Vevox yw offer pleidleisio Prifysgol Aberystwyth. Gellir cynnal pleidleisiau mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu, yn ogystal â chyfarfodydd, er mwyn creu sesiynau sy’n rhyngweithiol a chydweithredol, a cheir llawer o bosibiliadau gwahanol o ran defnydd. O gasglu barn i roi cyfle i gyfranogwyr ofyn ac ateb cwestiynau, gellir defnyddio Vevox ar wahanol ddyfeisiau a’r unig beth sydd ei angen i gymryd rhan yw dyfais sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd.
Gallwch ddechrau defnyddio Vevox drwy fewngofnodi i http://aberystwyth.vevox.com/ gyda’ch Enw Defnyddiwr a’ch Cyfrinair Aberystwyth.
Gellir defnyddio Vevox gyda llawer o raglenni cyfoes megis PowerPoint a Microsoft Teams.
Gweler ein hadnoddau isod:
Cwestiynau Cyffredin:
Sut ydw i’n trefnu pleidlais ar Vevox?
Sut ydw i’n trefnu arolwg ar Vevox?
Sut ydw i’n trefnu sesiwn Holi ac Ateb ar Vevox?
Sut ydw i’n cymryd rhan mewn sesiwn ar Vevox? (Myfyrwyr)
Sut ydw i’n ymateb i bleidlais ar Vevox? (Myfyrwyr)
Sut ydw i’n gofyn cwestiynau mewn sesiwn ar Vevox? (Myfyrwyr)