CYF:66-2104-6763513 - Amseru arholiadau

Dy sylw: Modiwlau FR30130 and SP30130- oral exams should be more spread out. For students who study more than one language, they currently only have one or two days between each exam. In addition, final year Spanish students last year only had to learn four oral exam topics yet this year we are expected to learn six, despite having had a much more disruptive and unsettling year due to the pandemic. I think this needs to be taken into consideration. It has been a very difficult year as a finalist, and as well as the oral exams, the final exams are very demanding considering that none of us were able to complete what we had planned for our year abroad. Not having this experience to acquire knowledge could impact severely on our performance in the final exam.

Ein hymateb:

Diolch yn fawr am eich sylw. Bob blwyddyn dim ond ffenestr o 4 diwrnod sydd gennym i gynnal yr holl arholiadau llafar, ar gyfer pob iaith ar bob lefel. Mae hyn oherwydd bod angen eu cynnal ar ôl i’r addysgu orffen, ond cyn dechrau'r cyfnod arholiadau swyddogol ar gyfer y brifysgol, ac mae'r wythnos hon bob amser yn glanio ar wythnos gŵyl banc gyntaf mis Mai. Rydym yn sicrhau na chaiff gwahanol ieithoedd ar yr un lefel eu cynnal ar yr un diwrnod ond mae'n anochel mai dim ond diwrnod neu ddau efallai fydd rhwng dwy iaith ar yr un lefel. Dyma sy’n anochel am astudio dwy neu fwy o ieithoedd mewn cynllun gradd a disgwylir i fyfyrwyr allu symud rhwng yr ieithoedd fel hyn.

Mae nifer y pynciau yn y flwyddyn olaf yn adlewyrchu lefel y dysgu a gyflawnwyd gan fyfyrwyr yn eu dosbarthiadau sgwrsio yn ystod y flwyddyn ac mae arholwyr allanol wedi cytuno eu bod yn effeithiol er mwyn cwrdd â chanlyniadau dysgu ac yn deg o ystyried yr amgylchiadau presennol. Dylai’r holl bynciau fod wedi cael sylw yn ystod y dosbarthiadau sgwrsio wythnosol

Bydd yr amgylchiadau presennol a'r anawsterau y mae’r myfyrwyr yn eu hwynebu oll yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar ddosbarthiadau’r graddau terfynol.