Gwyddor Cnydau a Bridio Planhigion - Cnydau diwydiannol ar gyfer ynni a deunyddiau cynaliadwy
Mae ymchwilwyr IBERS hefyd yn gweithio ar amrywiaeth o gnydau diwydiannol ar gyfer tanwydd, cemegau, defnyddiau, atchwanegiadau dietegol a fferyllol.
Mae miscanthus yn gnwd biomas i ddal allyriadau carbon o’r atmosffer a darparu dewis arall yn lle tanwyddau, cemegau a defnyddiau ffosil. Mae saith amrywogaeth newydd wedi’u cofrestru ar gyfer diogelu eiddo deallusol o dan y system Ewropeaidd i fridwyr planhigion a wedi eu trwyddedu i Terravesta ar gyfer defnydd masnachol.
Defnyddir cywarch i wneud ystod eang o gynhyrchion o ddillad i ddefnyddiau adeiladu, bwyd a meddyginiaethau. Mae ymchwilwyr IBERS yn ymchwilio i’r potensial ar gyfer gwella ansawdd ffeibr, olew a phrotein yr hadau, gan roi hwb i’r manteision iechyd trwy wella priodweddau gwrthocsidiol a gwrthlidiol.
Mae macroalgâu yn gnydau morol a ddefnyddir mewn nifer o sectorau gan gynnwys bwyd, bwyd fferm a bwyd anifeiliaid anwes, gwrtaith, cynhyrchion maeth-fferyllol, tecstilau, argraffu a fferylliaeth. Mae ymchwilwyr IBERS yn gweithio ar nodweddion gwymon fel bio-wrtaith, yn nodi dibenion ar gyfer gordyfiant macroalgâu, ac yn gweithio gyda phartneriaid masnachol ar dreialon prosesu ar raddfa peilot ac yn datblygu ffilmiau plastig sy’n seiliedig ar facroalgâu er mwyn disodli pecynwaith bwyd sy’n deillio o ffosilau.