CYF:66-2102-3798605 - Rhyngwyneb Cymraeg

Dy sylw: Nid oes gan y system fewngofnodi newydd ar gyfer adran Cyfrifiadureg opsiwn iaith Gymraeg. A oes posib ychwanegu opsiwn Gymraeg os gwelwch yn dda? https://openidc.dcs.aber.ac.uk

Ein hymateb:

Cytunwn yn llwyr â’r farn a fynegir yn y sylwad RhWN hwn: dylai pob un o wasanaethau TGCh y Brifysgol fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Nid yw’r gwasanaeth penodol a grybwyllir yma (https://openidc.dcs.aber.ac.uk/) wedi’i fwriadu ar gyfer y cyhoedd eto. Fe’i darparwyd ar gyfer myfyriwr penodol i’w helpu â’i brosiect blwyddyn olaf. Nid ni sy’n gyfrifol am ddatblygu’r feddalwedd hon. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfieithiad, a bydd ar gael pan fydd y gwasanaeth yn cael ei hysbysebu’n ehangach.