Interniaeth dros yr haf yn Siapan yn cynnig profiadau newydd

06 Ionawr 2014

Mae Athrofa Haf Tsukuba yn gwrs rhyngwladol sy’n cynnig cyfle i uwchraddedigion ac israddedigion o athrofeydd ledled y byd i hybu ymchwil a rhwydweithio. Cafwyd dewis i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy’n gysylltiedig ag ymchwil a chwaraeon Siapan. Cafodd yr uwchraddedigion Rebekah Wale a Daniel March a’r israddedigion Leah Kolberg ac Andy Jones o’r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyfle i fynychu’r gynhadledd hon. Buon nhw’n cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau labordy a gyflwynodd ddealltwriaeth o’r gwahaniaeth o ran dulliau ymchwil yn Siapan o’i gymharu â’r DU. Cafodd chwaraeon traddodiadol Siapan fel Kendo a Judo eu cynnwys yn y gynhadledd wrth gwrs; does dim yn well na rhwydweithio trwy dafleu eich gilydd ar y llawr dro ar ôl tro. Yn ystod eu cyfnod yn Siapan, teithiodd y pedwar i rannau eraill o’r wlad a dringo Mynydd Tsukuba a fu’n brofiad unwaith mewn oes. Yn ôl Rebekah, "Mae Siapan yn wlad anhygoel ac ni fyddwn ni byth yn anghofio’r unigolion y gwnaethom gwrdd â nhw yn ystod ein hymweliad na’r lleoedd y gwnaethom ymweld â nhw. Roedd yn un o’r lleoedd mwyaf diddorol i ymweld ag ef, ac yn rhywle y gobeithiwn ymweld ag ef eto ac eto. Mae’n lle cyfeillgar a chroesawgar, a gobeithiwn fynd yno eto ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo yn 2020…ac ar gyfer ychydig bach o garioci."