Staff yn neidio oddi ar glogwyni ar ddiwedd y flwyddyn academaidd 2012/2013

07 Ionawr 2014

Ar ôl i’r flwyddyn academaidd 2012/2013 ddod i ben, fe benderfynodd grŵp o aelodau’r staff neidio oddi ar glogwyn. Neu’n hytrach, sawl clogwyn, gan lanio’n ddiogel yn y dŵr yn gwisgo fest nofio. Arforgampau yw’r enw swyddogol arno, a threuliwyd diwrnod ar arfordir Sir Benfro yn nofio, croesi, dringo a neidio oddi ar glogwyni. Dyma rai o’r sylwadau:                                   

  • Gall seicolegydd ddysgu’r ‘gwahaniaeth’ rhwng ‘carbohydrad’ a ‘glwcos’ yn ystod siwrnai 2 awr mewn car i Sir Benfro        
  • Fe wnaeth ffisiolegydd ddysgu y gall peidio â bwyta am ddiwrnod yn ogystal ag adrenalin sy’n cael ei secretu cyn neidio beri ichi deimlo fel llewygu
  • Dysgodd biomecanegydd fod symudiad ergydiol yn disgrifio gwrthrychau sy’n cwympo, ond y gall fod ofn yn bresennol o hyd wrth blymio ac nad yw’n rhan o’r hafaliad ffiseg      
  • Mae’r hyfforddwr yn dda am ddangos pam y dylech chi wisgo helmed wrth neidio wysg ei gefn am yn ôl (yn rhy) agos at glogwyn.
  • Mae neidio o glogwyn deg metr o uchder yn hawdd os ydych wedi bod yn y fyddin
  • Mae cyrff bychain yn oeri’n haws mewn dŵr oer  
  • Mae pengwiniaid yn cynnal rasys doniol i gadw’n gynnes
  • Nid yw’r morloi lleol yn gwerthfawrogi’r rasys doniol yma os mai dynion sydd wrthi
  • Sylweddolodd ffisiolegydd arall fod meddwl cyn neidio yn golygu peidio â neidio o gwbl
  • Nid yw gofyn ‘Ydyn ni’n mynd i nofio?’ sawl gwaith wrth yr hyfforddwr yn creu argraff ar yr hyfforddwr

Er mwyn peidio â chael eich pigo gan slefren fôr mae’n bosibl nofio â’r ddwy fraich y tu allan i’r dŵr (gan nad oedd y rhan yma o’r corff yn cael ei gorchuddio gan y wisg nofio)