Ymchwil a Menter

Bioleg sy’n Cyflawni...

Ein bwriad yw gwella iechyd a lles pobl trwy weithgareddau ymchwil, addysg ac ymgysylltu. Credwn yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig fod cadw bodau dynol yn iach ac yn fodlon yn dibynnu ar sicrhau amgylchedd iach, planhigion ac anifeiliaid iach a busnesau iach hefyd. Ceir enghreifftiau o’r ffyrdd y cyfrannwn at holl gydrannau’r gadwyn iechydyn y tudalennau sydd i ddilyn.
Mwy...

Mae partneriaeth gyda’r sector diwydiannol a phreifat yn helpu i sicrhau bod ymchwil IBERS yn parhau’n atebol ac yn berthnasol i anghenion diwydiannol.