Diogelwch Tân

Y perygl mwyaf i fyfyrwyr sy'n byw yn y neuadday yw tân. Dylech ymgyfarwyddo â'r arwydd tân yn eich ystafell cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd.

 

Profi'r larymau tân

Caiff y larymau tân eu profi'n wythnosol ym mhob adeilad er mwyn i ni wybod eu bod yn gweithio'n iawn. Mae amserlen y profion ar gael isod.

Yn ystod y prawf tân, bydd y larwm yn seinio am rai eiliadau - nid oes rhaid i chi adael yr adeilad ar yr adeg hyn. 

Amserlen Brawf

  • PJM Tai 1-89 Dydd Mercher rhwng 12yp – 3yp, Tai 90-178 Dydd Iau rhwng 12yp-3yp
  • Cwrt Mawr - Dydd Gwener rhwng  2yp – 3.30yp
  • Fferm Penglais - Dydd Gwener rhwng 12yp - 3yp
  • Pantycelyn - Dydd Gwener rhwng 2yp - 3.30yp
  • Penbryn - Dydd Gwener rhwng 2yp - 3.30yp
  • Rosser (yn cynnwys Rosser G) - Dydd Gwener rhwng 2yp - 3.30yp
  • Trefloyne - Dydd Gwener rhwng 2yp - 3.30yp

Mi fydd unrhyw newidiadau i’r amserlen profi larymau tân yn cael ei gyfleu i chi dros e-bost.

Os yw'r larwm yn seinio y tu allan i'r amseroedd a nodir, dylech adael yr adeilad. Os yw'r larwm yn seinio'n barhaus, hyd yn oed o fewn yr amser profi, rhaid i chi adael yr adeilad - peidiwch ag aros i gasglu unrhyw eitemau personol, ewch i'r man ymgynnull agosaf a pheidiwch â mynd yn ôl i mewn i'r adeilad nes bod rhywun yn dweud wrthych am wneud. 

Os ydych chi'n darganfod tân, seiniwch y larwm ar unwaith trwy dorri'r gwydr, gadewch yr adeilad ac yna ffoniwch 999.

Larymau Ffug

Mae'r Gwasanaeth Tân a'r Brifysgol yn gweithio gyda'i gilydd i leihau nifer y larymau ffug sy'n digwydd ar y campws.

Gall larymau ffug achosi anghyfleustra i chi a'ch cyd-breswylwyr, yn arbennig os ydynt yn digwydd yng nghanol y nos. Yn fwy drifrifol, pan fydd y Gwasanaeth Tân yn cael eu galw i'ch neuadd chi, nid ydynt ar gael i fynychu argyfyngau go iawn yn rhywle arall.

Hyd yn oed os ydych chi'n gwybod mai chi sydd wedi achosi i'r larwm seinio a'ch bod yn gwybod nad oes perygl, mae'n rhaid i chi adae; yr adeilad o hyd.

Mae torri'r gwydr sy'n seinio'r larwm tân os nad oes tân yn cyfri fel gweithred faleisus. Bydd unrhyw un sy'n cael eu dal yn gwneud hynny yn debygol o gael dirwy ac wynebu camau disgyblaethol a allai arwain at gael eich eithrio o'r neuadd. Os bydd hyn yn digwydd, bydd y myfyriwr yn gorfod talu'r costau llawn ar gyer gwirio'r offer ac atgyweirio neu newid yr offer. Yn ychwanegol, mae hyn yn drosedd a gallech fod yn agored i erlyniad.

Gall y gwasanaeth tân gyhuddo neu erlyn unigolion os ydynt yn teimlo bod y larymau wedi'u seinio o ganlyniad i weithred faleisus neu esgeulus. Gall troseddwyr mynych wynebu dirwy o hyd at £6,000 a charchar am hyd at 6 mis. 

Archwiliadau Diogelwch Tân

Yn ystod eu hymweliadau patsh arferol, mi fydd eich Cynorthwyyd Preswyl (CP) yn cynnal archwiliad gweledol o’r offer diogelwch tân  yn ystafell wely eich bloc, ac ardaloedd cymunedol eich fflat/tŷ.

Bydd unrhyw problemau a nodwyd yn ystod yr ymweliad yn cael eu hadrodd i’r tîm cynnal a chadw i’w cywiro.

Cadwch lygad ar eich e-byst i gael cadarnhad o pryd y byddant yn galw heibio i’ch gweld ac i gynnal y archwiliadau gweledol hyn.

Camau diogelu rhag tân

Mae synhwyrydd mwg a/neu wres ym mhob adeilad. Mae ffaniau echdynnu (lle bo hynny’n berthnasol) yn y ceginau a’r ystafelloedd ymolchi, a disgwylir i chi eu defnyddio pan fo’u hangen. Mae blancedi tân yn y ceginau i’w defnyddio ar danau coginio. Mae drysau tân ym mhob adeilad a fydd yn cau’n awtomatig ac yn atal tân a mwg rhag lledu. Mae’r dodrefn a ddarperir yn eich llety’n cydymffurfio â’r rheoliadau perthnasol. Mae offer diffodd tân ym mhob llety er mwyn ymdrin â thanau bach. Fodd bynnag, ni ddisgwylir i chi defnyddio diffoddydd heblaw bod ll[1]wybr dianc clir ar gael i chi a’ch bod yn gallu defnyddio’r diffoddydd yn hyderus. Mae’r cyfarwyddiadau wedi’u hargraffu ar ochr y diffoddydd ond mae’n fwy diogel i chi adael yr adeilad os nad ydych yn siŵr beth i’w wneud. Peidiwch â defnyddio diffoddydd dŵr ar offer trydanol.

Drysau Tân

I sicrhau diogelwch y preswylwyr yn adeiladau’r Brifysgol lle ceir dau eiddo domestig neu fwy, a lle ceir ardaloedd cyffredin y bydd y preswylwyr angen eu defnyddio i adael yr adeilad mewn argyfwng. Mae’r wybodaeth ganlynol am ddrysau tân yn cael ei darparu i wella diogelwch preswylwyr yr adeilad. Mae gan ddrysau tân sawl diben ac maent yn ddrysau sydd wedi’u llunio’n arbennig i atal tân am gyfnod. Mae drysau tân yn gweithio yn rhan o system ac iddi sawl haen i amddiffyn rhag tân mewn adeilad, a hynny er mwyn:

  • Amddiffyn llwybrau dianc rhag effeithiau tân fel y gall y sawl sydd yn yr adeilad gyrraedd allanfa yn y pen draw;
  • Amddiffyn defnyddwyr yr adeilad, diffoddwyr tân, a chynnwys a/neu strwythur adeilad drwy gyfyngu ar ledaeniad tân. Er mwyn sicrhau diogelwch, rhoddir y cyngor canlynol.
  • Dylid cadw drysau tân ar gau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae drws tân yn gwbl ddiwerth os yw’n cael ei ddal ar agor neu os na ellir ei gau’n llwyr.
  • Ni ddylai’r preswylwyr na’u gwesteion ymyrryd â’r dyfeisiau sy’n galluogi i’r drysau gau ar eu pen eu hunain.
  •  A yw’r ddyfais sy’n galluogi i’r drws gau ar ei ben ei hun wedi’i gosod yn gywir ar y drws ac ar ffrâm y drws?
  • Chwiliwch am unrhyw ddifrod ac unrhyw olew sy’n gollwng.
  • A oes unrhyw ddifrod amlwg i’r fraich gyswllt ac i’r gosodiadau ar bob pen iddi?
  • Sicrhewch fod y drws yn cau’n dynn yn ei le a ddim yn cael ei atal gan y llawr na’r ffrâm.
  • Gwiriwch fod yr holl golfachau wedi’u gosod yn gadarn (tri neu fwy ohonynt), ac nad oes unrhyw sgriwiau ar goll neu wedi torri.
  • Edrychwch i weld a yw’r sêl wedi chwyddo o gwmpas y drws neu’r ffrâm. Gwiriwch fod y sêl yn gyfan ac nad oes unrhyw arwydd o ddifrod iddi.
  • A yw’r rhimyn o amgylch y gwydr wedi’i lynu’n dda at y drws a ddim wedi cael ei ddifrodi?
  • A gafwyd unrhyw newidiadau neu ddifrod i’r man lle ceir gwydr neu’r twll awyr yn y drws?
  • A yw’r gwydr wedi’i ddifrodi neu wedi cracio?
  • Rhowch wybod ar unwaith i ddesg gymorth y campws / person cyfrifol am unrhyw ddiffygion neu ddifrod i ddrysau

 

Gadael yr Adeiladau

Os ydych yn meddwl y bydd hi’n anodd i chi adael yr adeilad mewn argyfwng, mae’n bosib y bydd angen Cynllun Personol Gadael Mewn Argyfwng (‘PEEP’) arnoch, neu efallai y bydd angen gwneud addasiadau eraill. A allwch chi glywed y larwm tân ymhob sefyllfa (e.e. tra byddwch yn cysgu neu’n cael cawod)? A allwch chi symud at y grisiau yn hawdd os clywch chi’r larwm tân? A allwch chi fynd i lawr y grisiau yn hawdd a chyflym, heb gymorth? Os mai ‘na’ oedd eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Hygyrchedd i drafod eich PEEP neu’r addasiadau y dylid eu gwneud ar eich cyfer. Os na fyddwch yn datgelu materion hygyrchedd sylweddol efallai y cewch eich rhoi mewn llety anaddas, ac fe allai olygu y byddwch yn torri eich contract meddiannaeth.

 

Storio

Ni ddylech gadw neu storio eitemau, gan gynnwys beiciau, mewn coridorau, ar risiau neu lle maent yn rhwystro drysau. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn eich cadw’n ddiogel ac er mwyn sicrhau bod y llwybrau dianc yn cael eu cadw’n glir. Os ydych am ddod â beic i’r Brifysgol, mae gennym nifer o lefydd diogel dan do o gwmpas ein neuaddau preswyl er mwyn ichi eu storio’n ddiogel. I gael rhagor o wybodaeth am storio eich beic yn ddiogel, ewch i’n tudalen Byw yn ein Llety gweld Parcio Beiciau'n Ddiogel

 

Hysbysiad am weithredu os oes tân

Os byddwch yn darganfod tân: 

  1. Seiniwch y larwm tân yn ddi-oed gan ddefnyddio un o’r mannau larwm tân (MCP).
  2. Gadewch yr adeilad gan ddefnyddio’r allanfa ddiogel agosaf. Ceir arwyddion ‘allanfa dân’ i ddangos y llwybrau hyn.
  3. Peidiwch â defnyddio’r lifftiau.
  4. Ewch allan o’r adeilad a mynd i’r man ymgynnull.
  5. Dim ond os ydynt gerllaw y dylech gasglu mân bethau gwerthfawr a chôt.
  6. Peidiwch ag aros i gasglu gweddill eich eiddo personol.
  7. Ewch â’ch ffrindiau, eich cydweithwyr a’ch cyd-fyfyrwyr gyda chi.
  8. Os oes modd, caewch ddrysau a ffenestri er mwyn arafu lledaeniad y mwg, ond dim ond os na fydd hyn yn peri oedi sylweddol wrth i chi ddianc.
  9. Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i’r adeilad hyd nes y cewch wybod ei bod yn ddiogel ichi wneud hynny.
  10. Dim ond aelodau o staff sydd wedi cael eu hyfforddi ddylai geisio diffodd y tân, a dim ond os ydynt o’r farn ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny.
  11. Ffoniwch y Gwasanaeth Tân ac Achub o leoliad diogel trwy ddeialu 999.

Os clywch y larwm:

  1. Gadewch yr adeilad gan ddefnyddio’r allanfa ddiogel agosaf.
  2. Ewch allan o’r adeilad a mynd i’r man ymgynnull.
  3. Peidiwch â defnyddio’r lifftiau.
  4. Dim ond os ydynt gerllaw y dylech gasglu mân bethau gwerthfawr a chôt.
  5. Peidiwch ag aros i gasglu gweddill eich eiddo personol.
  6. Ewch â’ch ffrindiau, eich cydweithwyr a’ch cyd-fyfyrwyr gyda chi.
  7. Peidiwch â mynd yn ôl i mewn i’r adeilad hyd nes y cewch wybod ei bod yn ddiogel ichi wneud hynny.

Matric Cyfrifoldeb Diogelwch Tân - CMRT a Panty

Matric Cyfrifoldeb Diogelwch Tân - PJM

Matric Cyfrifoldeb Diogelwch Tân - Fferm

Cofiwch

  • Peidiwch â gosod rhywbeth i gadw drws tân ar agor.
  • Gwnewch yn siŵr nad oes braster na saim ar y ffwrn na’r gril; mae llosgi braster yn creu mwg. Gair i gall: rhowch bapur arian ar waelod y badell grilio.
  • Agorwch y ffenest / awyrell ffenestr wrth goginio.
  • Peidiwch byth â gadael bwyd sy’n coginio nac offer trydanol sydd wedi’u cynnau heb neb yn gofalu amdanynt.
  • Peidiwch byth â choginio pan fyddwch wedi blino neu dan ddylanwad alcohol/cyffuriau.
  • Peidiwch â rhoi gwrthrychau metel, megis cyllyll a ffyrc ac ati, yn y popty ping na’r tostiwr.
  • Rhowch y ffan echdynnu (lle bo hynny’n berthnasol) ar waith wrth goginio neu gael cawod.
  • Cadwch erosolau, sychwyr/sythwyr gwallt oddi wrth synwyryddion gwres.
  • Cadwch ddrysau’r gawod ar gau wrth gael cawod ac ar ôl gorffen er mwyn atal y stêm rhag dianc.
  • Peidiwch ag ymyrryd â larymau mwg/tân nac offer tân. Rhowch wybod i’r staff yn syth os oes rhywbeth wedi torri.