Canolfan ymchwil newydd i roi hwb i’r economi werdd yng Nghymru

08 Mawrth 2012

Heddiw, fe ymwelodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, â chyfleuster newydd a fydd yn cydweithio â chwmnïau lleol i ddatblygu technolegau a chyfleoedd busnes gwyrdd. Mae canolfan menter BEACON, y gyntaf o’i math yng Nghymru, ym Mhrifysgol Aberystwyth.