Peidiwch ag ofni, gwyddoniaeth sydd y tu ôl i brosiect ymchwil newydd ar ddiffyg gwres, oerfel neu gwsg
06 Ionawr 2014
Gan ddatblygu prosiect ymchwil a ddaeth i ben ym mis Medi eleni, bu Dr Rhys Thatcher yn llwyddiannus wrth sicrhau grant i barhau’r prosiect. Bydd y cais £68000 yn galluogi Becky Wale, myfyriwr ymchwil yn yr Adran, i drosglwyddo o MPhil i PhD ac yn sicrhau bod y prosiect yn parhau am ddwy flynedd arall. Mae’r prosiect yn ymchwilio i effeithiolrwydd defnyddio ffisioleg wrth fonitro rhagfynegi methiant sgiliau a/neu weithredu gwybyddol mewn lleoedd dirboenus. Mae’r noddwr, Cwmni Amddiffyn Awyrenegol a Gofod Ewrop (EADS), am ddefnyddio canfyddiadau’r ymchwil mewn amrywiaeth o amgylcheddau y daw’r gwasanaethau brys ar eu traws. Ond ceir posibiliadau ehangach na hyn, gan y gallai’r canfyddiadau fod yn berthnasol i amrywiaeth o leoedd chwaraeon a gwaith lle mae unigolion yn dioddef lefelau uchel o straen ac y mae disgwyl iddynt gyflawni ar lefel uchel. Y dirboenwyr penodol sy’n ganolbwynt i’r prosiect yw diffyg gwres/oerfel a chwsg ynghyd â lefelau uchel o bryder gwybyddol.