Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran

Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies

Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies

30 Ionawr 2014

Heddiw, cyhoeddodd Alun Davies y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, yn swyddogol sefydlu Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir ym Mhwllpeiran yng Ngheredigion.

Bydd y llwyfan yn cael ei ddatblygu gan IBERS Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth buddsoddiad o £2.5 miliwn gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol).

Bu Pwllpeiran yn ganolfan ymchwil ers y 1930au, gan weithio i wella hyfywedd ffermio ucheldiroedd Cymru.

Gyda phwyslais cynyddol ar ansawdd a tharddiad bwyd, a phwysau i reoli tir mewn ffordd sy'n sensitif i'r amgylchedd, mae yma rôl allweddol i’r wyddoniaeth i gefnogi amaethyddiaeth.

Mae'r ymrwymiad hwn i gyfnod newydd o waith ymchwil ffermio’r ucheldir yn cael ei groesawu ar draws y sector bwyd-amaeth.

Dywedodd Alun Davies; "Rwy'n hynod falch bod IBERS wedi llwyddo i sicrhau'r brydles ar ystâd fferm Pwllpeiran. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i IBERS a'i phartneriaid i ddatblygu llwyfan ymchwil ucheldir bywiog yma yng nghanolbarth Cymru.

“Bydd y llwyfan yn gaffaeliad mawr i'r ardal ac i Gymru yn fwy eang ac yr wyf yn hyderus y gall chwarae rhan bwysig yn fy ngwaith i wrth ddatblygu sector amaethyddiaeth Gymreig sydd yn gyfoes, yn gynaliadwy ac yn wydn."

Dywedodd yr Athro Wayne Powell , Cyfarwyddwr IBERS; “Mae'r heriau diogelwch bwyd, lleihau nwyon tŷ gwydr a diogelu bioamrywiaeth angen defnydd gwybodus a gwell o'r ucheldiroedd drwy ddatblygu planhigion a systemau anifeiliaid newydd. Bydd dulliau gwyddoniaeth arloesol a yrrir gan genhadaeth yn cael eu datblygu i ymateb i’r heriau hyn, ac mae IBERS mewn sefyllfa eithriadol o dda i arwain  agenda ucheldiroedd y DG.”

Bydd Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran yn  canolbwyntio yn y dyfodol ar gyfleoedd er budd cymuned ffermio’r ucheldir ledled y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt.

Bydd Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran yn ffurfio rhan o ddatblygiad arall sydd ar fin digwydd yn Aberystwyth, sef Campws Ymchwil ac Arloesedd.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; "Mae cael y  Gweinidog yma heddiw i Sefydlu Llwyfan Ymchwil Pwllpeiran yn sbardun cyffrous i’n cynlluniau cysylltiedig ni ar gyfer y Campws Ymchwil ac Arloesedd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda'r BBSRC wrth gyflawni’r prosiectau gwych yma, gan adeiladu ymhellach ar ein perthynas waith gref.”

"Mi fydd y datblygiadau yma yn hwb i’n cydweithio ni â busnesau, gan gynnwys darparu gofod i gwmnïau sy’n cychwyn, ac yn ein galluogi i gynnig hyfforddiant rhyngddisgyblaethol newydd. Mae cysylltiad agos rhwng y buddiannau yma ac amcanion ein Cynllun Strategol a byddant yn datblygu ymhellach apêl y rhan eithriadol hon o Gymru.”

Mae'r datblygiad Campws Arloesedd a Lledaenu Aberystwyth wedi ei wneud yn bosibl gan fuddsoddiad o £14.5m gan y BBSRC a gyhoeddwyd yn lansiad Strategaeth Technoleg Amaethyddol Llywodraeth y DG ym mis Gorffennaf 2013.

Disgwylir i gyfraniadau gan randdeiliaid eraill, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, i ddod a chyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect hwn i fwy na £35m.

Mae ucheldiroedd yng Nghymru yn cwmpasu 80,000 hectar, a’r adnoddau naturiol rheiny yn darparu gwasanaethau hanfodol gan gynnwys dw, bwyd, tanwydd, dal a storio carbon, cynefinoedd bywyd gwyllt, hafanau bioamrywiaeth, lliniaru llifogydd a mannau hamdden.

Bydd Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran yn gatalydd unigryw i ysgogi IBERS a darparwyr ymchwil eraill y DG i ddod o hyd i atebion i heriau sydd yn cynnwys:

• Systemau ffermio amgylcheddol gyfeillgar tra'n darparu incwm cynaliadwy i ffermwyr.
• Dulliau o feincnodi cynhyrchu cynaliadwy a gwerthfawrogi bioamrywiaeth yn yr ucheldir.
• Cadwyni cyflenwi bwyd lleol cynaliadwy sy'n caniatáu olrhain cynnyrch o darddiad hysbys i'w cyflenwi i ddefnyddwyr.
• Cynhyrchion â gwerth ychwanegol iddynt sy'n defnyddio datblygiadau cyfredol mewn gwyddoniaeth i ganiatáu i ffermwyr i ddarparu cynnyrch o safon uchel ar gyfer y gadwyn gyflenwi.
• Systemau cynhyrchu anifeiliaid sy'n lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy ymgorffori datblygiadau arloesol cyfoes mewn bwydo, rheoli a geneteg.
• Offer rheoli sy'n caniatáu i amaethyddiaeth yr ucheldir i gael ei llunio a'i rheoli mewn ffordd sy'n sicrhau buddiannau uchaf posib a chostau, yn ariannol ac yn amgylcheddol, yn cael eu lleihau.
• Sail tystiolaeth i gefnogi datblygu polisi gwybodus a dilys.

AU3714