7.8 Meini Prawf ar gyfer Dyfarnu Graddau Ymchwil
Doethur mewn Athroniaeth (PhD)
1. Gall y Brifysgol ddyfarnu gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD) i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus gynllun o astudiaethau pellach ac ymchwil y bernir bod ei ganlyniadau yn gyfraniad gwreiddiol i ddysg ac i roi tystiolaeth o astudio systematig a’r gallu i gysylltu canlyniadau astudiaeth o’r fath â’r corff cyffredinol o wybodaeth yn y maes.
2. Wrth farnu ynghylch teilyngdod traethawd ymchwil a gyflwynwyd mewn ymgeisyddiaeth am radd PhD, rhaid i’r arholwyr ystyried safon a chwmpas y gwaith y mae’n rhesymol disgwyl i fyfyriwr medrus a diwyd ei gyflwyno wedi cyfnod o ddwy neu dair blynedd (fel y bo’n briodol) o astudio’n llawn-amser, neu’r hyn sy’n cyfateb yn rhan-amser.
3. Wedi cwblhau gradd Ddoethurol, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 8, yn unol â diffiniad fframwaith yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer cymwysterau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau Cyhoeddedig
4. Bydd y meini prawf ar gyfer dyfarnu gradd Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau Cyhoeddedig yr un fath â’r rhai a sefydlwyd ar gyfer gradd PhD. Gellir diffinio gweithiau cyhoeddedig fel gweithiau sydd ar gael yn gyhoeddus neu sydd o leiaf wedi cael eu derbyn i gael eu cyhoeddi (ar yr amod y gall yr ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddigonol o hyn). Fel arfer, ni ddylai gweithiau a gyflwynir i’w harholi fod wedi’u cyhoeddi fwy na deng mlynedd cyn y dyddiad cofrestru.
5. Wedi cwblhau gradd Ddoethurol, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 8, yn unol â diffiniad fframwaith yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer cymwysterau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Doethuriaeth Broffesiynol
6. Bydd y meini prawf ar gyfer y Ddoethuriaeth Broffesiynol yr un fath â’r rhai a sefydlwyd ar gyfer gradd PhD ac eithrio’r ffaith y gall y cyfraniad fod at ddysg neu at faes ymarfer proffesiynol ac y gall arwain at newid proffesiynol neu sefydliadol yng ngweithle/proffesiwn yr ymgeisydd.
7. Wedi cwblhau gradd Ddoethurol, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 8, yn unol â diffiniad fframwaith yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer cymwysterau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Athro mewn Athroniaeth (MPhil)/LLM drwy Ymchwil
8. Gall y Brifysgol ddyfarnu gradd Athro mewn Athroniaeth i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus gynllun o astudiaethau pellach ac ymchwil y bernir bod ei ganlyniadau yn werthusiad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth a/neu yn gyfraniad gwreiddiol i wybodaeth.
9. Wedi cwblhau MPhil, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 7, o leiaf, yn unol â diffiniad fframwaith yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer cymwysterau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.