Adborth RhWN - Cyfrifiadureg
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
23/24 Semester 1
-
CYF: 66-2310-4157625 - Trawsgrifiadau Panopto
Dy sylw: It would be useful if Panopto had subtitles/transcript. I learn better when I can both read and listen. There is an option to do this on the lecturer side when they upload the recording, but cannot be enabled on student side.
Ein hymateb:
Mae Panopto yn caniatáu inni alluogi capsiynau awtomatig. Mae'n seiliedig ar adnabod llais awtomatig a byddwch chi'n gwybod bod hyn yn gweithio i ryw raddau ond nid yw bob amser yn berffaith. Po agosaf yw'r iaith at yr hyn y mae pobl yn aml yn ei ddweud, y gorau y mae'n gweithio. Os bydd rhywun yn defnyddio termau anarferol, mae'n dod yn llai dibynadwy. Mae hyn yn golygu bod termau technegol a ddefnyddir mewn darlithoedd yn tueddu i fod yn systematig anghywir, gan fod termau cyfrifiadureg arbenigol yn cael eu defnyddio'n llai aml gan y boblogaeth ehangach.
Yn anffodus, nid oes gennym yr adnoddau i rywun fynd drwy’r capsiynau a'u cywiro.
Byddai'n ddefnyddiol gwybod a ydych chi'n credu y byddai galluogi capsiynau awtomatig a byw gyda'r camgymeriadau na ellir eu hosgoi yn syniad da.
22/23 Semester 2
-
CYF: 66-2305-1848522 - CS22120: Sgriptiau Gwersi
Dy sylw: CS22120: One thing I forgot to add in the meq, but was so helpful I thought it'd be worth adding a comment. Having a script for every lecture made my life so much easier in studying, I have bad hearing (and auto cc is awful) so not needing to replay a section 50 times to hear what the lecturer is trying to say was extremely appreciated. It'd be nice if more modules could do the same but I understand that takes a lot of work.
Ein hymateb:
Mae'n wych gweld gwerthfawrogiad o'r gwaith aruthrol y mae angen ei fuddsoddi i greu trawsgrifiad go iawn ac hefyd nad yw'r adnodd capsiwn awtomatig yn addas at y diben, yn enwedig mewn pwnc gyda llawer o dermau technegol a fydd yn cael eu trawsgrifio'n anghywir yn aml pan ddefnyddir yr adnodd awtomatig.
Yn anffodus, nid oes modd i ni ddarparu'r gwasanaeth hwn ar gyfer pob modiwl. Gobeithiwn y gall y sleidiau a'r deunydd dysgu ychwanegol (sy'n cael eu creu'n unigol neu eu darparu ar restrau darllen) fod o gymorth.
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2202-4407909 - Ei chael hi'n anodd dysgu ar-lein
Dy sylw: CS11010 I am struggling to learn in this module as it, apart from on practical session, completely online and independent, without any timetabled lecture slots or general interaction with my lecturer. I feel after over a year of almost completely online learning, which many students, myself included, struggled with, this module staying completely online, with little support is not the best way to have it taught.
Ein hymateb:Mae’n ddrwg gennym ni glywed hyn! Rydym ni’n rhedeg modiwlau gwahanol yn wahanol, gan gynnwys rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb a rhywfaint o ryngweithio. Mae’n anodd canfod y cydbwysedd cywir ar adeg pan na allwn ddysgu grwpiau mawr mewn darlithfeydd o hyd. Ar gyfer CS11010, mae’r darlithydd yn aml ar-lein ar Discord (neu ar Teams ar gais) ac ar gael i sgwrsio gyda myfyrwyr. Mae’n ymddangos fod y myfyrwyr rydym ni wedi eu holi am hyn yn meddwl mai dyma’r ffordd orau i fynd, gan ei bod yn gadael i chi ddysgu yn eich pwysau ond gallwch gysylltu â darlithydd o hyd. Er enghraifft yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae’r darlithydd wedi bod yn y sianel llais ar Discord, ar gael i’r myfyrwyr alw heibio, am rai oriau (ac mae yna nawr wrth i mi siarad). Mae nifer o fyfyrwyr wedi gwneud hyn. Hoffem ni eich annog i alw heibio gweinydd Discord a sgwrsio gyda chydlynydd y modiwl.
21/22 Semester 1
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2102-3798605 - Rhyngwyneb Cymraeg
Dy sylw: Nid oes gan y system fewngofnodi newydd ar gyfer adran Cyfrifiadureg opsiwn iaith Gymraeg. A oes posib ychwanegu opsiwn Gymraeg os gwelwch yn dda? https://openidc.dcs.aber.ac.uk
Ein hymateb:
Cytunwn yn llwyr â’r farn a fynegir yn y sylwad RhWN hwn: dylai pob un o wasanaethau TGCh y Brifysgol fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Nid yw’r gwasanaeth penodol a grybwyllir yma (https://openidc.dcs.aber.ac.uk/) wedi’i fwriadu ar gyfer y cyhoedd eto. Fe’i darparwyd ar gyfer myfyriwr penodol i’w helpu â’i brosiect blwyddyn olaf. Nid ni sy’n gyfrifol am ddatblygu’r feddalwedd hon. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfieithiad, a bydd ar gael pan fydd y gwasanaeth yn cael ei hysbysebu’n ehangach.
20/21 Semester 1
-
CYF:66-2011-355825 - Anodd dilyn cynnwys y cwrs CS25820
Dy sylw: Modiwl: CS25820 I have literally no idea what is going to be on the exam for this module, the lectures are basically just anecdotes and the slides are useless. All the videos are super long compared to my other modules and I'm pretty sure lecturers have been told to keep them to like 20 mins at most. Its really hard to stay engaged with the content basically.
Ein hymateb:
Diolchwn ichi am eich sylwadau. Ar y cyfan, roedd symud y dysgu ar-lein yn heriol i’r myfyrwyr a’r staff fel ei gilydd. Mae gan y gwahanol fodiwlau ofynion a nodweddion gwahanol. Felly, nid oes dim rheolau gan yr adran sy’n ymwneud â sleidiau neu fideos. Er bod y cyngor cyffredinol yn dweud bod fideos byrrach yn well, nid oes dim rheolau gennym ynglŷn â pha mor hir y dylai fideos fod, ac nid ydym yn credu y byddai cyflwyno cyfyngiad fel hyn yn ddefnyddiol.
Mae gan wahanol fyfyrwyr ddulliau gwahanol o astudio, ac maent yn elwa ar wahanol fathau o ddeunyddiau dysgu. Rydym hefyd yn awgrymu bod myfyrwyr yn cysylltu â chydlynydd y modiwl os nad yw’r deunydd sydd wedi’i ddarparu yn gydnaws â’u ffordd bersonol nhw o ddysgu. Os yw hyn yn anodd, neu os ymddengys nad yw’n helpu, dylid cysylltu â’r tiwtor personol er mwyn cael rhagor o gyngor. Hefyd, mae’r Gwasanaeth Cynghori (a ddarperir i fyfyrwyr ar hwb Discord oherwydd yr amgylchiadau presennol) yn lle da i ofyn am help.
-
CYF:66-2011-2001906 - Hyd y darlithoedd
Dy sylw: Lectures could be done better broken up into separate ~20 minute actual videos, it's annoying to see 50 min lectures when all other modules im taking have shorter videos
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwad. Mae gan bob un o’n cydlynwyr modiwlau eu harddull ddysgu eu hunain sy’n addas iddyn nhw ac sy’n addas i’r modiwl penodol. Yn y rhan fwyaf o fodiwlau, rydym yn defnyddio fideos byrion o wahanol hyd. Anfonwch eich sylwadau yn uniongyrchol at gydlynydd y modiwl dan sylw. Dychmygaf y bydd sylwadau fel hyn yn cael croeso cynnes. Ond, os na fydd hyn yn digwydd, awgrymaf eich bod yn cysylltu â’ch tiwtor personol neu eich cydlynydd blwyddyn.