Greg Walsh: myfyriwr PhD newydd

06 Ionawr 2014

Fy enw i yw Greg Walsh ac rwyf newydd ddechrau PhD mewn Biomecaneg am y berthynas rhwng oed a’r risg o gwympo ymhlith pobl oedrannus. Rwy’n newydd i’r adran, gan imi gwblhau MSc Biomecaneg Chwaraeon ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl a BSc (Anrhydedd) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Perfformio) ym Mhrifysgol Swydd Hertford. Yn ystod fy nghyfnod yn Lerpwl roedd fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar wneud y gorau o ddulliau prosesu data arwyddion biomecanyddol. Roeddwn yn pennu sut y gall newidiadau i’r dulliau hyn ymddangos fel newidiadau i newidynnau’r deilliant; ac yn arbennig wrth ddehongli anystwythder cymalau gliniau. Fy mhrif ddiddordebau ar wahân i’m gwaith ymchwil yw rygbi a chryfhau a chyflyru, fel chwaraewr a hyfforddwr.