Michele Presacane wedi ei benodi yn ‘Hyrwyddwr Iechyd’

06 Ionawr 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth newydd benodi Michele Presacane yn ‘Hyrwyddwr Iechyd’ a’i gwaith hi fydd hybu iechyd a lles aelodau’r staff ar draws y Brifysgol. Graddiodd Michele o Brifysgol Aberystwyth â gradd BSc (Anrh) dosbarth cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Cwblhaodd hefyd MSc Ymchwil Iechyd ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Aberystwyth. At hyn, bu’n gweithio’n rhan-amser yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol a chlybiau lleol a chefnogi digwyddiadau elusennol megis Cerddwn Ymlaen 2013.

Nod y swydd fydd mynd i’r afael â’r pynciau corfforol a seicolegol amrywiol sy’n berthnasol i iechyd a lles. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy gynnig gwasanaethau newydd a hawdd eu defnyddio i staff, fel archwiliadau iechyd misol, sesiynau ymgynghori iechyd a lles, seminarau, ystod eang o weithgareddau corfforol, digwyddiadau a chynlluniau i arwain y ffordd.

Y dirprwy is-ganghellor John Grattan oedd y person cyntaf i gwblhau cyfres o brofion a gynlluniwyd fel archwiliad iechyd sylfaenol. Cynigir y profion hyn yn rhad ac am ddim i bob aelod o staff. Mae’n gyfle gwych na ddylid ei golli. Os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Michele: mvp9@aber.ac.uk