Cyfraniadau Uwchraddedigion at Ddysgu yn cael eu cydnabod gan y Brifysgol

07 Ionawr 2014

Mae myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth yn parhau i dderbyn safon uchel o ddysgu gan fod dau aelod o’r tîm dysgu wedi derbyn Gwobrau i’r Cynorthwy-ydd Dysgu Uwchraddedig Eithriadol 2013. Graddiodd Arwel Wyn Jones a Ffion Curtis o Brifysgol Aberystwyth yn 2010 â graddau BSc (anrhydedd) Dosbarth Cyntaf yn y gwyddorau. Dechreuodd y ddau fyfyriwr astudio ar gyfer graddau PhD ymchwil dan nawdd Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) yn haf 2010. Mae Arwel yn ymchwilio i effeithiau colostrwm gwartheg ar ymateb imiwnedd a symptomau’r bibell anadlu uchaf ar ôl ymarfer corff, ac mae Ffion yn ymchwilio i rôl fitamin D a gweithgarwch corfforol ar diabetes math 2. Mae’r ddau fyfyriwr wedi mwynhau dysgu ar amrywiaeth o fodiwlau’r cynllun gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Bu’r ddau hefyd yn rhagweithiol iawn wrth roi’r cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol o waith ymchwil drwy eu croesawu i’r labordy i weithio gyda nhw ar y gwahanol brosiectau ymchwil. Mae Arwel a Ffion wedi mwynhau bod yn rhan o dîm dysgu’r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac wedi derbyn cefnogaeth lwyr wrth iddynt weithio tuag at ddod yn Gymrodyr o’r Asiantaeth Addysg Uwch drwy gwblhau Tystysgrifau Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU). Mae Ffion ac Arwel yn edrych ymlaen at barhau i ddysgu ac yn edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff newydd i Aberystwyth eleni.