Adborth RhWN - Seicoleg
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2104-9757015 - Opsiwn dysgu arlein
Dy sylw: I think from now on we should have a permanent choice of whether to study face to face or online, as learning online has worked well for a lot of people i.e. mature students, people not living in student accommodation and are a distance away, are more confident communicating online etc. Also, if we are wearing masks and are separated in exam hall-type rooms for practicals/seminars, communication is more restricted than it would be online (in my opinion) as when learning online we are typically in our own environment without any muffled communication with masks. I also think that assessments in lieu of the exam are the way forward to replace the traditional exam format. It is old fashioned and outdated, as we are expected to submit all coursework electronically, yet we then go back to traditional pen and paper for exams. Having the option to complete traditional exams in halls via laptop (as we are predominantly accustomed to) could be an alternative. Mental/physical health has also been adversely affected by the changes due to the pandemic. So I think we should temporarily be able to have the chance to resit module exams, in which poor health may have caused a lower grade than in normal circumstances. I think this has opened our eyes to the benefits of learning online.
Ein hymateb:
Diolch am dreulio amser yn rhannu eich sylwadau. Mae’r materion yr ydych yn sôn amdanynt mor groyw yma yn rhai sy’n gyffredin i lawer o bobl. Mewn byd delfrydol, ni fyddem wrth reswm yn cynnal trafodaeth fel hon. Rwy’n cydnabod eich rhwystredigaethau – mae nifer ohonom yn eu rhannu. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddysgu drwy’r arferion gorau sydd wedi dod yn rhan o’n darpariaeth eleni er mwyn gwella’r profiad dysgu yn y blynyddoedd sydd i ddod. Rydym yn obeithiol ein bod yn cyrraedd diwedd y cyfnod hwn, ac y byddwn yn dychwelyd i ddysgu mwy ‘arferol’ y flwyddyn nesaf, ond rwy’n hynod ddiolchgar ichi am eich sylwadau. Mae’r trafodaethau hyn yn digwydd drwy’r amser yn y Brifysgol, a byddaf yn eu hystyried ac yn eu codi yn y fforymau priodol.
-
CYF:66-2104-5112115 - Meini prawf marcio
Dy sylw: There is very little consensus across markers in what is expected from an essay. The marks we receive very much depend on luck; that is, who you get marked by. This is unfair and stressful for students.
Ein hymateb:Diolch am eich sylwad. Mae gwahanol ddarnau gwaith o wahanol fodiwlau yn gofyn am ddulliau gwahanol o weithio wrth reswm, ond mae gennym broses gymedroli gadarn ac mae llawer iawn o’r traethodau yn cael eu marcio ddwywaith fan leiaf i sicrhau cysondeb rhwng marcwyr. Pan fyddwch yn cael eich marciau yn ôl, mae’n syniad da trefnu apwyntiad â marciwr/arweinydd y modiwl i drafod y rhesymau dros y marc a sut y gallech wella, os oes modd. Byddaf yn anfon eich sylwad ymlaen at ‘dysgu ac addysgu’ a fydd yn ei ystyried pan fyddwn yn trafod ein gwaith marcio a chymedroli.
-
CYF:66-2104-8415315 - Canmol darlithydd
Dy sylw: Modiwl: PS32020 -Victoria has been awesome on this module. Very engaging and creative with her online presentations and lectures. Shame we haven't been able to get more out of the module as online live engagement has been so limited from students. I really feel for Victoria at the effort she has clearly put in with such a small amount of engagement. Love the topic - kind of wish it was a 2nd year module so the stress of diss wasn't distracting people from the module.
Ein hymateb:Diolch am eich sylwad. Byddaf yn ei drosglwyddo i’r sawl dan yr ydych yn ei enwi. Ydy, mae’n rhwystredig nad ydym yn gallu dod at ein gilydd. Rydym yn aros yn eiddgar at weld hyn yn dod i ben. Diolch eto. -
CYF:66-2102-8850325 - Ffiniau graddau
Dy sylw: I’ve heard from people in other departments that they’re lowering grade boundaries for their final degree mark (ie to 68, 58, 48). Why is this only happening on specific courses and not for everyone? Or is this something still being discussed?
Ein hymateb:Dywedwyd wrthym ni bod e-bost ynglŷn â’r mater hwn wedi’i anfon at bob myfyriwr. Gallai’r ddolen hon fod yn ddefnyddiol: https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/living-and-learning-in-aberystwyth-2021-22/students/your-studies/faqs/#a-ywr-brifysgol-yn-dilyn-polisi-dim-anfantais -
CYF:66-2101-7502929 - Ffafrio dysgu arlein
Dy sylw: I am much preferring the online learning, as I feel that it is more interactive, I can learn a lot easier, I feel more confident to contribute and as a mature student who lives a considerable distance away from university, it suits my lifestyle better. Whereas with the F2F learning currently, rooms are organised in a segregated exam hall layout, masks are worn, and it is harder to hear and comfortably concentrate (with wearing masks) and more awkward to interact.
Ein hymateb:
Diolch yn fawr iawn ichi am eich sylwadau cadarnhaol.
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2010-391226 - Oriau addysgu
Dy sylw: The amount of teaching this semester is an absolute joke. I only have pre-recorded lectures and I get 2 a week. That's all the teaching I'm getting, 1 recording per module a week and links to youtube videos or free online articles. Is the university really suggesting that 1 30 minute lecture a week is an appropriate amount of teaching? Never has my timetable consisted of just 2 lectures a week. There is no excuse, I'm not even getting any live online lectures, the university is literally providing the minimum teaching that is possible as you can't really go any less than a lecture a week. I'm still paying full 9 grand and getting youtube videos for that?
Ein hymateb:
Mae’n ddrwg iawn gen i glywed am eich pryderon ynglŷn ag oriau cyswllt eich cwrs. Yn anffodus, ni allaf roi ateb manwl ichi ynglŷn â’ch amgylchiadau penodol chi heb imi wybod ym mha flwyddyn yr ydych chi a pha fodiwlau yr ydych yn eu hastudio, eich enw a’ch ffrwd seminar, grwpiau gwaith ac yn y blaen. Byddwn yn awyddus iawn i gael y manylion hynny er mwyn ymchwilio’n fanylach i’r mater. Nid yw nifer yr oriau cyswllt yr ydych yn eu crybwyll yn adlewyrchu lefel y ddarpariaeth a gynlluniwyd ar eich cyfer.
Mae’r Brifysgol wedi gweithio’n galed iawn dros lawer o fisoedd i addasu’r campws a’i gweithgareddau yng ngoleuni’r pandemig byd-eang. Serch yr heriau sydd wedi dod i ran pob prifysgol o ganlyniad i COVID-19 ac, yn wir, i gymdeithas gyfan, nod y Brifysgol yw cynnig profiad i’w myfyrwyr sydd gyn debyced â phosib i’r profiad rhagorol y ceisiwn ei sicrhau bob amser.
Yn yr Adran Seicoleg, mae nifer yr oriau dysgu cyswllt yn amrywio o’r naill wythnos i’r llall, ac mae’n dibynnu ar y flwyddyn a’r modiwl astudio, os oes gennych weithdai neu sesiynau tiwtora, os oes gennych waith cwrs, ac ati. Bydd rhagor o oriau cyswllt rai wythnosau o’u cymharu ag wythnosau eraill. Nid oes gennym wythnos ddarllen ‘chwaith, felly nid oes toriad yn ystod y semester. Mae nifer yr oriau cyswllt hefyd yn amrywio gan ddibynnu ar y gwaith cwrs a’r aseiniadau eraill a roddir i fyfyrwyr, felly ceir digon o amser i gwblhau’r rhain. Dylech dreulio’r rhan fwyaf o’ch amser cynnal astudiaethau hunangyfeiriedig, fel y dylai pethau fod mewn blwyddyn ‘arferol’.
Deallwn fod nifer fawr o fyfyrwyr wedi dangos empathi a dealltwriaeth tuag at y staff dysgu yng ngoleuni’r pwysau sydd arnyn nhw ac , yn wir, ar bob un ohonom oherwydd COVID-19, ac maent wedi bod yn amyneddgar iawn.
-
CYF:66-2012-9146601 - Darlithydd gwych
Dy sylw: Modiwl: PS21310 - Catherine O Hanlon the lecturer, is amazing at her job. She teaches in a thorough and understandable manner, with attention to detail. I had a consistent 3rd last yr gaining 45 twice!! This year with Catherine teaching me I obtained a 58!!!! All thanks to Catherine bringing this subject to life for me. Just letting you know :)
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwadau cadarnhaol. Byddaf yn eu trosglwyddo i'r sawl yr ydych yn ei enwi. Rwy'n sicr y bydd yn ddiolchgar iawn.