Amseroedd Gwresogi a Dŵr Poeth

Yn gyffredinol, darperir gwres o'r prif gyfnod cyrraedd i fyfyrwyr ym mis Medi hyd at ddiwedd cyfnod yr arholiadau ddiwedd mis Mai, er y gellir diwygio'r dyddiadau hyn os yw'r tywydd yn anhymhorol.

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch o ran y gwresogi yn eich adeilad, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein Cofnodi nam (ar gyfer diffygion nad ydynt yn rhai brys), neu ffoniwch 01970 62999 (ar gyfer diffygion brys), neu os ydych am ofyn cwestiwn yn unig, cysylltwch â llety@aber.ac.uk / 01970 622984

Cwrt Mawr, Pantycelyn, Penbryn, Rosser G, Trefloyne a Fferm Penglais

Gwresogi:

Mae systemau gwresogi'r Brifysgol yn gyffredinol yn cychwyn pan fydd tymheredd yr aer y tu allan yn cyrraedd lefel a bennwyd ymlaen llaw, ac maent yn cael eu rheoli i ddarparu tymheredd wedi’i optimeiddio. 

Mae'r Brifysgol yn ymdrechu i gynnal tymheredd targed ar draws yr adeiladau preswyl o rhwng 19-20°C yn ystod y dydd (7yb – 11yh), a rhwng 17-18°C y tu allan i oriau gwaith (11yh – 7yb).  Ni ddylai'r tymheredd isaf ostwng o dan 18°C (7yb – 11yh) a 17°C (11yh – 7yb).

Rheolyddion gwresogi:

Tra bo’r gwres ymlaen gallwch reoleiddio'r tymheredd yn eich ystafell wely a’r gegin drwy addasu'r FRT (Falf Rheiddiadur Thermostatig) sydd wrth ochr eich rheiddiadur (gweler y llun isod).

 

Dŵr Poeth:

Darperir dŵr poeth 24/7.

Rosser C, D, E & F

Gwresogi:

Mae'r Brifysgol yn ymdrechu i gynnal tymheredd targed ar draws yr adeiladau preswyl o rhwng 19-20°C yn ystod y dydd (7yb – 11yh), a rhwng 17-18°C y tu allan i oriau gwaith (11yh – 7yb).  Ni ddylai'r tymheredd isaf ostwng o dan 18°C (7yb – 11yh) a 17°C (11yh – 7yb).

Rheolyddion gwresogi:

Gwnewch yn siwr for y rheiddiadur wedi ei droi ymlaen.
Mae gan pob ystafell wely a chegin reolydd gwres y gellir ei addasu i gynyddu neu leihau’r tymheredd. (Gweler y lluniau isod i adnabod eich rheolydd chi).

Reolyddion Gwres 1Reolyddion Gwres 2Reolyddion Gwres 3

Dŵr Poeth:

Darperir dŵr poeth 24/7

Pentre Jane Morgan

Amseroedd gwresogi:

• Dydd Llun – dydd Gwener: 6.30yb – 9.30yb a 4.30yp – 10.30yh.
• Dydd Sadwrn a dydd Sul: 6.30yb – 9.30yb a 2.30yp – 10.30yh.

Rheolyddion Gwresogi:

Tra bo’r gwres ymlaen gallwch reoleiddio'r tymheredd yn eich ystafell wely a’r gegin drwy addasu'r FRT (Falf Rheiddiadur Thermostatig) sydd wrth ochr eich rheiddiadur (gweler y llun isod).

Mae yna thermostat ar y wal yn y cyntedd hefyd. Mae addasu’r tymheredd ar y thermostat yma yn newid y tymheredd drwy’r tŷ, felly byddwch yn ystyriol o breswylwyr eraill.

Dŵr Poeth:

Mae'r dŵr poeth ymlaen rhwng 6.30yb a 10.30yh. Yn ystod y cyfnod yma bydd y boeler yn cylchredeg dŵr poeth drwy'r silindr dŵr yn barhaus er mwyn cadw'r dŵr yn gynnes. Mae'r silindrau dŵr poeth yn PJM yn fawr. Er bod y dŵr poeth yn diffodd am 10.30yh, dylai fod digon o ddŵr poeth wedi'i storio yn y silindr i bara tan o leiaf 6.30yb pan fydd y dŵr poeth yn cael ei droi ymlaen eto.