CYF:66-2102-478322 - Tripiau maes
Dy sylw: Module: BR27220 We were meant to go on a field trip, for obvious reasons this didn't happen. But now we are being told to complete the assignment to the level as if we went on that trip with resources that do not work for what is required. We have been told to 'imply what you can'. When we brought this up to the lecturer they got very defensive and did not answer the questions asked. We are still expected to write 5000 words on an area we have no knowledge of and several of us are infuriated at the lack of response given to us.
Ein hymateb:
Diolch am eich sylwadau. Yn gyntaf hoffwn eich sicrhau y bydd yr aseiniad yn cael ei asesu yn unol â'r hyn y gellir ei gyflawni'n realistig heb i fyfyrwyr allu mynd ar y daith maes. Bydd y marcwyr a'r arholwyr allanol yn gwbl ymwybodol o'r amgylchiadau a'r cyfyngiadau. Hoffwn hefyd dynnu sylw at ystod y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael oherwydd bydd eich defnydd o'r rhain yn cael ei ystyried hefyd. Mae cydlynydd y modiwl wedi dangos sut y gellir defnyddio Google Earth i ddadansoddi coed unigol a rhannau o'r safle dynodedig gyda chymeriad gwahanol iawn wedi'i seilio ar rywogaeth, maint a gwasgariad y coed. Dangosodd i'r myfyrwyr sut y gall sgrolio trwy awyrluniau hanesyddol ddod o hyd i ddelweddau gydag ongl haul ac amser o'r flwyddyn sy'n datgelu mwy o fanylion, megis lliw a chyferbyniad dail o wahanol rywogaethau o goed, gan gynnwys coed drain gwynion unigol yn eu blodau. Mae wedi cytuno i anodi rhai sgrinluniau fel y gall myfyrwyr efelychu'r arddangosiad. Neilltuwyd seminar ar-lein i ffynonellau gwybodaeth ar-lein sy'n uniongyrchol berthnasol i'r aseiniad hwn (mapio a chofnodion biolegol) a chefnogwyd hyn ymhellach mewn seminar ar-lein cysylltiedig. Mae cydlynydd y modiwl eisoes wedi cynnal sesiwn C&A ac mae ar gael i ateb cwestiynau pellach ond rydym hefyd am alluogi myfyrwyr yr ail flwyddyn i ddangos rhywfaint o annibyniaeth