Cyflogadwyedd

Stiwdio gyda phobl camera'n ffilmio dau berson yn eistedd ar soffa.

Mae’r sgiliau a’r wybodaeth y byddwch yn eu meithrin ar ein graddau yn golygu y byddwch yn graddio gyda set o sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr. Fe fyddwch yn barod ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol ac mewn meysydd eraill.

Rydym yn cynnig llwybr pedair blynedd - W402 Drama a Theatr (gyda blwyddyn o ymarfer proffesiynol ymgorfforedig), sy'n gynllun newydd lle bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr a gofrestrodd ar y cwrs yn dechrau eu lleoliadau gyda chyflogwyr eleni. Yn ogystal ag elfennau craidd y cwrs, fe gewch chi'r cyfle i wneud cais am le ar y Cynllun Profiad Gwaith Creadigol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn eich ail flwyddyn. Yn dilyn y broses ymgeisio, caiff myfyrwyr dethol o'r Adran weithio am hyd at 30 awr mewn maes sydd o ddiddordeb iddynt. Wrth ymateb i Covid, rydym ni hefyd wedi sefydlu cyfres holi ac ateb gydag unigolyn gwadd, sef 'Straeon am lwyddiant: Gweithio yn y celfyddydau creadigol cyn ac ar ôl y Pandemig Covid-19'.

Yn fyfyriwr yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, cewch fanteisio ar brofiad Ymgynghorydd Gyrfaoedd a fydd yn rhoi cefnogaeth ichi gyda dod o hyd i waith, a hynny drwy weminarau pwrpasol, sesiynau cael cyngor, tudalennau penodol am swyddi a sesiynau ym meysydd y cwricwlwm. Cewch hefyd y cyfle i gymryd rhan yn ein cynlluniau Blwyddyn Mewn Gwaith, GO Wales, ac ABERymlaen. Yn ogystal â'r cyfleoedd hyn, rydym yn cefnogi'r rhai sydd yn dymuno gweithio'n llawrydd, trwy AberPreneurs.

Cysylltiadau â'r Diwydiant

Rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiadau bywiog a hirsefydlog sydd gennym â phartneriaid allweddol yn y diwydiant, er enghraifft BBC Cymru, S4C, Tinopolis, Bad Wolf Studios, Theatr Genedlaethol Cymru, Music Theatre Wales, Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin, a Gŵyl Ffilmiau Tribeca. Rydym yn Bartner Addysgu AVID artystiedig hefyd.