Mae gwneud gwefan yn hygyrch yn golygu sicrhau ei bod yn gallu cael ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl, gan gynnwys y rhai sydd â nam ar eu:
- golwg - pobl sydd â nam difrifol ar y golwg (dall), nam ar y golwg (rhannol ddall) neu liwddall
- clyw - pobl sydd yn fyddar neu’n drwm eu clyw
- symudedd - pobl sy'n ei chael hi'n anodd i ddefnyddio llygoden neu fysellfwrdd
- meddwl a deall - pobl sydd â dyslecsia, awtistiaeth, neu anawsterau dysgu
Mae gan o leiaf 1 o bob 5 o bobl yn y DU salwch, nam, neu anabledd tymor hir. Mae gan lawer mwy anabledd dros dro.
Mae hygyrchedd yn golygu sicrhau fod cynnwys a chynllun eich gwefan yn ddigon clir a syml fel bod y rhan fwyaf o bobl yn gallu ei defnyddio fel y mae, ond gan gynorthwyo'r rhai hynny sydd angen addasu pethau.
Er enghraifft, gallai rhywun sydd â nam ar eu golwg ddefnyddio darllenydd sgrin (meddalwedd sy'n caniatáu i ddefnyddiwr we-lywio gwefan ac sy'n darllen y cynnwys yn uchel), adnodd braille neu chwyddwr sgrin. Neu gallai rhywun sydd ag anawsterau echddygol ddefnyddio llygoden arbennig, meddalwedd adnabod llais neu efelychydd bysellfwrdd ar y sgrin.