7. Graddau Ymchwil
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Adran 7 PDF
-
7.1 Cyflwyniad
1. Dylid darllen Adran 6 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd ar y cyd â’r Rheoliadau ar gyfer Graddau Ymchwil Athro a Doethur a’r Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil a’u Harholi, sydd ar gael ar-lein ar https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/#regulations.
2. Ym mhob un o adrannau’r bennod hon, mae’r term ‘Arholwyr Allanol’ yn cyfeirio at Arholwyr Allanol ar gyfer graddau ymchwil.
-
7.2 Cyflwyno a Hyfforddi
1. Wrth iddynt gael eu derbyn, cyfeirir pob myfyriwr ymchwil uwchraddedig at y Canllawiau i Fyfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig ar wefan Ysgol y Graddedigion, sy’n nodi mewn manylder, ymhlith pethau eraill, rôl y myfyriwr a’r arolygwr.
2. Ceir hefyd ar dudalennau gwe Ysgol y Graddedigion ganllawiau pellach ynghylch cyfnod cyflwyno myfyrwyr ymchwil, a Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr y Brifysgol.
-
7.3 Arolygu Traethodau Ymchwil
1. Polisi’r Brifysgol yw y bydd gan bob myfyriwr o leiaf un prif arolygwr, a fydd yn rhan o dîm arolygu. Rhaid i o leiaf ddau aelod o staff fod yn rhan o arolygaeth pob myfyriwr ymchwil. Ceir rhagor o arweiniad ar arolygu ar y cyd, y meini prawf ar gyfer penodi arolygwyr, cyfrifoldebau’r prif arolygwr a’r ail arolygwr, a’r llwyth arolygu arferol, yn adran 4 y Llawlyfr ar gyfer Arolygwyr Uwchraddedigion Ymchwil, sydd ar gael ar-lein a chan Ysgol y Graddedigion.
2. Darperir hyfforddiant rheolaidd i arolygwyr gan Ysgol y Graddedigion, trwy gyfrwng y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.
-
7.4 Traethodau PhD mewn Ffurf amgen
1. Mae’r Ffurf Amgen yn caniatáu i fyfyriwr doethurol gyflwyno deunydd ar ffurf sy’n addas i’w gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid yn hytrach nag ar ffurf traethawd ymchwil traddodiadol. Ar wahân i’r ffaith ei fod yn cynnwys deunyddiau o’r fath, mae’r traethawd ymchwil ar Ffurf Amgen yn cydymffurfio â’r un safon ac yn cael ei reoli gan yr un rheoliadau â’r traethawd ymchwil PhD traddodiadol. Ceir gwybodaeth fanwl yn y Rheoliadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth.
2. Rhaid i fyfyrwyr PhD llawn-amser a rhan-amser sydd eisiau cyflwyno eu traethawd ymchwil ar Ffurf Amgen gyflwyno cais cyn diwedd ail flwyddyn eu cofrestriad (LlA) neu’r bedwaredd flwyddyn (RhA). Sylwer nad yw’r opsiwn hwn ar gael i fyfyrwyr MPhil.
3. Dylai myfyrwyr a chanddynt ddiddordeb yn hyn holi eu harolygwyr yn gynnar yn eu hymchwil os teimlant y gallai eu cynnyrch fod yn addas ar gyfer y Ffurf Amgen. Os oes arnynt eisiau gwneud cais ffurfiol, dylai myfyrwyr lenwi’r ffurflen PhD ar Ffurf Amgen a’i chyflwyno i’w Hathrofa. Bydd Pwyllgor Monitro Ymchwil yr Athrofa yn penderfynu a yw cyflwyniad ar Ffurf Amgen yn addas ac yn rhoi gwybod am hyn i gyfarfod Monitro nesaf Ysgol y Graddedigion. Os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, dylid anfon y ffurflen at y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion, a fydd yn nodi hyn ar gofnod y myfyriwr. Os nad yw’r cais yn cael ei dderbyn, bydd yr Athrofa’n esbonio’r penderfyniad wrth y myfyriwr.
-
7.5 Monitro Ymchwil
Mae'r Brifysgol yn ceisio sicrhau bod cynifer o fyfyrwyr ymchwil â phosibl yn cyflwyno eu traethodau ymchwil ar gyfer eu harholi o fewn eu terfyn amser. Er mwyn gwirio eu bod yn gwneud cynnydd boddhaol ac er mwyn canfod unrhyw anghenion o ran cymorth, mae cynnydd yr holl fyfyrwyr ymchwil yn cael ei fonitro'n flynyddol. Yn y Cyfadrannau y mae'r monitro'n digwydd yn y lle cyntaf. Bydd myfyrwyr yn llenwi ffurflen fonitro gan amlinellu eu cynnydd hyd yma, unrhyw hyfforddiant a wnaed, a'u cynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd arolygwyr yn ychwanegu eu sylwadau a bydd y Gyfadran yn asesu'r wybodaeth, fel arfer trwy gyfweld myfyrwyr ynghylch eu hymchwil.
Mae Ysgol y Graddedigion yn cynnull tri chyfarfod ar lefel y Brifysgol gyfan bob blwyddyn, ym mis Gorffennaf, Chwefror a Medi, er mwyn cael adroddiadau gan y Cyfadrannau ynghylch unrhyw faterion sy'n codi yn sgil eu monitro ar fyfyrwyr. Yn benodol, rhaid i'r holl fyfyrwyr doethuriaeth ddangos cynnydd boddhaol o ran eu hastudiaethau er mwyn cael caniatâd i symud ymlaen i flwyddyn nesaf eu cofrestriad, a rhaid i fyfyrwyr MPhil sydd eisiau uwchraddio i ddoethuriaeth ddangos cynnydd boddhaol cyn y gellir cadarnhau'r uwchraddio. Fel arfer bydd myfyrwyr nad yw eu cynnydd yn foddhaol yn cael cynnig cyfle i adfer y sefyllfa, a byddant yn cael set o dasgau i'w cyflawni o fewn amserlen benodol, cyn i’w cynnydd gael ei adolygu eto. Os bydd eu cynnydd yn parhau i fod yn anfoddhaol, mae'n bosibl y bydd myfyrwyr, dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd, yn cael eu hatal rhag parhau â'u hastudiaethau, neu'n gorfod israddio o ddoethuriaeth i MPhil. Mae'r Argymhelliad i ddiarddel neu israddio i Ffurflen dempled MPhil i'w weld yn Adran 3.13 o'r LlAA: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/.
-
7.6 Estyniadau i Derfynau Amser
1. Rhaid i fyfyrwyr Graddau Ymchwil sy’n ddeiliaid o Fisa Myfyrwr ofyn i Gynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol am gyngor cyn gwneud cais am estyniad.
2. Bydd ceisiadau am estyniadau i derfynau amser ar gyfer cyflwyno traethodau ymchwil gan fyfyrwyr graddau ymchwil yn cael eu hystyried gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn drwyadl er mwyn sicrhau bod myfyrwyr drwy'r Brifysgol yn cael eu trin yn deg ac yn gyson. Rhoddir gwybod am y penderfyniadau i’r Pwyllgor Graddau Ymchwil.
3. Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y dylid gofyn am estyniad. Disgwylir y bydd myfyrwyr ac adrannau yn gwneud pob ymdrech i osgoi gorfod gofyn am estyniad. Dylai’r holl fyfyrwyr uwchraddedig fod yn ymwybodol o’u dyddiad cyflwyno terfynol a dylent fod yn gweithio tuag ato. Dylai staff sy’n arolygu myfyrwyr uwchraddedig bwysleisio pwysigrwydd glynu at y dyddiad cyflwyno, o ran y myfyrwyr eu hunain ac o ran y Brifysgol, gan fod yn rhaid iddi allu dangos i gyrff allanol ei bod yn sicrhau cyfraddau cyflwyno boddhaol.
4. O ran traethodau doethuriaeth, mae'r Cynghorau Ymchwil a Chyllido yn rhoi pwyslais penodol ar sicrhau cyfraddau cyflwyno boddhaol. Mae’n hanfodol bod prosiectau PhD yn cael eu datblygu a’u cynllunio o’r cychwyn â’r nod o gwblhau’r ymchwil o fewn y cyfnod cofrestru. Mae myfyrwyr yn debygol o ddechrau swyddi cyflogedig ar ôl cwblhau’r cyfnod cofrestru ac felly dylid cyfyngu unrhyw waith a erys i’w gwblhau yn y cyfnod ‘ysgrifennu’ i’r hyn y gellir ei gyflawni dan bwysau swydd.
5. Cyfrifoldeb yr adrannau yw cyflwyno i Bennaeth Ysgol y Graddedigion ddadl lawn a rhesymegol ar ran eu myfyrwyr sy’n gwneud cais am estyniad. Dylid anfon ceisiadau ymlaen i Ysgol y Graddedigion mewn da bryd cyn dyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil er mwyn sicrhau bod digon o amser i ystyried y cais. Dylai'r ceisiadau gynnwys:
(i) Ffurflen gais, sydd ar gael ar-lein, yn rhoi manylion llawn y myfyriwr a’r ymgeisyddiaeth, i’w llofnodi gan yr arolygwr, pennaeth yr adran a'r myfyriwr
(ii) Datganiad gan y myfyriwr yn esbonio’r rhesymau dros y cais
(iii) Llythyr ategol gan yr adran yn cadarnhau bod y rhesymau a roddir gan y myfyriwr yn rhai dilys a’u bod wedi ei atal rhag gallu cyflwyno’r gwaith, ac y bydd y myfyriwr, o gael yr amser ychwanegol, yn gallu cyflwyno’r gwaith i’w arholi
(iv) Tystiolaeth ategol annibynnol o’r problemau y cyfeiriwyd atynt, e.e. tystiolaeth feddygol, tystiolaeth gan gyflogwyr. Sylwer y dylid osgoi tystiolaeth gan drydydd parti lle bo hynny'n bosib. Os darperir tystiolaeth o'r fath, dyllid cael caniatâd ysgrifenedig clir gan y trydydd parti hwnnw. Dylid defnyddio'r dystiolaeth honno at ddibenion ystyried y cais, ond ni ddylid ei chadw wedi hynny
(v) Datganiad wedi’i baratoi gan y myfyriwr a’r arolygwr yn amlinellu’r cynnydd hyd yma ac amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith o fewn cyfnod yr estyniad
(vi) Os yw’r ymgeisydd yn cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil, tystiolaeth, lle y bo’n briodol, fod y Cyngor dan sylw hefyd wedi cymeradwyo’r estyniad.
Os na ddarperir unrhyw elfen o’r deunydd sy’n ofynnol, bydd y cais yn cael ei anfon yn ôl i’r adran, gan oedi ystyried y cais.
6. Disgwylir y bydd unrhyw broblemau sylweddol o ran y myfyriwr neu’r prosiect ymchwil yn cael eu cofnodi yng nghyfarfodydd perthnasol y Pwyllgor Monitro Ymchwil ar yr adeg pan fyddont yn codi, ac y cymerir camau priodol. Ni ddylai problemau hirdymor na thynnwyd sylw’r Athrofa atynt fod yn sail i geisiadau am estyniad ar y munud olaf.
7. Dim ond ar y seiliau canlynol y gellir gwneud ceisiadau:
(i) Seiliau meddygol. Rhaid darparu tystiolaeth glir gan feddyg o’r broblem a’i heffaith ar astudiaethau’r myfyriwr.
(ii) Problemau domestig difrifol, e.e. ysgariad/diwedd perthynas dymor-hir. Mae angen tystiolaeth, yn canolbwyntio ar effaith y broblem ar waith y myfyriwr.
(iii) Seiliau tosturiol, e.e. profedigaeth. Mae angen tystiolaeth, yn canolbwyntio ar effaith y broblem ar waith y myfyriwr.
(iv) Anawsterau ymchwil nas rhagwelwyd. Mae natur ymchwil wreiddiol yn golygu bod myfyrwyr yn debygol o wynebu anawsterau y mae’n rhaid eu goresgyn. Dylid dyfeisio prosiectau, fodd bynnag, fel bod modd eu cwblhau’n llwyddiannus erbyn y dyddiad cyflwyno er gwaethaf anawsterau o’r fath. Dim ond pan fydd problemau sylweddol nas rhagwelwyd yn codi, na ellir ymdrin â hwy heb gael amser ychwanegol, y gellir ystyried estyniadau dan y pennawd hwn.
(v) Ymrwymiadau proffesiynol gormodol. Disgwylir y bydd myfyrwyr llawn-amser yn cael swydd gyflogedig yn ystod eu cyfnod ysgrifennu, ac y bydd ymgeiswyr rhan-amser eisoes mewn swydd. Dylid dyfeisio prosiectau y gellir eu cwblhau er gwaethaf hyn. Rhaid i geisiadau am estyniad dan y pennawd hwn ymwneud â mwy na dim ond pwysau arferol y mathau hyn o swyddi a bydd gofyn cael tystiolaeth gan y cyflogwr.
8. Sylwer y dylai myfyrwyr, pryd bynnag y bo modd, geisio cyflwyno gwaith i’w arholi o fewn y dyddiad cau gwreiddiol. Dylid gofyn am estyniad pan fydd anawsterau sylweddol wedi rhwystro myfyrwyr rhag cwblhau eu gwaith yn brydlon. Ni fwriedir bod myfyrwyr yn gofyn am estyniadau er mwyn iddynt gael cyfle i wella ansawdd y gwaith y maent yn ei gyflwyno, heb fod rhyw broblemau sylweddol. Mewn achosion o’r fath, dylid cyflwyno gwaith i’w arholi ac os nad yw’n cyrraedd y safon sy’n ofynnol mae’n bosibl y bydd yr arholwyr yn caniatáu amser ychwanegol ar gyfer ei ailgyflwyno.
9. Fel arfer, dim ond un estyniad a ganiateir. Gellir gofyn am estyniad am unrhyw gyfnod o amser, ond fel arfer bydd yn chwech neu ddeuddeg mis. Bydd angen i'r Athrofeydd gyflwyno eu dadl o blaid estyniad am gyfnod priodol. Gellir gwneud cais am estyniad hefyd pan fydd myfyrwyr yn ailgyflwyno traethodau ymchwil i’w harholi, a phan nad yw myfyrwyr yn gallu cyflwyno'r gwaith erbyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cywiriadau i’r traethodau ymchwil hyn wedi’r viva.
10. Wedi i Bennaeth Ysgol y Graddedigion ystyried cais, bydd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i’r adran a’r Gyfadran am y canlyniad. Disgwylir i’r adran roi gwybod i’r myfyriwr. Bydd y Gofrestrfa Academaidd hefyd yn diwygio cofnod y myfyriwr yn briodol ac yn rhoi gwybod i’r Pwyllgor Graddau Ymchwil.
-
7.7 Aelodaeth a Chylch Gorchwyl Byrddau Arholi
Ffurf a Strwythur y Bwrdd Arholi
1. Mae ymgeiswyr am Raddau Ymchwil yn cael eu harholi trwy gyfrwng traethawd ymchwil ac arholiad llafar. Bydd pob traethawd ymchwil yn cael ei arholi gan fwrdd sy’n cynnwys:
(i) Cadeirydd
(ii) Arholwr Mewnol
(iii) Arholwr Allanol
Penodi’r Bwrdd Arholi
2. Dylid penodi aelodau’r Bwrdd Arholi fel a ganlyn:
(i) Cadeirydd: Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn cael ei ddethol o blith cronfa o staff sydd wedi’u hyfforddi. Mae Ysgol y Graddedigion yn trefnu hyfforddiant ac yn cynnal cofrestr o staff hyfforddedig. Mae’r Rheoliadau yn amlinellu’r meini prawf er mwyn ystyried unigolion ar gyfer rôl y Cadeirydd; dylent fod yn aelodau o’r staff academaidd uwch a chanddynt brofiad addas. Rôl y Cadeirydd yw sicrhau bod gweithdrefnau’n cael eu dilyn yn gywir ac yn gyson ledled y Brifysgol.
(ii) Arholwr Mewnol
(iii) ac Arholwyr Allanol
Bydd aelodau’r Bwrdd yn cael eu penodi yn unol â Rheoliadau’r Brifysgol a’r Rheolau Sefydlog ar gyfer y Radd. Ni fydd arolygwr yr ymgeisydd yn cael ei benodi yn Arholwr Mewnol. Pan fydd ymgeiswyr o blith y staff yn cael eu harholi, defnyddir ail Arholwr Allanol yn hytrach nag Arholwr Mewnol. Gellir penodi ail Arholwr Allanol hefyd dan amgylchiadau pan na ellir canfod Arholwr Mewnol sydd â’r cymwysterau addas.
Dyletswyddau Aelodau’r Bwrdd Arholi
3. Rhaid i’r Bwrdd arholi’r traethawd ymchwil yn ogystal â chynnal arholiad llafar gyda’r ymgeisydd. Wrth arholi traethawd ymchwil sydd wedi’i ailgyflwyno, ac na fernir ei fod yn pasio’n glir neu’n pasio gyda chywiriadau syml, rhaid cynnal arholiad llafar. Dim ond mewn achosion eithriadol y gellir hepgor yr amod hwn, a hynny ar argymhelliad y Bwrdd Arholi a chyda chymeradwyaeth Pennaeth Ysgol y Graddedigion.
4. Mae Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod y gweithdrefnau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi’r traethawd ymchwil yn cael eu cynnal, bod yr holl ddogfennaeth yn cael ei chwblhau a bod holl aelodau’r Bwrdd Arholi yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau unigol.
5. Mae Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod yr arholiad, gan gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig a’r arholiad llafar, yn cael ei gynnal yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol. Bydd y Cadeirydd, cyn belled ag y bo modd, yn sicrhau bod yr arholiad yn deg ac yn ddiduedd, a bydd yn rhoi gwybod i’r Brifysgol am unrhyw amheuon o safbwynt hyn.
6. Wrth arholi’r traethawd ymchwil, bydd yr arholwyr:
(i) Yn ystyried y traethawd ymchwil a’r crynodeb(au), neu, yn achos PhD trwy Weithiau Cyhoeddedig neu raddau celfyddydau creadigol, yn ystyried y gweithiau cyhoeddedig a’r gweithiau creadigol a’r dadansoddiad beirniadol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd
neu
(ii) Yn rhoi adroddiad ar gwmpas, nodweddion ac ansawdd y gwaith a gyflwynwyd
(iii) Yn bodloni eu hunain fod gan yr ymgeisydd wybodaeth gyffredinol dda am faes dysg penodol y traethawd ymchwil
(iv) Yn cymhwyso meini prawf y Brifysgol ar gyfer dyfarnu’r radd.
7. Gofynnir i’r arholwyr roi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn ddi-oed os byddant yn cael traethawd ymchwil drafft i roi sylwadau arno a’i ddychwelyd cyn cychwyn y broses arholi ffurfiol. Rhaid iddynt wrthod yn gadarn unrhyw awgrym y dylid dychwelyd traethawd ymchwil at ymgeisydd i’w wella a’i ailystyried cyn i’r Bwrdd Arholi gwblhau eu trafodaethau ffurfiol. Gofynnir hefyd i Arholwyr Allanol roi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion os byddant yn cael y traethawd ymchwil yn uniongyrchol gan yr ymgeisydd neu’n uniongyrchol o’r Adran. Dim ond y Swyddfa ei hun sy’n cael anfon traethawd ymchwil at Arholwr Allanol.
8. Rhaid eithrio o’r arholiad unrhyw ran o’r traethawd ymchwil sydd eisoes wedi’i dderbyn neu sy’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd am unrhyw radd neu gymhwyster arall yn y Brifysgol neu yn rhywle arall.
Amserlen ar gyfer Arholi
9. Disgwylir i’r Arholwyr gwblhau’r gwaith o arholi’r ymgeisydd a chyflwyno eu hadroddiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl – fel arfer, heb fod yn hwy na deuddeg wythnos waith wedi iddynt dderbyn y traethawd ymchwil, a chyn dyddiad yr arholiad llafar. Os bydd hyn yn amhosibl, gofynnir i’r Arholwyr roi gwybod i Gadeirydd y Bwrdd Arholi beth yw’r rhesymau am yr oedi. Mae’r Brifysgol yn awyddus i sicrhau nad yw ymgeiswyr yn gorfod wynebu oedi hir yn ystod y broses arholi.
Adroddiad Ysgrifenedig
10. Bwriedir i Ffurflenni Adroddiad yr Arholwyr a Hysbysiad o Ganlyniad fod yn gyfryngau ar gyfer adroddiadau Arholwyr Mewnol ac Allanol, a dylai’r Bwrdd Arholi eu defnyddio wrth wneud argymhelliad ffurfiol i’r Brifysgol ar ganlyniad y broses arholi. Cynghorir arholwyr, dan delerau Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi hynny, fod gan ymgeiswyr yr hawl i weld unrhyw sylwadau a wneir amdanynt yn yr adroddiadau hyn. Mae gofyn cael ffurflen adroddiad hefyd ar gyfer achosion o ailgyflwyno.
11. Dylai’r Arholwr Allanol lenwi adran 1.1 y ffurflen Adroddiad ar Draethawd Ymchwil a mynd â’r ffurflen gyfan i’r arholiad llafar. Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi drefnu i adroddiad yr Arholwr Mewnol gael ei deipio i mewn, neu ei atodi fel arall, i Adran 2 'Adroddiad yr Arholwr Mewnol ar y Traethawd Ymchwil'.
12. Dylai ffurf a chynnwys adroddiadau’r Arholwyr fod yn ddigon manwl i ganiatáu i aelodau staff y Brifysgol asesu cwmpas a phwys y traethawd ymchwil a gwerthfawrogi ei gryfderau a’i wendidau. Cyhyd ag y bo modd, dylai adroddiadau gael eu hysgrifennu yn y fath fodd fel eu bod yn ddealladwy i’r rhai nad ydynt yn arbenigwyr ym maes penodol y traethawd ymchwil.
13. Wrth gwblhau eu hadroddiadau, gofynnir i arholwyr ymdrin â’r pwyntiau penodol canlynol:
(i) Crynhoi a dadansoddi’r ddadl
(ii) Strwythur a chydlyniad
(iii) Methodoleg
(iv) Dull cyflwyno
(v) Gwreiddioldeb a chyfraniad at wybodaeth
(vi) A ellid cyhoeddi’r ymchwil, a sut
Arholiad Llafar
14. Fel arfer bydd yr arholiad llafar yn cael ei gynnal yn y Brifysgol, yn unol â’r Rheoliadau ar gyfer dyfarnu’r radd. Yn unol â disgresiwn Pennaeth Ysgol y Graddedigion, fodd bynnag, a dan amgylchiadau eithriadol yn unig, gellir cynnal yr arholiad llafar mewn man arall.
15. Rhaid i’r unigolion canlynol fod yn bresennol yn yr arholiad llafar:
(i) Y Cadeirydd
(ii) Yr Arholwr Mewnol
(iii) Yr Arholwr Allanol (neu’r Cadeirydd a dau Arholwr Allanol ar gyfer ymgeiswyr o blith y staff)
16. Gellir gwahodd arolygwr/arolygwyr yr ymgeisydd i’r arholiad llafar gyda chytundeb yr ymgeisydd, ond dim ond ar wahoddiad y Cadeirydd y gallant siarad.
17. Mae tri diben i’r arholiad llafar:
(i) Galluogi’r Arholwyr i’w sicrhau eu hunain mai gwaith yr ymgeisydd ei hun yw’r traethawd ymchwil
(ii) Rhoi cyfle i’r ymgeisydd amddiffyn y traethawd ymchwil ac egluro unrhyw aneglurder ynddo
(iii) Galluogi’r Arholwyr i asesu gwybodaeth gyffredinol yr ymgeisydd am ei faes dysg penodol.
18. Ni ddylai’r Bwrdd Arholi roi unrhyw awgrym o ganlyniad yr arholiad i unrhyw ymgeisydd hyd nes bod yr arholiad wedi’i gwblhau a bod yr holl adroddiadau yn derfynol.
19. Mewn achosion eithriadol, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion, os rhoddir digon o rybudd, ystyried rhoi caniatâd i arholiadau llafar gael eu cynnal yn electronig. Cyhoeddir set ar wahân o ganllawiau i’r perwyl hwn a gofynnir i Arholwyr sydd wedi cael cais i gynnal arholiad llafar yn y fath fodd ymgyfarwyddo â chynnwys y canllawiau hynny. Mae’r Canllawiau ar gyfer Cynnal Arholiad Viva Voce drwy Ddulliau Electronig ar gael ar-lein ar: https://www.aber.ac.uk/cy/regulations/viva-voce/
20. Mae’n bosibl i Arholwyr anghytuno i raddau mwy neu lai ynghylch eu gwerthusiad o’r gwaith. Mae’n ddymunol, felly, i’r Arholwyr ymgynghori cyn yr arholiad llafar fel y gellir, os canfyddir gwahaniaeth barn sylweddol, lunio strategaeth a fyddai’n datrys y gwahaniaethau hyn drwy ddulliau y cytunir arnynt (a allai gynnwys strwythuro’r arholiad llafar yn ofalus). Er ei bod yn ddymunol i’r Arholwyr geisio datrys eu gwahaniaethau, os bydd yn amhosibl iddynt wneud hynny dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi roi gwybod am hyn i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion, ac ni ddylid gwneud unrhyw argymhelliad am unrhyw ddyfarniad. Dan yr amgylchiadau hyn, gellir troi at Arholwr Allanol Cymrodeddu ychwanegol, a cheir manylion ynghylch hyn yn y rheoliadau.
21. Mae’r arholiad llafar yn rhan hanfodol o’r broses arholi ar gyfer gradd ymchwil, ac amlinellwyd y dibenion penodol uchod. Gofynnir i’r Arholwyr fod yn ofalus iawn i osgoi rhoi’r argraff ar unrhyw adeg yn ystod yr arholiad llafar mai dim ond ffurfioldeb, ar unrhyw ystyr, yw’r arholiad llafar.
-
7.8 Meini Prawf ar gyfer Dyfarnu Graddau Ymchwil
Mae’r meini prawf ar gyfer Dyfarnu Graddau Ymchwil, h.y. Doethur mewn Athroniaeth (PhD), Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau Cyhoeddedig, Doethuriaeth Broffesiynol, Athro mewn Athroniaeth (MPhil)/LLM drwy Ymchwil i'w gweld yn y bennod yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd: 9.2 Meini Prawf ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau
-
7.9 Canlyniadau Arholi Graddau Ymchwil
1. Wedi’r Arholiad Llafar dylid llenwi’r ffurflen Canlyniad Dros Dro a’i rhoi i’r myfyriwr i gadarnhau’r canlyniad. Bydd y ffurflen yn rhoi gwybod i’r myfyriwr am unrhyw gywiriadau sy’n ofynnol.
2. Wedi’r Arholiad Llafar dylai’r Arholwr Allanol lenwi Adran 1.2 Adroddiad ar yr Arholiad Llafar ac, os yw’n briodol, 1.3 Materion sydd o Bryder a Diddordeb Cyffredinol [...]. Yna dylai’r Arholwr Allanol, ynghyd â’r Arholwr Mewnol, lenwi Adran 3, Adroddiad ar y Cyd gan yr Arholwyr Allanol a Mewnol.
3. Yna dylai’r Arholwyr drefnu gyda Chadeirydd y Bwrdd Arholi i’r ffurflen derfynol, Argymhelliad Ffurfiol yr Arholwyr ar Ganlyniad yr Arholiad, gael ei llenwi a’i llofnodi. Dylid nodi’r opsiwn priodol o ran y canlyniad trwy roi tic yn y blwch perthnasol (gweler y paragraff isod am nodiadau ar yr opsiynau amrywiol). Yna dylai’r Arholwyr a Chadeirydd y Bwrdd lofnodi’r ffurflen, a dylai’r Cadeirydd nodi’r dyddiad. Gofynnir unwaith eto i arholwyr fod yn ymwybodol o’r ffaith bod gan ymgeiswyr yr hawl i ofyn am gael gweld unrhyw sylwadau a wneir amdanynt yn yr adroddiadau hyn.
4. Mae’r Adroddiad yn nodi’r categorïau sydd ar gael o ran y canlyniad, a rhaid i aelodau’r Bwrdd Arholi ddewis y canlyniad priodol o’u plith. Yn achos ymgeiswyr PhD a chanddynt gywiriadau neu ddiwygiadau i’w gwneud, dylai’r Arholwyr nodi hefyd a ellir dyfarnu MPhil ar sail y traethawd ymchwil a gyflwynwyd.
-
7.10 Cwblhau’r Drefn Arholi
1. Rhaid i’r Cadeirydd sicrhau bod holl adrannau’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad yn cael eu llenwi yn syth wedi’r viva a bod yr holl adrannau yn cael eu llofnodi’n briodol.
Canlyniad Llwyddiannus
2. Pan fydd yr ymgeisydd wedi llwyddo, mae’r Brifysgol yn ei gwneud hi’n ofynnol i Arholwyr ddychwelyd traethodau ymchwil mewn rhwymiad dros dro yn uniongyrchol at Gadeirydd y Bwrdd Arholi wedi i’r arholiad gael ei gwblhau. Pan fydd yr ymgeisydd wedi pasio ond bod angen gwneud mân gywiriadau neu gywiriadau teipograffig i’r gwaith, dylai’r Cadeirydd drefnu â’r ymgeisydd i’r cywiriadau angenrheidiol gael eu gwneud ac i’r ddau gopi o’r traethawd ymchwil gael eu rhwymo’n barhaol ar y ffurf sy’n ofynnol er mwyn eu hadneuo yn y llyfrgelloedd. Cyfrifoldeb ymgeiswyr yw gwneud y cywiriadau sy’n ofynnol a threfnu i’w gwaith gael ei rwymo. Wedi i hyn gael ei wneud, a bod y Cadeirydd yn fodlon, dylai nhw anfon y ffurflenni Adroddiad yr Arholwyr a Hysbysiad o Ganlyniad at y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion.
3. Ni ddylid anfon y ffurflenni at y Swyddfa hyd nes bod y gwaith wedi’i rwymo’n barhaol.
4. Dylai’r Cadeirydd adneuo’r copïau rhwymedig o draethodau ymchwil fel a ganlyn: 1 copi yn uniongyrchol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU; 1 copi i Lyfrgell y Brifysgol. Rhaid dileu unrhyw nodiadau neu sylwadau a wnaed gan arholwyr ar ymylon traethodau ymchwil cyn eu hadneuo mewn llyfrgelloedd.
5. Yn ogystal â’r cyfrolau â rhwymiad parhaol a adneuir mewn llyfrgelloedd, rhaid i ymgeiswyr adneuo copi electronig o fersiwn derfynol y traethawd ymchwil yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn rhannu traethodau ymchwil a adneuir yno â chadwrfeydd allanol a chyfarpar chwilio gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chronfa ddata’r Llyfrgell Brydeinig o draethodau ymchwil y DU.
6. Disgwylir i’r ymgeisydd lofnodi datganiad yn nodi bod y copi electronig a adneuwyd yn y gadwrfa electronig yr union yr un fath o ran cynnwys â’r un a adneuwyd yn y Llyfrgell, a bod yr ymgeisydd wedi cael y caniatâd priodol o ran hawlfraint i ddefnyddio unrhyw gynnwys gan drydydd parti yn y traethawd ymchwil, fel y gall y gwaith fod ar gael yn gyfreithlon mewn cadwrfa mynediad agored.
7. Dylai deunydd a dderbynnir ar gyfer cadwrfa’r sefydliad gydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.
8. Pan geir rhwystr mynediad ar draethawd ymchwil, ni fydd yn cael ei adneuo yn y gadwrfa electronig mynediad agored hyd nes i’r rhwystr hwnnw gael ei godi. Gall myfyrwyr wneud cais i’w traethawd ymchwil gael ei adneuo ar ffurf copi caled yn y Llyfrgelloedd, ond i beidio â’i ddarparu yn electronig.
Canlyniad Aflwyddiannus
9. Pan na fydd yr ymgeisydd wedi llwyddo, rhaid i’r myfyriwr gael adborth ysgrifenedig clir ar y pwyntiau yr oedd yr arholwyr yn teimlo eu bod yn cyfiawnhau’r penderfyniad bod yn rhaid ailgyflwyno’r traethawd ymchwil. Y Cadeirydd sy’n gyfrifol am gasglu’r adborth a sicrhau ei fod yn cyrraedd yr ymgeisydd. Yna rhaid i’r ymgeisydd sicrhau bod y traethawd ymchwil, pan gaiff ei ailgyflwyno, yn ymdrin yn glir â’r pwyntiau hyn.
10. Dylid dychwelyd y ddau gopi o draethodau ymchwil aflwyddiannus at yr ymgeisydd. Rhaid dileu unrhyw nodiadau neu sylwadau a wnaed gan yr Arholwyr ar ymylon y traethawd ymchwil cyn eu dychwelyd at yr ymgeisydd.
Anghytundeb ynghylch canlyniadau
11. Os ceir anghytundeb rhwng yr Arholwyr ynghylch canlyniad yr arholiad, ni ddylid llofnodi Argymhelliad Ffurfiol yr Arholwyr ar Ganlyniad yr Arholiad. Yn hytrach, dylai’r Cadeirydd roi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Bydd y Swyddfa’n cyhoeddi canllawiau a ffurflenni adroddiadau i arholwyr allanol cymrodeddu eu defnyddio.
-
7.11 Arholi Allanol Graddau Ymchwil
1. Mae holl Arholwyr Allanol Graddau Ymchwil yn atebol yn y pen draw i’r Senedd, sy’n gyfrifol am y modd y cynhelir holl arholiadau Prifysgol Aberystwyth.
Meini prawf ar gyfer penodi Arholwyr Allanol
2. Ni cheir penodi unrhyw Arholwr Allanol sydd wedi bod yn cynghori’r myfyriwr neu sydd wedi rhoi sylwebaeth benodol ar y gwaith a gyflwynir i’w arholi.
3. Dylai Athrofeydd fod yn ofalus o ran sicrhau nad ydynt yn gorddefnyddio arholwr penodol.
4. Dim ond pobl sydd â safle digon uchel a digon o brofiad i allu hawlio awdurdod y dylid eu penodi yn arholwyr allanol. Rhaid i’r Arholwr Allanol fod â gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd ym maes yr ymchwil. Dylent hefyd fod â phrofiad o arolygu myfyrwyr ymchwil ac arholi ymgeiswyr graddau ymchwil yn fewnol yn llwyddia.
5. Mae arholwyr o’r tu allan i system y brifysgol yn addas pan fydd gofyn cael arbenigedd proffesiynol, ond rhaid i unigolion o’r fath a benodir fod â phrofiad addas o arholiadau ar gyfer graddau ymchwil. Lle nad yw hyn yn wir, dylai’r arholwr mewnol fod yn aelod hŷn o’r staff gyda phrofiad helaeth o arholiadau graddau ymchwil, neu gellir penodi ail arholwr allanol o brifysgol.
6. Ni ellir gwahodd cyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ymuno â staff prifysgol arall i ddod yn Arholwyr Allanol hyd nes bod o leiaf bum mlynedd wedi pasio, neu ddigon o amser i fyfyrwyr a gafodd eu harolygu gan yr aelod hwnnw o staff fod wedi pasio drwy’r system, pa bynnag un sydd hwyaf.
7. Fel arfer ni fydd cyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ymddeol yn cael eu henwebu yn Arholwyr Allanol. Gellir gwahodd aelodau o staff prifysgolion eraill sydd wedi ymddeol yn ystod y 3 blynedd flaenorol i weithredu fel Arholwyr Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
8. Ni ellir gwahodd cyn-fyfyrwyr o’r Brifysgol i fod yn Arholwyr Allanol nes bod o leiaf bum mlynedd wedi pasio, neu ddigon o amser i fyfyrwyr a oedd yn gydnabyddus â’r cyn-fyfyriwr fod wedi pasio drwy’r system. Ni ddylai cyn-fyfyrwyr weithredu fel arholwr allanol i ymgeiswyr a gyfarwyddwyd gan eu cyfarwyddwr PhD hwy eu hunain, ni ddylent chwaith weithredu fel arholwr allanol os mai eu harolygwr yw’r arholwr mewnol.
9. Yn ogystal â’r pwyntiau a nodwyd uchod, ni ddylid enwebu arholwyr allanol os oes unrhyw wrthdaro arall mewn buddiannau, neu ganfyddiad o wrthdaro buddiannau a fyddai’n:
- Effeithio ar annibyniaeth yr arholwr
- arwain at ganfyddiad o ddiffyg annibyniaeth
- tanseilio neu achosi canfyddiad o danseilio’r arholiad mewn unrhyw fodd.
Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn myfyrwyr, arholwyr a’r Brifysgol rhag unrhyw awgrym nad yw dyfarniadau’n cael eu cadarnhau’n wrthrychol.
10. Mae arholwyr ar gyfer myfyrwyr graddau ymchwil yn cael eu henwebu gan adrannau a’u cymeradwyo gan Banel a gadeirir gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion, gyda dau aelod arall o staff yn Ysgol y Graddedigion. Gwneir penodiadau ar ran y Pwyllgor Graddau Ymchwil a'r Bwrdd Academaidd. Mae adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer pob cyfarfod PGY a BA, sy’n rhestru penodiadau arholwyr allanol a gymeradwywyd ers y cyfarfod diwethaf ynghyd â data allweddol, a sylwebaeth ar unrhyw faterion sydd wedi codi. Bydd y Panel yn gwirio bod arholwyr arfaethedig yn bodloni gofynion y LlAA ar gyfer arholi graddau ymchwil a'r rheoliadau sy'n llywodraethu arholi graddau ymchwil. Bydd y Panel yn ystyried y ddau arholwr arfaethedig fel tîm a gall gymeradwyo un arholwr sydd â llai o brofiad o archwilio nag a ddisgwylir fel arfer pe bai hyn yn cael ei ddigolledu gan arholwr arall sydd â phrofiad sylweddol.
Canllawiau ar gyfer Byrddau Arholi Graddau Ymchwil
11. Pan fyddant yn cael eu penodi, rhoddir i bob Arholwr Allanol gopïau o Reoliadau perthnasol y Brifysgol, Adran 7 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, y Canllawiau ar gyfer Byrddau Arholi Graddau Ymchwil a’r Ffurflenni Canlyniad ac Adroddiad priodol ar gyfer yr arholiad.
12. Gofynnir i arholwyr sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chynnwys y Canllawiau (a roddir iddynt pan gânt eu penodi) a’u bod yn gweithredu yn unol â hwy.
Arfer Academaidd Annerbyniol
13. Bydd Arholwr Allanol sydd, naill ai yn ystod y broses arholi neu wedi hynny, yn ystyried bod ymgeisydd wedi defnyddio Arfer Academaidd Annerbyniol, yn rhoi gwybod yn ddi-oed am yr amgylchiadau yn ysgrifenedig i Gadeirydd y Bwrdd Arholi dan sylw. Ceir rhagor o ganllawiau ar Arfer Academaidd Annerbyniol yn Adran 3. y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Adroddiadau
14. Mae’r Brifysgol yn rhoi pwys sylweddol ar adroddiad yr Arholwr Allanol ac ni thelir y ffi hyd nes y bydd yr adroddiad wedi’i dderbyn. Yn unol â Rheolau Sefydlog y Brifysgol, gofynnir i Arholwr Allanol gyflwyno adroddiad ar y gwaith cyn gynted â phosibl, ac fel arfer o fewn deuddeg wythnos waith i’r dyddiad pan gyflwynodd yr ymgeisydd y gwaith.
Arholwyr Cymrodeddu
15. Pan geir anghytundeb rhwng yr Arholwr Allanol a’r Arholwr/Arholwyr Mewnol, dylai’r Arholwyr a’r Cadeirydd farcio’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad arferol er mwyn nodi nad yw’r Bwrdd wedi gallu cytuno ar argymhelliad.
16. Mewn achos o’r fath, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion droi at arholwr allanol arall a gofyn iddo/iddi gymrodeddu.
17. Wrth ddethol Arholwr Allanol Cymrodeddu, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion ystyried unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan aelodau’r Bwrdd Arholi a gall hefyd ystyried unrhyw enwebiad a wnaed gan y Bwrdd gwreiddiol, er nad oes gorfodaeth arno/arni i fod yn rhwym wrth yr enwebiad hwnnw.
18. Wrth gael ei benodi, rhoddir copi o waith yr ymgeisydd i Arholwr Allanol Cymrodeddu, ynghyd ag adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol a’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad a’r ‘Nodiadau ar gyfer Arholwyr Allanol Cymrodeddu’.
19. Wrth ystyried gwaith yr ymgeisydd, gall yr Arholwr Allanol Cymrodeddu ddewis a fydd yn cyfeirio at adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol ai peidio (ac os felly, pryd y bydd nhw yn gwneud hynny). Gall nhw hefyd ddewis cynnal arholiad llafar arall ac, os felly, gall ddewis a wahoddir yr arholwyr gwreiddiol i fod yn bresennol ai peidio.
20. Pan fydd yr Arholwr Allanol Cymrodeddu wedi gorffen ystyried y gwaith, dylid rhoi gwybod am y canlyniad i Gadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyntaf. Bydd y Cadeirydd yn trefnu i’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad gael ei llenwi, ei llofnodi a’i dychwelyd i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion.
-
7.12 Gweithgareddau Addysgu Uwchraddedig
1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y gall myfyrwyr ymchwil uwchraddedig ei wneud i addysgu ac arddangos ar gynlluniau gradd a addysgir, ac mae hefyd yn gwerthfawrogi manteision y gweithgaredd hwn ar gyfer datblygiad gyrfaol a phersonol myfyrwyr ymchwil uwchraddedig. Mae’r Brifysgol hefyd yn cydnabod bod myfyrwyr ymchwil uwchraddedig angen cymorth i gyflawni rolau addysgu’n effeithiol ac i sicrhau profiad cadarnhaol i’r myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu.
2. Mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo fersiwn o Siarter Cyflogaeth Uwchraddedigion yr NUS/UCU, sy’n cyflwyno’r egwyddorion y dylid eu cymhwyso wrth benodi, cydnabod a chefnogi myfyrwyr ymchwil uwchraddedig sy’n cymryd rhan mewn addysgu. Mae’r Siarter yn cael ei hadolygu’n rheolaidd.
3. Mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig sy’n ymwneud ag addysgu, arddangos neu rolau dysgu ac addysgu eraill, gael contract cyflogaeth gan Adnoddau Dynol. Dylai natur eu dyletswyddau gael eu nodi’n eglur a dylid cydnabod ar y raddfa sefydledig ar gyfer y gweithgaredd perthnasol.
4. Dylid cyflogi uwchraddedigion ymchwil amser-llawn at ddibenion addysgu am uchafswm o 6 awr yr wythnos, sy’n cynnwys yr amser paratoi a marcio, neu 180 awr mewn blwyddyn academaidd. Ni ddylai dyletswyddau addysgu ymyrryd â gallu’r myfyriwr i gwblhau eu hymchwil yn effeithiol na’u presenoldeb mewn sesiynau datblygu ymchwilwyr.
5. Bydd athrawon ymchwil uwchraddedig yn cyfrannu at gyflwyno modiwlau, fel rheol drwy arddangos neu addysgu seminarau. Mae’n bosibl y bydd athrawon ymchwil uwchraddedig yn darlithio’n achlysurol. Ni ddylent fod yn gyfrifol am gyflwyno’r holl ddarlithoedd nac am gynllun, cynulliad neu weinyddiaeth gyffredinol modiwl.
6. Dylai unrhyw waith marcio ac asesu a wneir gan athrawon uwchraddedig gael ei gymedroli’n fewnol. Bydd unrhyw waith marcio ar gyfer Rhan Dau, sy’n cyfrannu at ganlyniadau gradd, hefyd yn gael ei gymedroli’n allanol yn ôl yr arfer.
7. Dylai uwchraddedigion ymchwil fod yn rhan o’r tîm sy’n cyflwyno modiwl. I alluogi iddynt gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol, dylent gael y cyngor a’r wybodaeth briodol gan gydlynydd y modiwl a’u hadran am eu rôl o fewn y modiwl, ac am nodau ac amcanion y modiwlau y maent yn eu dysgu a’r cynlluniau gradd y mae’r modiwlau’n cyfrannu atynt.
8. Bydd Ysgol y Graddedigion yn trefnu cyflwyniad cyffredinol i addysgu yn rhan o’i rhaglen gynefino, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr fynychu os ydynt yn ymgymryd â gweithgareddau addysgu. Bydd hefyd yn cynnal sesiynau ar agweddau penodol ar ddysgu ac asesu, a dylai pob myfyriwr ymchwil uwchraddedig eu mynychu os ydynt yn ymwneud â’r meysydd hynny. Bydd yr adrannau/cyfadrannau’n darparu unrhyw hyfforddiant ychwanegol angenrheidiol ar gyfer addysgu disgyblaeth-benodol. Ni ddylai myfyrwyr ymgymryd â gweithgareddau addysgu heb fynychu’r sesiynau hyfforddi priodol.
9. Mae’n rhaid i adrannau/cyfadrannau ddarparu lleoliad ac adnoddau priodol ar gyfer unrhyw waith addysgu a wneir gan fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig.
10. Bydd adrannau/cyfadrannau’n sicrhau digon o gymorth a chyfarwyddyd i athrawon ymchwil uwchraddedig, gan gynnwys cyflwyniad i amgylchedd gwaith yr Adran, ymateb i broblemau sy’n codi o’r trefniadau addysgu a monitro effeithiolrwydd addysgu’r athrawon ymchwil uwchraddedig. Dylai athrawon ymchwil uwchraddedig gael mynediad at staff dynodedig sy’n gallu rhoi cyngor ar unrhyw faterion sy’n codi wrth addysgu, boed yn fentoriaid, goruchwylwyr, cynullyddion modiwlau, neu, yn y pen draw, y Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu.
11. Dylid cynnig mynediad at weithgareddau datblygu proffesiynol parhaus a gynhelir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (UDDA) i athrawon ymchwil uwchraddedig. Gall y rheini sydd eisiau hyfforddiant ychwanegol a chymhwyster gydnabyddedig wneud cais am y cynllun Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUPA), a achredir gan yr AAU ac sy’n cyflwyno statws Cymrawd Cyswllt i’r rhai sy’n cwblhau’n llwyddiannus, a/neu’r cymhwyster TUAAU sy’n cyflwyno statws Cymrawd o’r Academi Addysg Uwch (mae ddau gynllun yn amodol ar argaeledd).
12. Bydd y Brifysgol yn darparu yswiriant i indemnio athrawon uwchraddedig rhag atebolrwydd cyfreithiol.
-
7.13 Gwybodaeth, Ffurflenni a Chanllawiau ar gyfer Arholwyr Mewnol ac Allanol Graddau Ymchwil
Canllawiau
- Canllawiau ar gyfer Byrddau Arholi Graddau Ymchwil
- Canllawiau ar gyfer Cynnal Arholiadau Viva Voce drwy Ddulliau Electronig
Gwybodaeth i Arholwyr Allanol
- Cod Ymarfer ar gyfer Arholwyr Allanol Graddau Ymchwil
- Arholwyr Allanol - Ffurflen Dechreuwyr Newydd
- Ffurflen Ffioedd a Treuliau Arholwyr Allanol
- Trethi Teithio a Chynhaliaeth
- Nodiadau Cynhaliaeth a Ffurflen gais
Rheolau a Rheoliadau
- Rheoliadau ar gyfer Gradd Doethur mewn Athroniaeth
- Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Gradd PhD (drwy Weithiau Cyhoeddedig)
- Rheoliadau ar gyfer Gradd Athro mewn Athroniaeth
- Rheoliadau ar gyfer Cyflwyno Traethodau Ymchwil a'u Harholi
Ffurflenni