Breuddwyd fawr gan ferch sy’n mwynhau Rasys Motocrós Enduro gan obeithio y bydd gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff

07 Ionawr 2014

Mae Rhian George yn astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn ogystal â dilyn gyrfa rasio motocrós Enduro. Mae Enduro yn fath corfforol iawn o chwaraeon sy’n herio’n feddyliol ac yn cynnwys rasys motocrós byr, dwys, yn ogystal â chyrsiau hir o ryw 5 i 8 awr drwy diroedd amrywiol, a chyrsiau technegol sydd wedi’u dewis yn arbennig ac sy’n cynnwys neidiau, rhwystrau a dringfeydd serth (a llawer mwy o heriau eraill).  Awn i’w chyfarfod wrth iddi ddechrau ar ei gradd yn Aberystwyth.

Sut hwyl rwyt ti wedi ei gael ar y rasio?

Yn dilyn blynyddoedd llwyddiannus yn rasio yn y DU, dyma’r flwyddyn gyntaf imi rasio yn rhyngwladol, ac a bod yn onest fu hi ddim yn flwyddyn wych i fi gan imi ddioddef o un anaf ar ôl y llall.Byddaf yn mynd i Bortiwgal yn fuan i gynrychioli Prydain ym mhencampwriaeth tîm Enduro Ewrop gyda dwy  arall.  

 Ers pryd rwyt ti’n rasio?

Rwy’n rasio ers pan oeddwn i’n 13 oed. Roeddwn I’n rasio yn erbyn bechgyn a merched yn fy nosbarthiadau ac fe enillais i sawl cystadleuaeth. Yn 2010 fe newidiais i feic oedolyn. Treuliais i’r rhan fwyaf o’r flwyddyn yn cyfarwyddo ag uchder a phwysau’r beic newydd. Yn 2011 a 2012 bûm i’n rasio yn y bencampwriaeth i oedolion ym Mhrydain gan ennill pencampwriaeth Enduro Merched Prydain. Yn dilyn y rownd gyntaf a’r ail eleni, mi roeddwn i ac un arall ar y blaen o ran pwyntiau yn y bencampwriaeth ond yn dilyn anaf i’r cartilag ac anaf MCL roedd hi ar ben arnaf i ennill fy nhrydedd bencampwriaeth. Cefais flwyddyn wych y llynedd gan imi sicrhau amseroedd da yn nosbarthiadau’r dynion yn ogystal ag ennill ‘Canada Heights’ mewn dosbarth i ddynion. Ar ôl llwyddo ym Mhrydain y penderfynais i newid i rasio yn Ewrop.

Beth sy’n dy ysbrydoli i astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff?

Fel myfyriwr sy’n astudio gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff rwy’n gobeithio dysgu mwy am sut y mae athletwyr amatur yn datblygu i fod y gorau yn eu maes, gan obeithio y byddaf innau yn un ohonynt ryw ddydd. Rwyf wir yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am ganolbwyntio yn seicoleg gan fod y rasio yn amrywio o 5 i 8 awr ac mae’n bwysig felly i fod yn gwbl effro drwy’r amser. Rwy’n gobeithio hefyd y byddaf i’n dysgu am dechnegau fydd yn helpu o ran hyder a straen gan y gall fod ychydig yn frawychus i rasio dramor ymhlith y goreuon yn Ewrop.

 Pa agwedd o’n gradd sydd fwyaf diddorol i ti?

Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu am ffisioleg gan obeithio y byddaf yn cael gwybod sut y mae fy nghorff yn gweithio mewn gwahanol leoedd a sut y gallaf innau addasu iddynt. Roedd rasio dramor eleni yn fy ngwisg motocrós, bŵts a helmed mewn gwres 30 gradd yn wahanol iawn i rasio yma ym Mhrydain. Mae biomecaneg yn rhywbeth tebyg i’r hyn rwy’n ei wneud wrth hyfforddi gan edrych ar recordiad neu luniau a dadansoddi pa mor gyflym rwy’n gallu symud ar y beic neu ddadansoddi fy nhechneg. Rwy’n gobeithio y bydd biomecaneg yn dysgu ffyrdd fydd yn fy helpu i ddadansoddi fy mherfformiad fy hun fel y gallaf fod yn feiciwr gwell.

 Pa uchelgais sydd gennyt i’r dyfodol?

Fy uchelgais i’r dyfodol yw rasio ym mhencampwriaeth y byd ryw ddydd. Byddwn hefyd yn hoffi cael fy newis i gynrychioli Prydain yn y Rasys Enduro Chwe Diwrnod Mewnol, sy’n cael eu hystyried fel Gemau Olympaidd fy chwaraeon i. Rwy’n gweithio tuag at y radd orau bosibl fel y gallaf ryw ddydd sicrhau gyrfa mewn chwaraeon rwy’n ei garu.