Dan Steward a Francesca Lonie: Interniaid Graddedig newydd yn yr Athrofa Gwyddorau Dynol

06 Ionawr 2014

Shwmae! Dan Steward a Francesca Lonie ydym ni, sef yr Interniaid Graddedig newydd yn yr Athrofa Gwyddorau Dynol. Mae Dan wedi ei leoli ar hyn o bryd yn yr adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Frankie yn yr adran Seicoleg, ond mae’n bosibl y byddwn ni’n cyfnewid o dro i dro!

Mae Dan newydd raddio ym maes Seicoleg / Geneteg ac Iechyd Dynol a graddiodd Frankie o’r Adran Gwyddor Chwraeon ac Ymarfer Corff. Fel graddedigion newydd, rydym yn gwybod pa mor wych a phwysig yw bod yn fyfyriwr. Rydym ni wedi bod yno a’i wneud e, felly rydym yn gwybod pa mor anodd y gall ambell sefyllfa fod ac yn deall yn llwyr ac yn gallu uniaethu â hynny. Rydym yma drwy’r amser i’ch helpu a’ch cefnogi yn y ffordd orau bosibl. Byddwn yn cydweithio â Sarah Jones yn swyddfa’r adran ac Anna Cole yn Seicoleg.

Er mai ni fydd eich cyswllt cyntaf yn y swyddfa, rydym hefyd yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau er budd yr Athrofa, ei hadrannau a’i myfyrwyr a’i staff. Gallwch gysylltu â ni drwy e-bost, ffôn neu mae pob croeso ichi alw heibio i’n gweld yn y swyddfa. Ffoniwch Dan yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ar 01970 622299 neu anfonwch e-bost at drs10@aber.ac.uk a ffoniwch Frankie yn Seicoleg ar 01970 622798 neu anfonwch e-bost at frl10@aber.ac.uk. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod chi.