7.10 Cwblhau’r Drefn Arholi
1. Rhaid i’r Cadeirydd sicrhau bod holl adrannau’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad yn cael eu llenwi yn syth wedi’r viva a bod yr holl adrannau yn cael eu llofnodi’n briodol.
Canlyniad Llwyddiannus
2. Pan fydd yr ymgeisydd wedi llwyddo, mae’r Brifysgol yn ei gwneud hi’n ofynnol i Arholwyr ddychwelyd traethodau ymchwil mewn rhwymiad dros dro yn uniongyrchol at Gadeirydd y Bwrdd Arholi wedi i’r arholiad gael ei gwblhau. Pan fydd yr ymgeisydd wedi pasio ond bod angen gwneud mân gywiriadau neu gywiriadau teipograffig i’r gwaith, dylai’r Cadeirydd drefnu â’r ymgeisydd i’r cywiriadau angenrheidiol gael eu gwneud ac i’r ddau gopi o’r traethawd ymchwil gael eu rhwymo’n barhaol ar y ffurf sy’n ofynnol er mwyn eu hadneuo yn y llyfrgelloedd. Cyfrifoldeb ymgeiswyr yw gwneud y cywiriadau sy’n ofynnol a threfnu i’w gwaith gael ei rwymo. Wedi i hyn gael ei wneud, a bod y Cadeirydd yn fodlon, dylai nhw anfon y ffurflenni Adroddiad yr Arholwyr a Hysbysiad o Ganlyniad at y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion.
3. Ni ddylid anfon y ffurflenni at y Swyddfa hyd nes bod y gwaith wedi’i rwymo’n barhaol.
4. Dylai’r Cadeirydd adneuo’r copïau rhwymedig o draethodau ymchwil fel a ganlyn: 1 copi yn uniongyrchol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU; 1 copi i Lyfrgell y Brifysgol. Rhaid dileu unrhyw nodiadau neu sylwadau a wnaed gan arholwyr ar ymylon traethodau ymchwil cyn eu hadneuo mewn llyfrgelloedd.
5. Yn ogystal â’r cyfrolau â rhwymiad parhaol a adneuir mewn llyfrgelloedd, rhaid i ymgeiswyr adneuo copi electronig o fersiwn derfynol y traethawd ymchwil yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn rhannu traethodau ymchwil a adneuir yno â chadwrfeydd allanol a chyfarpar chwilio gan gynnwys casgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chronfa ddata’r Llyfrgell Brydeinig o draethodau ymchwil y DU.
6. Disgwylir i’r ymgeisydd lofnodi datganiad yn nodi bod y copi electronig a adneuwyd yn y gadwrfa electronig yr union yr un fath o ran cynnwys â’r un a adneuwyd yn y Llyfrgell, a bod yr ymgeisydd wedi cael y caniatâd priodol o ran hawlfraint i ddefnyddio unrhyw gynnwys gan drydydd parti yn y traethawd ymchwil, fel y gall y gwaith fod ar gael yn gyfreithlon mewn cadwrfa mynediad agored.
7. Dylai deunydd a dderbynnir ar gyfer cadwrfa’r sefydliad gydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth.
8. Pan geir rhwystr mynediad ar draethawd ymchwil, ni fydd yn cael ei adneuo yn y gadwrfa electronig mynediad agored hyd nes i’r rhwystr hwnnw gael ei godi. Gall myfyrwyr wneud cais i’w traethawd ymchwil gael ei adneuo ar ffurf copi caled yn y Llyfrgelloedd, ond i beidio â’i ddarparu yn electronig.
Canlyniad Aflwyddiannus
9. Pan na fydd yr ymgeisydd wedi llwyddo, rhaid i’r myfyriwr gael adborth ysgrifenedig clir ar y pwyntiau yr oedd yr arholwyr yn teimlo eu bod yn cyfiawnhau’r penderfyniad bod yn rhaid ailgyflwyno’r traethawd ymchwil. Y Cadeirydd sy’n gyfrifol am gasglu’r adborth a sicrhau ei fod yn cyrraedd yr ymgeisydd. Yna rhaid i’r ymgeisydd sicrhau bod y traethawd ymchwil, pan gaiff ei ailgyflwyno, yn ymdrin yn glir â’r pwyntiau hyn.
10. Dylid dychwelyd y ddau gopi o draethodau ymchwil aflwyddiannus at yr ymgeisydd. Rhaid dileu unrhyw nodiadau neu sylwadau a wnaed gan yr Arholwyr ar ymylon y traethawd ymchwil cyn eu dychwelyd at yr ymgeisydd.
Anghytundeb ynghylch canlyniadau
11. Os ceir anghytundeb rhwng yr Arholwyr ynghylch canlyniad yr arholiad, ni ddylid llofnodi Argymhelliad Ffurfiol yr Arholwyr ar Ganlyniad yr Arholiad. Yn hytrach, dylai’r Cadeirydd roi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Bydd y Swyddfa’n cyhoeddi canllawiau a ffurflenni adroddiadau i arholwyr allanol cymrodeddu eu defnyddio.