Myfyrwraig Ymchwil Uwchraddedig yn teithio’r byd i hyrwyddo ei gwaith ymchwil
07 Ionawr 2014
Cafodd Laura Thomas, myfyrwraig PhD ar ei hail flwyddyn yng Ngwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, haf prysur yn cyflwyno ei gwaith ymchwil mewn dwy gynhadledd ryngwladol. Fis Mehefin, teithiodd Laura gyda Dr. Emily Oliver i ddinas brysur Rochester, Efrog Newydd, i gyflwyno eu gwaith ymchwil yn y 5ed Gynhadledd Ryngwladol ar y Ddamcaniaeth Hunanbenderfynu. Daeth mwy na 500 o ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob cwr o’r byd i’r gynhadledd. Fe wnaeth Laura fwynhau clywed am yr ymchwil ddiweddaraf ym maes ysbrydoli; ac roedd ymchwil newydd Dr. Lisa Legault sy’n archwilio’r mecanweithiau niwroffisiolegol sydd wrth wraidd ysbrydoli o ddiddordeb arbennig. Yr uchafbwynt ar gyfer nifer o’r cynrychiolwyr oedd sylwadau clo datblygwyr y ddamcaniaeth, Deci a Ryan, yn amlinellu’r cyfeiriad ar gyfer ymchwil y Ddamcaniaeth Hunanbenderfynu yn y dyfodol. Ar ôl y gynhadledd, fe wnaeth Laura ac Emily ymweld â rhai o lefydd enwog Rochester ac Efrog Newydd cyn teithio i Reims, Ffrainc i’r 16eg gynhadledd ryngwladol ar Ddamcaniaeth Gwrthdroi gyda Dr. Joanne Hudson. Daeth ymchwilwyr o amryw feysydd gan gynnwys chwaraeon ac ymarfer corff, iechyd a dylunio at ei gilydd yn y gynhadledd wir amlddisgyblaethol hon i drafod anwadalwch emosiynau pobl a’r hyn sy’n eu hysbrydoli. Fe wnaeth cymhwyso’r ddamcaniaeth wrthdroi mewn ffordd newydd ar draws y disgyblaethau arwain at sawl trafodaeth ddiddorol a chyfleoedd i gydweithredu. Cafodd Laura gyfle rhagorol yn ystod y cynadleddau i gael adborth ar ei gwaith ymchwil, i glywed am y datblygiadau diweddaraf ym maes ysbrydoli, ac i rwydweithio ag ymchwilwyr o bob cwr o’r byd.