Gwyddor Cnydau a Bridio Planhigion

Bridio Planhigion at y Dyfodol

Mae cynaladwyedd cynhyrchu cnydau bwyd a chnydau diwydiannol nad ydynt yn fwyd yn y dyfodol yn dibynnu ar barhau i ddatblygu amrywiaethau newydd sy’n bodloni tri gofyniad allweddol: 

  • Gwell cnwd gyda mewnbynnau llai
  • Sefydlogrwydd cnydau a dyfalwch dan straen biotig ac anfiotig
  • Gwell ansawdd i’r defnyddiwr terfynol

Er mai ffocws y rhaglenni bridio yw gwella perfformiad mae angen cyfuno hyn gyda lleihau ôl troed amgylcheddol amaethyddiaeth yn y DU a mannau eraill. Ar gyfer cyflawni’r amcanion hyn mae angen bridio parhaus: cyfuno technolegau bridio confensiynol â rhai newydd moleciwlaidd. Mae gwella cnydau’n galw am well dealltwriaeth o’r ffactorau gwaelodol sy’n rheoli nodweddion ar sawl lefel – o’r moleciwlaidd drwy ffisioleg at agronomeg a chadwyni cyflenwi.

Ar hyn o bryd mae ein hymchwil bridio planhigion yn canolbwyntio ar 3 phrif fath o gnwd:

Adnoddau Genetig a’r Biofanc Hadau

Ceir casgliad mawr o germplasm wedi’i ddiogelu oddi ar y safle yn cynnwys ein rhywogaethau cnydau mandadol yn bennaf, sy’n ffurfio sail i’r rhaglenni bridio planhigion. Mae’r casgliad hwn yn rhan o rwydwaith genedlaethol Adnoddau Geneteg Planhigion y DU. Fe’i lleolir yn y cyfleuster Biofanc Hadau ag Amgylchedd Rheoledig newydd sydd hefyd yn cynnwys gallu i swmp-brosesu hadau lle caiff cenedlaethau cynnar amrywiaethau IBERS eu prosesu, gan reoli eu hansawdd a’u cynnal ar gyfer eu lluosi ymhellach gan ein partneriaid masnachol.

Yn ogystal, rydym ni wedi sefydlu perllan afalau a gellyg gydag amrywiaethau treftadaeth. Mae hwn yn gasgliad unigryw yn genetig o germplasm afalau a gellyg, gyda llawer yn tarddu o ffermydd yng Nghymru, a chaiff ei gasglu, ei dyfu, ei gadw a’i werthuso ar gyfer ei ddefnyddio o bosibl yn y dyfodol i helpu i ddatrys heriau gwella bioamrywiaeth a lleddfu newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â chynnig opsiynau ar gyfer strategaethau amrywio incwm ffermydd.

Mae defnydd newydd o gnydau’n cynnwys echdynnu protein o borfwyd ar gyfer porthiant monogastrig. Adlewyrchir ansawdd bridio planhigion yn IBERS yn y niferoedd cyson o amrywiaethau IBERS ar restrau a argymhellir yn y DU, ac mae’r sefydliad wrthi’n barhaus yn cofrestru amrywiaethau newydd yn yr holl gnydau gyda’r CPVO i alluogi manteisio masnachol.

Biotechnoleg

I ategu ein dealltwriaeth o strwythur a swyddogaeth genynnau, yn enwedig ar gyfer rheolaeth enetig ar ail-gyfuno a nodweddion eraill yn ymwneud â bridio, rydym ni’n cynnal ffrwd trawsnewid mewn nifer o rywogaethau yn cynnwys Brachypodium a Lolium perenne. Mae’r ffrwd hon hefyd yn hwyluso datblygu ac optimeiddio golygu genynnau’n seiliedig ar Crispr yn y rhywogaethau hynny.