Cais am Brosiect Digidol a Newid
Pan fyddwch yn ystyried dechrau prosiect digidol newydd (gan gynnwys prynu meddalwedd newydd) neu angen gwneud newid i system bresennol, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i ni mewn da bryd.
Rhaid gwneud cais am bob prosiect digidol a newid drwy'r system Cais am Brosiect Digidol neu Newid.
Byddwn yn asesu a yw'r cais am brosiect digidol neu newid yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol y Brifysgol, yn ogystal ag ystyried eu heffaith, eu cost a'u manteision cyn cymeradwyo.
Cyn symud ymlaen â phrynu a gweithredu meddalwedd neu wasanaethau newydd gan ddarparwr allanol, mae hefyd nifer o wiriadau a chymeradwyaethau eraill y bydd angen eu cwblhau:
- Arferion Diogelwch sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cwmwl (Polisi Diogelwch Gwasanaeth Cwmwl)
- Asesiadau o’r Effaith ar Breifatrwydd
- Safonau'r Gymraeg
- Safonau Hygyrchedd Digidol
Ni ddylech ddechrau prosiect digidol cyn cael yr holl gymeradwyaeth angenrheidiol a sicrhau y bydd y prosiect yn bodloni'r holl safonau angenrheidiol.
Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth arnoch.