CYF:66-2011-355825 - Anodd dilyn cynnwys y cwrs CS25820

Dy sylw: Modiwl: CS25820 I have literally no idea what is going to be on the exam for this module, the lectures are basically just anecdotes and the slides are useless. All the videos are super long compared to my other modules and I'm pretty sure lecturers have been told to keep them to like 20 mins at most. Its really hard to stay engaged with the content basically.

Ein hymateb:

Diolchwn ichi am eich sylwadau. Ar y cyfan, roedd symud y dysgu ar-lein yn heriol i’r myfyrwyr a’r staff fel ei gilydd. Mae gan y gwahanol fodiwlau ofynion a nodweddion gwahanol. Felly, nid oes dim rheolau gan yr adran sy’n ymwneud â sleidiau neu fideos. Er bod y cyngor cyffredinol yn dweud bod fideos byrrach yn well, nid oes dim rheolau gennym ynglŷn â pha mor hir y dylai fideos fod, ac nid ydym yn credu y byddai cyflwyno cyfyngiad fel hyn yn ddefnyddiol.

Mae gan wahanol fyfyrwyr ddulliau gwahanol o astudio, ac maent yn elwa ar wahanol fathau o ddeunyddiau dysgu. Rydym hefyd yn awgrymu bod myfyrwyr yn cysylltu â chydlynydd y modiwl os nad yw’r deunydd sydd wedi’i ddarparu yn gydnaws â’u ffordd bersonol nhw o ddysgu. Os yw hyn yn anodd, neu os ymddengys nad yw’n helpu, dylid cysylltu â’r tiwtor personol er mwyn cael rhagor o gyngor. Hefyd, mae’r Gwasanaeth Cynghori (a ddarperir i fyfyrwyr ar hwb Discord oherwydd yr amgylchiadau presennol) yn lle da i ofyn am help.