Adborth RhWN - Adran y Gwyddorau Bywyd
Cliciwch ar y teitlau i weld yr adborth a'r ymateb
Noder: mae'n bosibl bod y sylwadau a'r ymatebion wedi'u golygu. Roedd y wybodaeth yn gywir ar y pryd ond gallai fod wedi'i disodli. Cyhoeddir y sylwadau yn yr iaith y derbyniwyd y sylw ac ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
24/25 Semester 1
-
CYF: 66-2410-8446816 - Newidiadau i'r amserlen
Dy sylw: For the frontiers in biosciences module which has a two hour lecture in 3.02 in the physical sciences building. The room is way too small for the number of students and gets way too hot. Can the room be changed please
Ein hymateb:
Diolch am roi gwybod i ni am y broblem gyda'r ystafell a glustnodwyd ar gyfer y modiwl hwn. Mae'r sesiynau wedi cael eu symud i ystafell arall am weddill y semester a bydd yr amserlenni a’r calendrau yn diweddaru dros nos.
23/24 Semester 1
-
CYF: 66-2310-5901326 - Mynediad at E-PAD
Dy sylw: Can the nursing students EPAD be added to the student sites/ websites page on the university website if possible please. Its hard to locate if it is not saved on our tabs. Our only other way to access it is to go via blackboard and into last years module. Thankyou
Ein hymateb:Diolch yn fawr am dynnu fy sylw at hyn a gallaf roi’r adborth canlynol:'Cafodd pob myfyriwr blwyddyn gyntaf ddarlith 2 awr wyneb yn wyneb ar 25 Medi 2023 ar sut i gael mynediad i'r E-PAD, recordiwyd y sesiwn hon hefyd ar Panopto ac mae'n parhau i fod ar gael i'w gweld ar Blackboard ar eu modiwl ar gyfer lleoliadau ymarfer ar NU10460 yn y 'Ffolder Deunydd Dysgu'.Gellir dod o hyd i'r ddolen yma: https://blackboard.aber.ac.uk/ultra/courses/_47309_1/outlineMae’r ddolen i’r E-PAD yn un Cofrestru Untro a darperir cyfarwyddiadau clir hefyd gan yr Arweinydd E-PAD i fyfyrwyr ac Aseswyr Ymarfer a Goruchwylwyr Ymarfer i’w cynorthwyo wrth ymgymryd â lleoliadau ymarfer.Yn ogystal, ymgymerodd myfyrwyr ag astudio hunan-gyfeiriedig ar 17 Hydref 2023 yn benodol ar gyfer ymgyfarwyddo â sut mae’r E-PAD yn gweithio a sut i gael mynediad ato. Mae'r E-PAD yn adroddiad personol a chyfrinachol o'u cynnydd mewn lleoliadau ymarfer clinigol.Bydd yr arweinydd E-PAD hefyd yn rhoi cyhoeddiad ychwanegol i fyfyrwyr heddiw ar Blackboard ac yn ail-rannu’r holl ddolenni mynediad i gynorthwyo eu taith ddysgu ymhellach. Gellir cael mynediad at yr E-PAD drwy ffôn clyfar, llechen, gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, ac ar ôl cael mynediad, anogir myfyrwyr i lawrlwytho’r ap er mwyn hwyluso’r broses o gael mynediad.Os bydd gan fyfyrwyr ymholiadau, fe'u hanogir i gysylltu â'r arweinydd E-PAD, Gwyn Jones: gwj377@aber.ac.uk -
CYF: 66-2310-9656609 - Bwyta mewn darlithoedd
Dy sylw: Ban eating in lectures. It’s extremely distracting especially for those with neurodivergent issues or sensory problems.
Ein hymateb:Diolch yn fawr am eich sylw drwy Rho Wybod Nawr.Ni chaniateir i fyfyrwyr ddod â bwyd na diod (ac eithrio dŵr potel) i ddarlithfeydd neu fannau astudio eraill (ac yn sicr nid labordai) ac felly dylai'r aelod o staff sy'n cyflwyno’r ddarlith fod yn gorfodi ac yn cadw llygad ar hyn. Byddaf yn sicrhau bod y neges hon yn cael ei hailadrodd i staff a byddwn yn annog y Brifysgol i wneud yn siŵr bod arwyddion ‘Dim Bwyta’ ym mhob darlithfa - rwyf newydd wirio yn Edward Llwyd ac mae’r arwyddion yn anghyson. -
CYF: 66-2303-8025507 - Benthyg Microsgopau
Dy sylw: Would love for microscopes to be more accessible to students in ibers. Maybe to borrow or for drop in access
Ein hymateb:Diolch am eich sylw Rho Wybod Nawr ac rwy'n ymddiheuro am yr oedi wrth ymateb i chi.Ar ôl adolygu eich awgrym, rydym yn ystyried defnyddio’r ‘labordy anrhydedd’ neu Labordy 2.02. Fodd bynnag, mae angen i ni adolygu hyn a gweithio o amgylch unrhyw weithgareddau sydd wedi'u hamserlennu. Byddwn yn awyddus i gefnogi hyn, ond byddai angen adfer y labordy ymchwil anrhydedd unwaith y bydd yr holl weithgarwch sy’n gysylltiedig ag anifeiliaid yno yn cael ei drosglwyddo i’r tŷ anifeiliaid newydd.Diolch unwaith eto.
21/22 Semester 2
-
CYF:66-2201-3660319 - Cael trafferth wrth wneud traethawd hir
Dy sylw: BR36440 Hello, I'm really struggling with completing my dissertation and I'm really concerned that I won't pass it. My advisor has been nearly absent throughout, who else can I turn to for support? Thank you
Ein hymateb:Diolch am eich sylw. Rydym wedi anfon yr ebost yma at bawb ar y modiwl:Gobeithio bod eich prosiectau’n mynd yn dda, a’ch bod yn barod i ddychwelyd at weithio arnyn nhw ar ôl yr AILOEs. Y gobaith yw eich bod yn gwneud yn dda hanner ffordd drwyddi. Os nad ydych chi, rwy’n argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â’ch goruchwyliwr i bennu sut y gallech ddal i fyny’n effeithiol.Dyma eich atgoffa o un neu ddau o bethau:Eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â’ch goruchwyliwr i drefnu cyfarfodydd a chymorth. Rhowch dri diwrnod gwaith i’ch goruchwyliwr ymateb i e-bost, ac os nad ydynt yn ateb ar ôl y cyfnod hwn, anfonwch air i’w hatgoffa. Rydym ni’n derbyn llawer o negeseuon e-bost bob dydd, ac ambell waith bydd un yn mynd ar goll yn ddamweiniol! Os ydych chi’n dal i brofi anawsterau wrth gysylltu â’ch goruchwyliwr ar ôl dilyn y cyngor hwn, mae croeso i chi gysylltu â'r cydlynydd modiwl.
21/22 Semester 1
-
CYF:66-2111-3180124 - Mwynhau'r modiwl
Dy sylw: BR13210 The module is enjoyable and so far I think there has been a good opportunity to show our ability as students of this module.
Ein hymateb:
Diolch i chi am roi'r amser i ysgrifennu i roi adborth cadarnhaol i ni ar y modiwl. Fe'i gwerthfawrogir yn fawr. Dymuniadau gorau
-
CYF:66-2108-3871720 - Argymhellion darllen
Dy sylw: I would like to see some pre reading recommendations to feel more prepared for the academic year, and maybe a course schedule as some modules do not include this. It would make it easier to schedule and plan any readings beforehand.
Ein hymateb:
Mae rhestrau darllen y modiwlau rydych chi wedi eu crybwyll wedi eu nodi isod ac maent ar gael i'w gweld ar-lein.
BR26620 Proteins and Enzymes | Aberystwyth University (talis.com)
• Tair eitem ar y rhestr - copïau print yn y llyfrgell (e-lyfrau ddim ar gael ar lefel sefydliadol) er mae dolen sy'n rhoi rhagolwg ar eitem 'Introduction to protein structure' lle gallwch weld y rhestr cynnwys ac ychydig dudalennau o du mewn y llyfr.
BR25620 RD25620 Research Methods | Aberystwyth University (talis.com)
• Tair eitem ar y rhestr – copïau print ond mae opsiwn i weld rhestr cynnwys ac ychydig dudalennau o ddau ohonynt.
BR26520 One Health Microbiology | Aberystwyth University (talis.com)
• Pum eitem ar y rhestr. Mae tri ar gael fel e-lyfrau:
- Epidemiology for field veterinarians: an introduction
- One health: the theory and practice of integrated health approaches
- Brock Biology of microorganisms
• Cliciwch ar ddolenni'r llyfrau uchod i agor e-fersiwn y gellir ei darllen ar-lein.
• Bydd teitlau CABI (1 a 2) yn mynd â chi i blatfform • Cliciwch ar yr opsiwn View eBook a bydd yr e-fersiwn yn agor
•Mae llyfr Brock ar blatfform e-lyfrau Askews and Holts. (3) • Cofiwch fewngofnodi i Primo • Cliciwch y ddolen mynediad Ar-lein ac yna dolen Askews and Holts • Copïau print yn y llyfrgell yw'r tri theitl arall a restrir.
O ran amserlen eich cwrs, bydd hon ar gael i chi pan fyddwch wedi cofrestru ar y modiwlau cyn i'r dysgu ddechrau.
20/21 Semester 2
-
CYF:66-2104-5627015 - Cynnwys modiwlau
Dy sylw: Overall structure of most modules are extremely high in content and very fast in pace. Some content for exams are being released only a couple days before it is due which is difficult.
Ein hymateb:
Mae lefel a chynnwys modiwlau’r flwyddyn gyntaf wedi'u cynllunio i'ch paratoi ar gyfer yr ail flwyddyn ac ymlaen fel eich bod yn cyrraedd lefel gradd erbyn diwedd eich cwrs. Cofiwch fod pob 10 credyd yn gyfwerth â 100 awr o waith myfyrwyr - mae rhywfaint o hyn yn amser a dreulir yn astudio'r deunydd a ddarperir yn bersonol / trwy Teams / ar Blackboard ac wrth baratoi'r asesiadau ond hefyd mewn gwaith a gyfarwyddir gan fyfyrwyr trwy'r semester. Os ydych chi'n cael trafferth gyda chyfanswm neu lefel y gwaith, siaradwch â'ch tiwtor personol gan mai nhw fydd yn y sefyllfa orau i'ch cyfeirio at y gefnogaeth briodol. Mae'r tymor addysgu’n parhau tan 30 Ebrill. Nid oes unrhyw arholiadau ffurfiol eleni ond ni fydd eich asesiad cyntaf yn lle arholiad yn gorfod cael ei gyflwyno tan ganol dydd ar 14 Mai
-
CYF:66-2102-478322 - Tripiau maes
Dy sylw: Module: BR27220 We were meant to go on a field trip, for obvious reasons this didn't happen. But now we are being told to complete the assignment to the level as if we went on that trip with resources that do not work for what is required. We have been told to 'imply what you can'. When we brought this up to the lecturer they got very defensive and did not answer the questions asked. We are still expected to write 5000 words on an area we have no knowledge of and several of us are infuriated at the lack of response given to us.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwadau. Yn gyntaf hoffwn eich sicrhau y bydd yr aseiniad yn cael ei asesu yn unol â'r hyn y gellir ei gyflawni'n realistig heb i fyfyrwyr allu mynd ar y daith maes. Bydd y marcwyr a'r arholwyr allanol yn gwbl ymwybodol o'r amgylchiadau a'r cyfyngiadau. Hoffwn hefyd dynnu sylw at ystod y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael oherwydd bydd eich defnydd o'r rhain yn cael ei ystyried hefyd. Mae cydlynydd y modiwl wedi dangos sut y gellir defnyddio Google Earth i ddadansoddi coed unigol a rhannau o'r safle dynodedig gyda chymeriad gwahanol iawn wedi'i seilio ar rywogaeth, maint a gwasgariad y coed. Dangosodd i'r myfyrwyr sut y gall sgrolio trwy awyrluniau hanesyddol ddod o hyd i ddelweddau gydag ongl haul ac amser o'r flwyddyn sy'n datgelu mwy o fanylion, megis lliw a chyferbyniad dail o wahanol rywogaethau o goed, gan gynnwys coed drain gwynion unigol yn eu blodau. Mae wedi cytuno i anodi rhai sgrinluniau fel y gall myfyrwyr efelychu'r arddangosiad. Neilltuwyd seminar ar-lein i ffynonellau gwybodaeth ar-lein sy'n uniongyrchol berthnasol i'r aseiniad hwn (mapio a chofnodion biolegol) a chefnogwyd hyn ymhellach mewn seminar ar-lein cysylltiedig. Mae cydlynydd y modiwl eisoes wedi cynnal sesiwn C&A ac mae ar gael i ateb cwestiynau pellach ond rydym hefyd am alluogi myfyrwyr yr ail flwyddyn i ddangos rhywfaint o annibyniaeth
-
CYF:66-2102-5245306 - Gwaith grŵp yn ystod y cyfnod clo
Dy sylw: Module BR35120 I think it is very unfair for this module to expect us to do assessed group work worth 50% of the module during a lockdown. This assessment relies being able to go out and take video recordings of various animals which many people will not be able to do as a result of lockdown and being in an area with little country side. Being this is a final year module there is a lot of pressure to do well and given current circumstance I doubt many students will be able to produce their best work. Assessed group work is already a challenge in normal times but given the extra challenge of Covid it is making it extremely difficult indeed. It may be too late to do anything about this now but I just feel that there would be a much fairer assessment of our ability that didn’t require such a high dependancy on group work and having access to various animals.
Ein hymateb:
Mae gwaith grŵp yn sgil cyflogadwyedd pwysig sydd wedi'i ymgorffori yn llawer o fodiwlau IBERS. Mae'n arbennig o bwysig o dan y cyfyngiadau COVID cyfredol gan fod cyfleoedd i ryngweithio ag eraill yn gyfyngedig felly mae'n hyrwyddo teimlad o gymuned ac yn galluogi cefnogaeth ac anogaeth gan gymheiriaid. Bydd gweithio gydag eraill o bell yn ofyniad pwysig iawn ar gyfer y dyfodol rhagweladwy o leiaf a bydd datblygu'r sgiliau hyn yn gwella CV y myfyrwyr. Mae cydlynydd y modiwl wedi bod yn glir gyda’r grŵp y gellir defnyddio darnau o fideo ar-lein os na allant wneud eu recordiadau eu hunain a byddant yn ailadrodd y neges hon.
-
CYF:66-2101-6012521 - Diffyg sesiynau ymarferol yn ystod covid-19
Dy sylw: Although the module has not officially started, having watched the introductory lecture already I am feeling severely demotivated and disheartened to learn that practicals are likely to not be going ahead. This module is supposed to be an opportunity to gain practical skills useful for my future aspirations and reading a protocol along with a video of a member of staff conducting the experiment is not enabling me to build my skill set in the lab. I am so demotivated and unenthusiastic about my studies to learn about this because I am unable to get in the lab and actually work on skills towards my degree. Instead I am given readings to do which is no where near the equivalent of actually being able to perform these skills myself, nor does it drive my passions for the subject. I worry for my future career when I will not possess the invaluable lab experience.
Ein hymateb:
Mae'r holl addysgu ar-lein ar hyn o bryd yn unol â mandad y Brifysgol mewn ymateb i gyngor Llywodraeth Cymru. Felly ni allwn wneud sesiynau ymarferol yn y labordy. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd myfyrwyr yn siomedig, fel y mae staff, ond mae hyn oherwydd y pandemig ac nid o fewn ein rheolaeth. Os caniateir i fyfyrwyr ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb, yna efallai y bydd rhai sesiynau ymarferol gyda phellter cymdeithasol yn bosibl yn ddiweddarach yn y semester, ond ni allwn ddibynnu ar hynny yn ein cynllunio i gyflawni canlyniadau dysgu'r modiwl. Fodd bynnag, mae'r modiwl yn fwy na gwneud arbrofion yn unig. Daw'r modiwl i ben gyda myfyrwyr yn dyfeisio eu protocolau arbrofol eu hunain a dyma’r hyn y byddant yn gweithio tuag ato. Mae sesiynau Teams wedi'u trefnu ar gyfer sesiynau C&A i helpu'r myfyrwyr i ddatblygu eu protocolau felly nid deunydd i’w ddarllen a’i wylio ar Blackboard yn unig sydd ar gael. Mae'r gallu i ddehongli dull arbrofi a chanlyniadau rhywun arall yn sgil bwysig i wyddonwyr ymchwil, sy'n aml yn gorfod gweithio o ddisgrifiadau pobl eraill o'u hymchwil - felly mae'r disodli i'r labordai ffisegol yn dal yn bwysig. Rydym yn hyderus y bydd y myfyrwyr yn dal i ddatblygu sgiliau ymchwil dilys yn absenoldeb gwneud arbrawf go iawn. Byddant hefyd yn dal i ddatblygu'r sgiliau arferol sy'n gysylltiedig â dehongli a dadansoddi data.
Diweddariad: Cynigiwyd labordai wyneb yn wyneb cyn gynted ag y caniatawyd inni wneud hynny - h.y. 3 wythnos olaf y semester.
20/21 Semester 1
-
REF:66-2012-5656607 - Adborth aseiniad
Dy sylw: Modiwl: BR10400 Feedback from assignment was very basic, no help to learn from mistakes. Teams calls are very boring and don't feel that they help us learn as we are only watching him doing spreadsheets. Feel like we need a bit of variety in the team calls. more feedback from assignments would be helpful too.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwadau. Dim ond un rhan o'r adborth sydd ar gael i chi yw'r adborth ysgrifenedig. Mewn rhai achosion mae staff academaidd hefyd yn rhoi adborth llafar i'r dosbarth. Ym mhob achos gallwch ofyn am adborth ychwanegol trwy gysylltu â'r sawl a farciodd y gwaith neu'ch tiwtor personol. Gweler hefyd dudalen 43/44 o'ch llawlyfr myfyrwyr (mae copi ar y modiwl israddedig ar Blackboard). Atgoffwyd cydweithwyr academaidd i ddilyn y canllawiau felly os nad ydynt yn gwneud hynny, gofynnwch am fwy o wybodaeth gan y marciwr. Nid oes unrhyw ganllaw safonol ar alwadau Teams ond os oes gennych rai enghreifftiau penodol o'r hyn yr hoffech ei wneud, rhowch wybod yn uniongyrchol i gydlynydd y modiwl, eich tiwtor, y Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr neu i mi. Trafodwyd rhai safbwyntiau gwahanol iawn ym Mhwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr diweddaraf IBERS - mae'n amlwg ei bod hi’n well gan rai myfyrwyr gael darlithoedd trwy Teams tra bod eraill yn ffafrio sesiynau i gefnogi'r e-ddarlithoedd neu sesiynau C&A am waith cwrs. Rydyn ni i gyd yn newydd i addysgu a chael ein haddysgu trwy Teams felly rwy'n hapus iawn i glywed beth sy'n gweithio'n dda - ond oherwydd y gwahanol safbwyntiau allwn ni ddim plesio pawb bob tro.
-
CYF:66-2010-9772216 - Amserlennu sesiynau
Dy sylw: The lectures are timetabled to have an in-person lecture end as an online lecture starts and visa versa and it takes about half an hour to go between my accomodation and the lecture hall and it's not helped by the fact that most of the time the lecturers go over their allocated time and then on a few occasions then set work in the time after I've left to then learn about it through other students on my course
Ein hymateb:
Diolch am eich sylw. Rwyf wedi gofyn i gydweithwyr sicrhau eu bod yn gorffen sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein erbyn 10 munud cyn yr awr. Rwyf hefyd wedi siarad â'r Swyddfa Amserlenni sydd wedi cadarnhau bod myfyrwyr yn cael awr i deithio rhwng y dref, Llanbadarn, Penglais ac Ar-lein - yr unig eithriad yw rhwng Penglais ac Ar-lein pan fydd y myfyrwyr yn cael yr 20 munud arferol. Mae hyn oherwydd bod mwyafrif y myfyrwyr yn byw o fewn 20 munud ar droed o Benglais neu'n gallu dod o hyd i le ar y campws i ymuno â'r sesiynau ar-lein. Pan fo gan fyfyriwr bryderon teithio nad ydynt wedi’u cynnwys yma, fe ymdrinnir â hwy fesul pob achos unigol.
-
REF:66-2010-5078713 - Cyflwyniadau Powerpoint dryslyd
Dy sylw: Modiwl: BR20620 I enjoy this module so far and communication is excellent especially in the current climate of Covid-19. However, i find the powerpoint presentations quite confusing, making it difficult to study at home and gain a comprehensive understanding.
Ein hymateb:
Diolch am eich adborth cadarnhaol ynglŷn â'r modiwl hwn. Rwyf wedi gofyn i gydlynydd y modiwl atgoffa myfyrwyr y modiwl o'r gefnogaeth sydd ar gael. Yn fyr:
- Mae rhestr wirio gweithgaredd ar gyfer pob wythnos ac mae'r eitem olaf bob amser yn sôn am wneud nodyn o unrhyw ddeunydd yr oeddech chi'n ei chael yn anodd neu yr hoffech chi wirio'ch dealltwriaeth ohono a defnyddio’r llwybrau penodol i adael i staff wybod bod angen paratoi a mynd dros bethau yn y sesiwn fyw yr wythnos nesaf.
- Mae byrddau trafod, arolygon SurveyMonkey a llwybrau e-bost (ac rydyn ni’n atgoffa’r myfyrwyr amdanynt yn aml) ond ni fu llawer o ymgysylltu â nhw.
- Defnyddir cwisiau trwy Kahoot neu yn y sesiynau byw i asesu dealltwriaeth myfyrwyr sydd wedi codi rhai pwyntiau i'w cynnwys eto yn ystod y sesiynau hynny.
- Mae sesiynau byw yn cael eu recordio ar gyfer y rhai sy'n methu â mynychu.
19/20 Semester 2
-
Dim CYF 30/10/19 - Wythnos ddarllen hanner ffordd drwy'r tymor
Dy sylw: After having a talk for the last few days to my friends and also my tutor, I think it would be a great idea for everyone to have a reading week on the mid term.
Ein hymateb:
Gofynnwyd i holl gydlynwyr y modiwlau gynnwys wythnos ysgafn heb ddeunydd darlith. Cynhelir rhai sesiynau ymarferol a gweithdai yn ystod yr wythnosau hyn am resymau amserlennu ond gobeithiwn y bydd hyn yn helpu myfyrwyr i reoli eu llwyth gwaith, dal i fyny a chwblhau aseiniadau.