7.11 Arholi Allanol Graddau Ymchwil
1. Mae holl Arholwyr Allanol Graddau Ymchwil yn atebol yn y pen draw i’r Senedd, sy’n gyfrifol am y modd y cynhelir holl arholiadau Prifysgol Aberystwyth.
Meini prawf ar gyfer penodi Arholwyr Allanol
2. Ni cheir penodi unrhyw Arholwr Allanol sydd wedi bod yn cynghori’r myfyriwr neu sydd wedi rhoi sylwebaeth benodol ar y gwaith a gyflwynir i’w arholi.
3. Dylai Athrofeydd fod yn ofalus o ran sicrhau nad ydynt yn gorddefnyddio arholwr penodol.
4. Dim ond pobl sydd â safle digon uchel a digon o brofiad i allu hawlio awdurdod y dylid eu penodi yn arholwyr allanol. Rhaid i’r Arholwr Allanol fod â gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd ym maes yr ymchwil. Dylent hefyd fod â phrofiad o arolygu myfyrwyr ymchwil ac arholi ymgeiswyr graddau ymchwil yn fewnol yn llwyddia.
5. Mae arholwyr o’r tu allan i system y brifysgol yn addas pan fydd gofyn cael arbenigedd proffesiynol, ond rhaid i unigolion o’r fath a benodir fod â phrofiad addas o arholiadau ar gyfer graddau ymchwil. Lle nad yw hyn yn wir, dylai’r arholwr mewnol fod yn aelod hŷn o’r staff gyda phrofiad helaeth o arholiadau graddau ymchwil, neu gellir penodi ail arholwr allanol o brifysgol.
6. Ni ellir gwahodd cyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ymuno â staff prifysgol arall i ddod yn Arholwyr Allanol hyd nes bod o leiaf bum mlynedd wedi pasio, neu ddigon o amser i fyfyrwyr a gafodd eu harolygu gan yr aelod hwnnw o staff fod wedi pasio drwy’r system, pa bynnag un sydd hwyaf.
7. Fel arfer ni fydd cyn-aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd wedi ymddeol yn cael eu henwebu yn Arholwyr Allanol. Gellir gwahodd aelodau o staff prifysgolion eraill sydd wedi ymddeol yn ystod y 3 blynedd flaenorol i weithredu fel Arholwyr Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
8. Ni ellir gwahodd cyn-fyfyrwyr o’r Brifysgol i fod yn Arholwyr Allanol nes bod o leiaf bum mlynedd wedi pasio, neu ddigon o amser i fyfyrwyr a oedd yn gydnabyddus â’r cyn-fyfyriwr fod wedi pasio drwy’r system. Ni ddylai cyn-fyfyrwyr weithredu fel arholwr allanol i ymgeiswyr a gyfarwyddwyd gan eu cyfarwyddwr PhD hwy eu hunain, ni ddylent chwaith weithredu fel arholwr allanol os mai eu harolygwr yw’r arholwr mewnol.
9. Yn ogystal â’r pwyntiau a nodwyd uchod, ni ddylid enwebu arholwyr allanol os oes unrhyw wrthdaro arall mewn buddiannau, neu ganfyddiad o wrthdaro buddiannau a fyddai’n:
- Effeithio ar annibyniaeth yr arholwr
- arwain at ganfyddiad o ddiffyg annibyniaeth
- tanseilio neu achosi canfyddiad o danseilio’r arholiad mewn unrhyw fodd.
Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn myfyrwyr, arholwyr a’r Brifysgol rhag unrhyw awgrym nad yw dyfarniadau’n cael eu cadarnhau’n wrthrychol.
10. Mae arholwyr ar gyfer myfyrwyr graddau ymchwil yn cael eu henwebu gan adrannau a’u cymeradwyo gan Banel a gadeirir gan Bennaeth Ysgol y Graddedigion, gyda dau aelod arall o staff yn Ysgol y Graddedigion. Gwneir penodiadau ar ran y Pwyllgor Graddau Ymchwil a'r Bwrdd Academaidd. Mae adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer pob cyfarfod PGY a BA, sy’n rhestru penodiadau arholwyr allanol a gymeradwywyd ers y cyfarfod diwethaf ynghyd â data allweddol, a sylwebaeth ar unrhyw faterion sydd wedi codi. Bydd y Panel yn gwirio bod arholwyr arfaethedig yn bodloni gofynion y LlAA ar gyfer arholi graddau ymchwil a'r rheoliadau sy'n llywodraethu arholi graddau ymchwil. Bydd y Panel yn ystyried y ddau arholwr arfaethedig fel tîm a gall gymeradwyo un arholwr sydd â llai o brofiad o archwilio nag a ddisgwylir fel arfer pe bai hyn yn cael ei ddigolledu gan arholwr arall sydd â phrofiad sylweddol.
Canllawiau ar gyfer Byrddau Arholi Graddau Ymchwil
11. Pan fyddant yn cael eu penodi, rhoddir i bob Arholwr Allanol gopïau o Reoliadau perthnasol y Brifysgol, Adran 7 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, y Canllawiau ar gyfer Byrddau Arholi Graddau Ymchwil a’r Ffurflenni Canlyniad ac Adroddiad priodol ar gyfer yr arholiad.
12. Gofynnir i arholwyr sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chynnwys y Canllawiau (a roddir iddynt pan gânt eu penodi) a’u bod yn gweithredu yn unol â hwy.
Arfer Academaidd Annerbyniol
13. Bydd Arholwr Allanol sydd, naill ai yn ystod y broses arholi neu wedi hynny, yn ystyried bod ymgeisydd wedi defnyddio Arfer Academaidd Annerbyniol, yn rhoi gwybod yn ddi-oed am yr amgylchiadau yn ysgrifenedig i Gadeirydd y Bwrdd Arholi dan sylw. Ceir rhagor o ganllawiau ar Arfer Academaidd Annerbyniol yn Adran 3. y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Adroddiadau
14. Mae’r Brifysgol yn rhoi pwys sylweddol ar adroddiad yr Arholwr Allanol ac ni thelir y ffi hyd nes y bydd yr adroddiad wedi’i dderbyn. Yn unol â Rheolau Sefydlog y Brifysgol, gofynnir i Arholwr Allanol gyflwyno adroddiad ar y gwaith cyn gynted â phosibl, ac fel arfer o fewn deuddeg wythnos waith i’r dyddiad pan gyflwynodd yr ymgeisydd y gwaith.
Arholwyr Cymrodeddu
15. Pan geir anghytundeb rhwng yr Arholwr Allanol a’r Arholwr/Arholwyr Mewnol, dylai’r Arholwyr a’r Cadeirydd farcio’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad arferol er mwyn nodi nad yw’r Bwrdd wedi gallu cytuno ar argymhelliad.
16. Mewn achos o’r fath, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion droi at arholwr allanol arall a gofyn iddo/iddi gymrodeddu.
17. Wrth ddethol Arholwr Allanol Cymrodeddu, gall Pennaeth Ysgol y Graddedigion ystyried unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan aelodau’r Bwrdd Arholi a gall hefyd ystyried unrhyw enwebiad a wnaed gan y Bwrdd gwreiddiol, er nad oes gorfodaeth arno/arni i fod yn rhwym wrth yr enwebiad hwnnw.
18. Wrth gael ei benodi, rhoddir copi o waith yr ymgeisydd i Arholwr Allanol Cymrodeddu, ynghyd ag adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol a’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad a’r ‘Nodiadau ar gyfer Arholwyr Allanol Cymrodeddu’.
19. Wrth ystyried gwaith yr ymgeisydd, gall yr Arholwr Allanol Cymrodeddu ddewis a fydd yn cyfeirio at adroddiadau’r arholwyr gwreiddiol ai peidio (ac os felly, pryd y bydd nhw yn gwneud hynny). Gall nhw hefyd ddewis cynnal arholiad llafar arall ac, os felly, gall ddewis a wahoddir yr arholwyr gwreiddiol i fod yn bresennol ai peidio.
20. Pan fydd yr Arholwr Allanol Cymrodeddu wedi gorffen ystyried y gwaith, dylid rhoi gwybod am y canlyniad i Gadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyntaf. Bydd y Cadeirydd yn trefnu i’r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad gael ei llenwi, ei llofnodi a’i dychwelyd i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion.