Glanhau

Rydym eisiau i'ch llety fod yn ddiogel, yn lân ac yn ddymunol – rhywle y gallwch deimlo'n gyfforddus. 

Rhaid i bobman tu fewn a thu allan i’ch llety cael ei chadw i’r safon uchaf o lendid gennych chi, gan eich cydletywr, a ninnau hefyd.  Mae safon uchel o gadw tŷ yn creu amgylchedd dymunol i bawb ac yn helpu i gadw eich llety’n ddiogel.  Gall safon hylendid isel denu germau a phlâu a chynyddu’r risg o beryglon yn eich llety.

 

Cyfrifoldebau

Eich ystafell:

Chi sy'n llwyr gyfrifol am gadw'ch ystafell yn lân ac yn daclus bob amser. Bydd offer sylfaenol fel hwfer a mop ar gael i chi. Os oes gennych ystafell en-suite bydd raid ichi gadw'r ystafell ymolchi yn lân.

Ardaloedd cyffredin:

Chi a'r lleill yn y bloc, tŷ neu fflat sy'n gyd-gyfrifol am lanhau'r ardaloedd cyffredin fel ceginau, coridorau ac ystafelloedd ymolchi. Mae hynny'n cynnwys y mannau gweithio, y rhewgell, y popty a'r bin. Mae llunio rota glanhau, a chadw ati, yn ffordd dda o gadw eichardaloedd cyffredin yn lân. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i wneud hyn, cysylltwch â'r tîm llety. Eich cyfrifoldeb chi fel grŵp hefyd fydd cynnal a chadw'r offer glanhau sylfaenol; sicrhau bod bag yr hwfer yn cael ei wacáu'n rheolaidd a chadw mopiau, bwcedi ac ati yn lân ac yn daclus. Gellir casglu bagiau hwfer o'r Swyddfa Llety.

Ardaloedd allanol:

A fyddech cystal â sicrhau hefyd fod yr ardaloedd yn union y tu allan i'r bloc yn lân, heb ysbwriel na bonion sigarennau. Defnyddiwch y storfeydd bin allanol a'r biniau ysbwriel a ddarperir a'r biniau sigarennau a ddarperir.

Ein cyfrifoldeb:

Byddwn yn glanhau'r ardaloedd cyffy tu allan i'ch fflat (coridorau, grisiau, mynedfeydd). Mae'n bosib y gwelwch chi'r tîm glanhau yn ystod yr wythnos ac weithiau, efallai y byddant yn dod i mewn i'ch llety i ddefnyddio offer y Brifysgol, fel yr hwfer.

Beth i'w brynu

Gall fod yn syniad da i sirarad gyda'r bobl eraill sy'n byw yn eich tŷ ynglŷn â chyfrannu i brynu cynnyrch glanhau gyda'ch gilydd.

Dyma rai eitemau defnyddiol allai fod eu hangen arnoch i gadw pethau'n lân:

  • Menig rwber
  • Hylof golchi llestri
  • Llieiniau llestri
  • Llieiniau, padiau sgwrio, brwsh
  • Glanhawr popty/hob
  • Glanhawr gwrth-facteria amlbwrpas
  • Glanhawr cawod ac ystafell ymolchi amlbwrpas
  • Glanhawr toiled a menig a llieiniau glanhau gwahanol
  • Bagiau sbwriel du

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau yn ofalus bob amser.

Templed rota glanhau

Gall y templed hwn amrywio gan ddibynnu ar y math o neuadd yr ydych yn byw ynddi. Rhaid golchi llestri a sosbenni ar ôl eu defnyddio, a'u sychu a'u cadw bob dydd.

Rhif ystafell/enwLlunMawrthMercherIauGwenerSadwrnSul
101 - Siôn Mynd allan â'r biniau Glanhau a hwfro'r coridor Glanhau'r toiled a'r sinc Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty Glanhau llawr y gegin a'r lolfa
102 - Siân Glanhau llawr y gegin a'r lolfa Mynd allan â'r biniau Glanhau a hwfro'r coridor Glanhau'r toiled a'r sinc Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty
103 - Pedr Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty Glanhau llawr y gegin a'r lolfa Mynd allan â'r biniau Glanhau a hwfro'r coridor Glanhau'r toiled a'r sinc Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau
104 - Gwion Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty Glanhau llawr y gegin a'r lolfa Mynd allan â'r biniau Glanhau a hwfro'r coridor Glanhau'r toiled a'r sinc Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi
105 - Elin Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty Glanhau llawr y gegin a'r lolfa Mynd allan â'r biniau Glanhau a hwfro'r coridor Glanhau'r toiled a'r sinc
106 - Bethan Glanhau'r toiled a'r sinc Glanhau'r gawod a llawr yr ystafell ymolchi Glanhau mannau gwaith y gegin, y bwrdd a'r sinciau Glanhau'r hobiau, y popty a'r ardal o amgylch y popty Glanhau llawr y gegin a'r lolfa Mynd allan â'r biniau Glanhau a hwfro'r coridor