REF:66-2012-5656607 - Adborth aseiniad
Dy sylw: Modiwl: BR10400 Feedback from assignment was very basic, no help to learn from mistakes. Teams calls are very boring and don't feel that they help us learn as we are only watching him doing spreadsheets. Feel like we need a bit of variety in the team calls. more feedback from assignments would be helpful too.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwadau. Dim ond un rhan o'r adborth sydd ar gael i chi yw'r adborth ysgrifenedig. Mewn rhai achosion mae staff academaidd hefyd yn rhoi adborth llafar i'r dosbarth. Ym mhob achos gallwch ofyn am adborth ychwanegol trwy gysylltu â'r sawl a farciodd y gwaith neu'ch tiwtor personol. Gweler hefyd dudalen 43/44 o'ch llawlyfr myfyrwyr (mae copi ar y modiwl israddedig ar Blackboard). Atgoffwyd cydweithwyr academaidd i ddilyn y canllawiau felly os nad ydynt yn gwneud hynny, gofynnwch am fwy o wybodaeth gan y marciwr. Nid oes unrhyw ganllaw safonol ar alwadau Teams ond os oes gennych rai enghreifftiau penodol o'r hyn yr hoffech ei wneud, rhowch wybod yn uniongyrchol i gydlynydd y modiwl, eich tiwtor, y Pwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr neu i mi. Trafodwyd rhai safbwyntiau gwahanol iawn ym Mhwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr diweddaraf IBERS - mae'n amlwg ei bod hi’n well gan rai myfyrwyr gael darlithoedd trwy Teams tra bod eraill yn ffafrio sesiynau i gefnogi'r e-ddarlithoedd neu sesiynau C&A am waith cwrs. Rydyn ni i gyd yn newydd i addysgu a chael ein haddysgu trwy Teams felly rwy'n hapus iawn i glywed beth sy'n gweithio'n dda - ond oherwydd y gwahanol safbwyntiau allwn ni ddim plesio pawb bob tro.