Nodiadau Cynhaliaeth a Ffurflen Dreuliau

1. Ad-delir costau teithio ar drên, ym Mhrydain, yn ôl pris tocyn cyfnod dwy-ffordd safonol, oni bai bod tocyn 'dwy-ffordd mewn undydd' neu docyn 'gostyngiad' (savers) ar gael.  Ni ellir hawlio costau teithio dosbarth cyntaf ar drên oni bai bod yr Ysgrifennydd Academaidd wedi cytuno i hynny YMLAEN LLAW.  Gellid ad-dalu costau teithio ar awyren, os nad yw cyfanswm y costau yn fwy na chostau taith ar drên ynghyd â chostau cynhaliaeth. Ar y ffurflen 'Ffioedd a Chostau Arholwyr Allanol' (Graddau Ymchwil) rhaid nodi dyddiadau teithio, man cychwyn a manylion cyfeiriad y daith.

2. Dylai manylion y costau hyn, costau cynhaliaeth a chostau eraill gael eu rhoi ar y ffurflen gais a ddarparwyd:  ad-delir costau cynhaliaeth os rhoddir manylion ac os cynhwysir derbynebau. Yn ôl y cyfarwyddiadau a gafodd y Brifysgol gan Gyllid y Wlad rhaid i unrhyw gais am gostau teithio, costau cynhaliaeth a chostau cysylltiedig gynnwys derbynebau, papurau til neu brawf cyfatebol, oni bai am yr ychydig achosion lle mae'r derbynebau'n cael eu cadw (hy rhai rhwystrau parcio).  Rhoddir derbynebau ar drenau, mewn tai bwyta ayb o ofyn amdanynt, neu rhoddir derbyneb til.  NI ddylid cynnwys gwariant personol (alcohol o 'far bach', papurau newydd, golchi dillad, galwadau ffôn preifat, fideo) am ad-daliad. Rhowch y manylion angenrheidiol ar ddarn papur ar wahân.

3. Fel arfer telir y ffioedd arholi (hy ac eithrio unrhyw dreuliau teithio neu gostau cynhaliaeth) fel taliad net wedi tynnu'r dreth yn ôl y raddfa sylfaenol.  Gan eich bod chwi'n arholi traethawd gradd uwch, gellir talu swm gros ichwi os mynnwch.  Bydd rhaid inni wrth gwrs roi cyfrif am bob taliad ar ddiwedd y flwyddyn i Gyllid y Wlad.  Gan hynny, os ydych yn dymuno cael taliad gros, gofynnir ichwi roi nodyn i'r perwyl hwnnw ar eich ffurflen hawlio.

Ffurflen Ffioedd a Treuliau Arholwyr Allanol