Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Yma yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, rydyn ni wedi bod yn torri tir newydd ym maes addysg cyfrwng Cymraeg ers sefydlu'r adran yn y 70au.

Rydym yn cynnig cynlluniau gradd arloesol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i chwarae rhannau amlwg a phwysig yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru a'r tu hwnt.

Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy'n rhugl yn Gymraeg, yn ogystal ag i'r rheiny sy'n llai hyderus neu'n ddysgwyr. Gellir dewis astudio ambell i fodiwl yn Gymraeg neu gwrs sydd ar gael yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg.

Yma yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, rydym yn cynnig dau gwrs gradd newydd y gellir eu dilyn yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg: P310 Creu Cyfryngau, a W470 Creu Perfformio. Mae'r cynlluniau gradd hyn yn gymwys am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ysgoloriaeth William Salesbury. Gweler wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ogystal â’r graddau Anrhydedd Sengl uchod, rydym hefyd yn cynnig ystod o gynlluniau Anrhydedd Cyfun, lle mae modd dilyn darpariaeth cyfrwng Cymraeg gan gynnwys cynlluniau ar y cyd gydag Addysg a Chymraeg. Gweler yr adran 'Astudio gyda ni' yn y brif ddewislen am fwy o wybodaeth.

Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael Tiwtor Personol sy’n siarad Cymraeg trwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol, pa bynnag gwrs y byddwch yn ei ddilyn.

Ac os bydd angen cefnogaeth arnoch gyda’ch sgiliau iaith neu astudio, bydd y brifysgol, trwy Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, yma i’ch helpu. Cewch hefyd gefnogaeth gyda’r Dystysgrif Sgiliau Iaith os penderfynwch ymgeisio amdani. Mae’r Dystysgrif yn gyfle ichi ddangos tystiolaeth o’ch sgiliau iaith a’ch gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cewch hefyd fwynhau bod yn rhan o gymuned addysgiadol a chymdeithasol Gymraeg fywiog. Ar ben hynny, mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn trefnu nifer o weithgareddau hwyliog trwy gydol y flwyddyn.

Mae gan yr Adran berthynas glòs â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac fe gewch gyfrannu a mynychu sawl digwyddiad wedi’i drefnu ar y cyd â myfyrwyr o sefydliadau eraill yn ystod y flwyddyn.