7.7 Aelodaeth a Chylch Gorchwyl Byrddau Arholi
Ffurf a Strwythur y Bwrdd Arholi
1. Mae ymgeiswyr am Raddau Ymchwil yn cael eu harholi trwy gyfrwng traethawd ymchwil ac arholiad llafar. Bydd pob traethawd ymchwil yn cael ei arholi gan fwrdd sy’n cynnwys:
(i) Cadeirydd
(ii) Arholwr Mewnol
(iii) Arholwr Allanol
Penodi’r Bwrdd Arholi
2. Dylid penodi aelodau’r Bwrdd Arholi fel a ganlyn:
(i) Cadeirydd: Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn cael ei ddethol o blith cronfa o staff sydd wedi’u hyfforddi. Mae Ysgol y Graddedigion yn trefnu hyfforddiant ac yn cynnal cofrestr o staff hyfforddedig. Mae’r Rheoliadau yn amlinellu’r meini prawf er mwyn ystyried unigolion ar gyfer rôl y Cadeirydd; dylent fod yn aelodau o’r staff academaidd uwch a chanddynt brofiad addas. Rôl y Cadeirydd yw sicrhau bod gweithdrefnau’n cael eu dilyn yn gywir ac yn gyson ledled y Brifysgol.
(ii) Arholwr Mewnol
(iii) ac Arholwyr Allanol
Bydd aelodau’r Bwrdd yn cael eu penodi yn unol â Rheoliadau’r Brifysgol a’r Rheolau Sefydlog ar gyfer y Radd. Ni fydd arolygwr yr ymgeisydd yn cael ei benodi yn Arholwr Mewnol. Pan fydd ymgeiswyr o blith y staff yn cael eu harholi, defnyddir ail Arholwr Allanol yn hytrach nag Arholwr Mewnol. Gellir penodi ail Arholwr Allanol hefyd dan amgylchiadau pan na ellir canfod Arholwr Mewnol sydd â’r cymwysterau addas.
Dyletswyddau Aelodau’r Bwrdd Arholi
3. Rhaid i’r Bwrdd arholi’r traethawd ymchwil yn ogystal â chynnal arholiad llafar gyda’r ymgeisydd. Wrth arholi traethawd ymchwil sydd wedi’i ailgyflwyno, ac na fernir ei fod yn pasio’n glir neu’n pasio gyda chywiriadau syml, rhaid cynnal arholiad llafar. Dim ond mewn achosion eithriadol y gellir hepgor yr amod hwn, a hynny ar argymhelliad y Bwrdd Arholi a chyda chymeradwyaeth Pennaeth Ysgol y Graddedigion.
4. Mae Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod y gweithdrefnau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi’r traethawd ymchwil yn cael eu cynnal, bod yr holl ddogfennaeth yn cael ei chwblhau a bod holl aelodau’r Bwrdd Arholi yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau unigol.
5. Mae Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod yr arholiad, gan gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig a’r arholiad llafar, yn cael ei gynnal yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol. Bydd y Cadeirydd, cyn belled ag y bo modd, yn sicrhau bod yr arholiad yn deg ac yn ddiduedd, a bydd yn rhoi gwybod i’r Brifysgol am unrhyw amheuon o safbwynt hyn.
6. Wrth arholi’r traethawd ymchwil, bydd yr arholwyr:
(i) Yn ystyried y traethawd ymchwil a’r crynodeb(au), neu, yn achos PhD trwy Weithiau Cyhoeddedig neu raddau celfyddydau creadigol, yn ystyried y gweithiau cyhoeddedig a’r gweithiau creadigol a’r dadansoddiad beirniadol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd
neu
(ii) Yn rhoi adroddiad ar gwmpas, nodweddion ac ansawdd y gwaith a gyflwynwyd
(iii) Yn bodloni eu hunain fod gan yr ymgeisydd wybodaeth gyffredinol dda am faes dysg penodol y traethawd ymchwil
(iv) Yn cymhwyso meini prawf y Brifysgol ar gyfer dyfarnu’r radd.
7. Gofynnir i’r arholwyr roi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn ddi-oed os byddant yn cael traethawd ymchwil drafft i roi sylwadau arno a’i ddychwelyd cyn cychwyn y broses arholi ffurfiol. Rhaid iddynt wrthod yn gadarn unrhyw awgrym y dylid dychwelyd traethawd ymchwil at ymgeisydd i’w wella a’i ailystyried cyn i’r Bwrdd Arholi gwblhau eu trafodaethau ffurfiol. Gofynnir hefyd i Arholwyr Allanol roi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion os byddant yn cael y traethawd ymchwil yn uniongyrchol gan yr ymgeisydd neu’n uniongyrchol o’r Adran. Dim ond y Swyddfa ei hun sy’n cael anfon traethawd ymchwil at Arholwr Allanol.
8. Rhaid eithrio o’r arholiad unrhyw ran o’r traethawd ymchwil sydd eisoes wedi’i dderbyn neu sy’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd am unrhyw radd neu gymhwyster arall yn y Brifysgol neu yn rhywle arall.
Amserlen ar gyfer Arholi
9. Disgwylir i’r Arholwyr gwblhau’r gwaith o arholi’r ymgeisydd a chyflwyno eu hadroddiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl – fel arfer, heb fod yn hwy na deuddeg wythnos waith wedi iddynt dderbyn y traethawd ymchwil, a chyn dyddiad yr arholiad llafar. Os bydd hyn yn amhosibl, gofynnir i’r Arholwyr roi gwybod i Gadeirydd y Bwrdd Arholi beth yw’r rhesymau am yr oedi. Mae’r Brifysgol yn awyddus i sicrhau nad yw ymgeiswyr yn gorfod wynebu oedi hir yn ystod y broses arholi.
Adroddiad Ysgrifenedig
10. Bwriedir i Ffurflenni Adroddiad yr Arholwyr a Hysbysiad o Ganlyniad fod yn gyfryngau ar gyfer adroddiadau Arholwyr Mewnol ac Allanol, a dylai’r Bwrdd Arholi eu defnyddio wrth wneud argymhelliad ffurfiol i’r Brifysgol ar ganlyniad y broses arholi. Cynghorir arholwyr, dan delerau Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi hynny, fod gan ymgeiswyr yr hawl i weld unrhyw sylwadau a wneir amdanynt yn yr adroddiadau hyn. Mae gofyn cael ffurflen adroddiad hefyd ar gyfer achosion o ailgyflwyno.
11. Dylai’r Arholwr Allanol lenwi adran 1.1 y ffurflen Adroddiad ar Draethawd Ymchwil a mynd â’r ffurflen gyfan i’r arholiad llafar. Dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi drefnu i adroddiad yr Arholwr Mewnol gael ei deipio i mewn, neu ei atodi fel arall, i Adran 2 'Adroddiad yr Arholwr Mewnol ar y Traethawd Ymchwil'.
12. Dylai ffurf a chynnwys adroddiadau’r Arholwyr fod yn ddigon manwl i ganiatáu i aelodau staff y Brifysgol asesu cwmpas a phwys y traethawd ymchwil a gwerthfawrogi ei gryfderau a’i wendidau. Cyhyd ag y bo modd, dylai adroddiadau gael eu hysgrifennu yn y fath fodd fel eu bod yn ddealladwy i’r rhai nad ydynt yn arbenigwyr ym maes penodol y traethawd ymchwil.
13. Wrth gwblhau eu hadroddiadau, gofynnir i arholwyr ymdrin â’r pwyntiau penodol canlynol:
(i) Crynhoi a dadansoddi’r ddadl
(ii) Strwythur a chydlyniad
(iii) Methodoleg
(iv) Dull cyflwyno
(v) Gwreiddioldeb a chyfraniad at wybodaeth
(vi) A ellid cyhoeddi’r ymchwil, a sut
Arholiad Llafar
14. Fel arfer bydd yr arholiad llafar yn cael ei gynnal yn y Brifysgol, yn unol â’r Rheoliadau ar gyfer dyfarnu’r radd. Yn unol â disgresiwn Pennaeth Ysgol y Graddedigion, fodd bynnag, a dan amgylchiadau eithriadol yn unig, gellir cynnal yr arholiad llafar mewn man arall.
15. Rhaid i’r unigolion canlynol fod yn bresennol yn yr arholiad llafar:
(i) Y Cadeirydd
(ii) Yr Arholwr Mewnol
(iii) Yr Arholwr Allanol (neu’r Cadeirydd a dau Arholwr Allanol ar gyfer ymgeiswyr o blith y staff)
16. Gellir gwahodd arolygwr/arolygwyr yr ymgeisydd i’r arholiad llafar gyda chytundeb yr ymgeisydd, ond dim ond ar wahoddiad y Cadeirydd y gallant siarad.
17. Mae tri diben i’r arholiad llafar:
(i) Galluogi’r Arholwyr i’w sicrhau eu hunain mai gwaith yr ymgeisydd ei hun yw’r traethawd ymchwil
(ii) Rhoi cyfle i’r ymgeisydd amddiffyn y traethawd ymchwil ac egluro unrhyw aneglurder ynddo
(iii) Galluogi’r Arholwyr i asesu gwybodaeth gyffredinol yr ymgeisydd am ei faes dysg penodol.
18. Ni ddylai’r Bwrdd Arholi roi unrhyw awgrym o ganlyniad yr arholiad i unrhyw ymgeisydd hyd nes bod yr arholiad wedi’i gwblhau a bod yr holl adroddiadau yn derfynol.
19. Mewn achosion eithriadol, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion, os rhoddir digon o rybudd, ystyried rhoi caniatâd i arholiadau llafar gael eu cynnal yn electronig. Cyhoeddir set ar wahân o ganllawiau i’r perwyl hwn a gofynnir i Arholwyr sydd wedi cael cais i gynnal arholiad llafar yn y fath fodd ymgyfarwyddo â chynnwys y canllawiau hynny. Mae’r Canllawiau ar gyfer Cynnal Arholiad Viva Voce drwy Ddulliau Electronig ar gael ar-lein ar: https://www.aber.ac.uk/cy/regulations/viva-voce/
20. Mae’n bosibl i Arholwyr anghytuno i raddau mwy neu lai ynghylch eu gwerthusiad o’r gwaith. Mae’n ddymunol, felly, i’r Arholwyr ymgynghori cyn yr arholiad llafar fel y gellir, os canfyddir gwahaniaeth barn sylweddol, lunio strategaeth a fyddai’n datrys y gwahaniaethau hyn drwy ddulliau y cytunir arnynt (a allai gynnwys strwythuro’r arholiad llafar yn ofalus). Er ei bod yn ddymunol i’r Arholwyr geisio datrys eu gwahaniaethau, os bydd yn amhosibl iddynt wneud hynny dylai Cadeirydd y Bwrdd Arholi roi gwybod am hyn i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion, ac ni ddylid gwneud unrhyw argymhelliad am unrhyw ddyfarniad. Dan yr amgylchiadau hyn, gellir troi at Arholwr Allanol Cymrodeddu ychwanegol, a cheir manylion ynghylch hyn yn y rheoliadau.
21. Mae’r arholiad llafar yn rhan hanfodol o’r broses arholi ar gyfer gradd ymchwil, ac amlinellwyd y dibenion penodol uchod. Gofynnir i’r Arholwyr fod yn ofalus iawn i osgoi rhoi’r argraff ar unrhyw adeg yn ystod yr arholiad llafar mai dim ond ffurfioldeb, ar unrhyw ystyr, yw’r arholiad llafar.