REF:66-2010-5078713 - Cyflwyniadau Powerpoint dryslyd

Dy sylw: Modiwl: BR20620 I enjoy this module so far and communication is excellent especially in the current climate of Covid-19. However, i find the powerpoint presentations quite confusing, making it difficult to study at home and gain a comprehensive understanding.

Ein hymateb:

Diolch am eich adborth cadarnhaol ynglŷn â'r modiwl hwn. Rwyf wedi gofyn i gydlynydd y modiwl atgoffa myfyrwyr y modiwl o'r gefnogaeth sydd ar gael. Yn fyr:

  • Mae rhestr wirio gweithgaredd ar gyfer pob wythnos ac mae'r eitem olaf bob amser yn sôn am wneud nodyn o unrhyw ddeunydd yr oeddech chi'n ei chael yn anodd neu yr hoffech chi wirio'ch dealltwriaeth ohono a defnyddio’r llwybrau penodol i adael i staff wybod bod angen paratoi a mynd dros bethau yn y sesiwn fyw yr wythnos nesaf.
  • Mae byrddau trafod, arolygon SurveyMonkey a llwybrau e-bost (ac rydyn ni’n atgoffa’r myfyrwyr amdanynt yn aml) ond ni fu llawer o ymgysylltu â nhw.
  • Defnyddir cwisiau trwy Kahoot neu yn y sesiynau byw i asesu dealltwriaeth myfyrwyr sydd wedi codi rhai pwyntiau i'w cynnwys eto yn ystod y sesiynau hynny.
  • Mae sesiynau byw yn cael eu recordio ar gyfer y rhai sy'n methu â mynychu.