CYF:66-2101-6012521 - Diffyg sesiynau ymarferol yn ystod covid-19
Dy sylw: Although the module has not officially started, having watched the introductory lecture already I am feeling severely demotivated and disheartened to learn that practicals are likely to not be going ahead. This module is supposed to be an opportunity to gain practical skills useful for my future aspirations and reading a protocol along with a video of a member of staff conducting the experiment is not enabling me to build my skill set in the lab. I am so demotivated and unenthusiastic about my studies to learn about this because I am unable to get in the lab and actually work on skills towards my degree. Instead I am given readings to do which is no where near the equivalent of actually being able to perform these skills myself, nor does it drive my passions for the subject. I worry for my future career when I will not possess the invaluable lab experience.
Ein hymateb:
Mae'r holl addysgu ar-lein ar hyn o bryd yn unol â mandad y Brifysgol mewn ymateb i gyngor Llywodraeth Cymru. Felly ni allwn wneud sesiynau ymarferol yn y labordy. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd myfyrwyr yn siomedig, fel y mae staff, ond mae hyn oherwydd y pandemig ac nid o fewn ein rheolaeth. Os caniateir i fyfyrwyr ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb, yna efallai y bydd rhai sesiynau ymarferol gyda phellter cymdeithasol yn bosibl yn ddiweddarach yn y semester, ond ni allwn ddibynnu ar hynny yn ein cynllunio i gyflawni canlyniadau dysgu'r modiwl. Fodd bynnag, mae'r modiwl yn fwy na gwneud arbrofion yn unig. Daw'r modiwl i ben gyda myfyrwyr yn dyfeisio eu protocolau arbrofol eu hunain a dyma’r hyn y byddant yn gweithio tuag ato. Mae sesiynau Teams wedi'u trefnu ar gyfer sesiynau C&A i helpu'r myfyrwyr i ddatblygu eu protocolau felly nid deunydd i’w ddarllen a’i wylio ar Blackboard yn unig sydd ar gael. Mae'r gallu i ddehongli dull arbrofi a chanlyniadau rhywun arall yn sgil bwysig i wyddonwyr ymchwil, sy'n aml yn gorfod gweithio o ddisgrifiadau pobl eraill o'u hymchwil - felly mae'r disodli i'r labordai ffisegol yn dal yn bwysig. Rydym yn hyderus y bydd y myfyrwyr yn dal i ddatblygu sgiliau ymchwil dilys yn absenoldeb gwneud arbrawf go iawn. Byddant hefyd yn dal i ddatblygu'r sgiliau arferol sy'n gysylltiedig â dehongli a dadansoddi data.
Diweddariad: Cynigiwyd labordai wyneb yn wyneb cyn gynted ag y caniatawyd inni wneud hynny - h.y. 3 wythnos olaf y semester.