terfyn amser 15 diwrnod gwaith ar gyfer dychwelyd gwaith wedi'i asesu a dylent gadw at hynny o hyd.