Rhoi hwb i nifer y menywod mewn gwyddoniaeth
29 Ionawr 2014
Dwy wyddonwraig yn cael eu secondio i weithio ar gais Athena SWAN.
Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran
30 Ionawr 2014
Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd yn agor canolfan ymchwil yn swyddogol.
Cyfraniadau Uwchraddedigion at Ddysgu yn cael eu cydnabod gan y Brifysgol
07 Ionawr 2014
Mae myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth yn parhau i dderbyn safon uchel o ddysgu gan fod dau aelod o’r tîm dysgu wedi derbyn Gwobrau i’r Cynorthwy-ydd Dysgu Uwchraddedig Eithriadol 2013. Graddiodd Arwel Wyn Jones a Ffion Curtis o Brifysgol Aberystwyth yn 2010 â graddau BSc (anrhydedd) Dosbarth Cyntaf yn y gwyddorau. Dechreuodd y ddau fyfyriwr astudio ar gyfer graddau PhD ymchwil dan nawdd KESS yn haf 2010.
Breuddwyd fawr gan ferch sy’n mwynhau Rasys Motocrós Enduro gan obeithio y bydd gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
07 Ionawr 2014
Mae Rhian George yn astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn ogystal â dilyn gyrfa rasio motocrós Enduro. Mae Enduro yn fath corfforol iawn o chwaraeon sy’n herio’n feddyliol ac yn cynnwys rasys motocrós byr, dwys, yn ogystal â chyrsiau hir o ryw 5 i 8 awr drwy diroedd amrywiol, a chyrsiau technegol sydd wedi’u dewis yn arbennig ac sy’n cynnwys neidiau, rhwystrau a dringfeydd serth (a llawer mwy o heriau eraill).
Staff yn neidio oddi ar glogwyni ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2012/2013
07 Ionawr 2014
Ar ôl i’r flwyddyn academaidd 2012/2013 ddod i ben, fe benderfynodd grŵp o aelodau’r staff neidio oddi ar glogwyn. Neu’n hytrach, sawl clogwyn, gan lanio’n ddiogel yn y dŵr yn gwisgo fest nofio. Arforgampau yw’r enw swyddogol arno, a threuliwyd diwrnod ar arfordir Sir Benfro yn nofio, croesi, dringo a neidio oddi ar glogwyni.
Myfyrwraig Ymchwil Uwchraddedig yn teithio’r byd i hyrwyddo ei gwaith ymchwil
07 Ionawr 2014
Cafodd Laura Thomas, myfyrwraig PhD ar ei hail flwyddyn yng Ngwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, haf prysur yn cyflwyno ei gwaith ymchwil mewn dwy gynhadledd ryngwladol. Fis Mehefin, teithiodd Laura gyda Dr. Emily Oliver i ddinas brysur Rochester, Efrog Newydd, i gyflwyno eu gwaith ymchwil yn y 5ed Gynhadledd Ryngwladol ar y Ddamcaniaeth Hunanbenderfynu.
Interniaeth dros yr haf yn Siapan yn cynnig profiadau newydd
06 Ionawr 2014
Mae Athrofa Haf Tsukuba yn gwrs rhyngwladol sy’n cynnig cyfle i uwchraddedigion ac israddedigion o athrofeydd ledled y byd i hybu ymchwil a rhwydweithio. Cafwyd dewis i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n gysylltiedig ag ymchwil a chwaraeon Siapan.
Michele Presacane wedi ei benodi yn ‘Hyrwyddwr Iechyd’
06 Ionawr 2014
Mae Prifysgol Aberystwyth newydd benodi Michele Presacane yn ‘Hyrwyddwr Iechyd’ a’i gwaith hi fydd hybu iechyd a lles aelodau’r staff ar draws y Brifysgol. Nod y swydd fydd mynd i’r afael â’r pynciau corfforol a seicolegol amrywiol sy’n berthnasol i iechyd a lles.
Peidiwch ag ofni, gwyddoniaeth sydd y tu ôl i brosiect ymchwil newydd ar ddiffyg gwres, oerfel neu gwsg
06 Ionawr 2014
Mae Dr Rhys Thatcher wedi cael llwyddiant mewn cais noddiant i parhau prosiect ar ddiffyg gwres, oerfel neu gwsg, sy'n galluogi Becky Wale i drosglwyddo o MPhil i PhD am dwy flynedd ychwanegol.
Greg Walsh: myfyriwr PhD newydd
06 Ionawr 2014
Mae Greg Walsh yn fyfyriwr PhD newydd mewn Biomecaneg am y berthynas rhwng oed a’r risg o gwympo ymhlith pobl oedrannus.
Dan Steward a Francesca Lonie: Interniaid Graddedig newydd yn yr Athrofa Gwyddorau Dynol
06 Ionawr 2014
Mae Dan Steward a Francesca Lonie yn Interniaid Graddedig newydd yn yr Athrofa Gwyddorau Dynol. Cysylltwch â nhw am unrhyw gymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr.