Amdanom ni

Yma yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, rydyn ni mewn sefyllfa unigryw i allu darparu cyfleoedd dysgu ac ymchwil o ansawdd uchel i fyfyrwyr o Gymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a'r tu hwnt.

Fel un o'r ychydig adrannau amlddisgyblaethol o'i math yn y Deyrnas Unedig, rydyn ni'n gallu cynnig profiad unigryw sy'n bodloni anghenion a dyheadau ein holl fyfyrwyr. Rydym yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu doniau unigolion sy'n mynd ymlaen i ragori yn y diwydiannau creadigol.

Pam dewis yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Yn fyfyriwr yn ein hadran ni, fe fyddwch yn rhan o gymuned amlddisgyblaethol fywiog a chreadigol ac fe gewch bob cyfle i ffynnu.
  • Mae tref Aberystwyth wedi'i lleoli mewn man hardd ac unigryw rhwng bryniau tirion y Canolbarth a glannau prydferth Bae Ceredigion. Yma yn ardal y dreigiau a'r dolffiniau, bydd rhywbeth i ysbrydoli'ch dychymyg a'ch creadigrwydd ddydd a nos.
  • Mae llawer o staff dysgu'r adran yn arweinwyr yn y gweithle proffesiynol ym meysydd y Cyfryngau, Ffilm, Senograffeg a Theatr, ac ar yr un pryd yn parhau ar flaen y gad ym meysydd eu hymchwil.
  • Mae'r ymchwil hon yn sail i'n dysgu, ac fe gewch eich cyflwyno i ystod eang o ddulliau meddwl, creu, ysgrifennu, arbrofi ac archwilio.
  • Cewch eich dysgu gan y bobl sy'n creu'r perfformiadau, sy'n ysgrifennu'r dramâu, sy'n creu'r ffilmiau, ochr yn ochr â'r rheiny sy'n ysgrifennu'r theori ac yn creu'r gwerslyfrau.
  • Mae yma ddramodwyr, perfformwyr, cyfarwyddwyr, senograffwyr, gwneuthurwyr ffilm, cyfathrebwyr y cyfryngau ac academyddion sy'n gweithio ochr yn ochr â'i gilydd mewn diwylliant sy'n rhannu'r archwilio, ac sy'n gofyn y cwestiwn hollbwysig hwnnw "Beth os.....?"
  • Rydym yn archwilio Theatr, Ffilm y Cyfryngau a Senograffeg, gan ofyn beth oedd hyn, beth yw e nawr a sut y bydd yn edrych yn y dyfodol.
  • Rydym yn cynnig cynlluniau astudio integredig sy'n cyfuno dulliau creadigol a beirniadol disgyblaethau trwy waith ymarferol arloesol ac archwiliadau ysgolheigaidd heriol.
  • Byddwch yn meithrin sgiliau deallusol, ymarferol a throsglwyddadwy a fydd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y diwylliannau creadigol a'r tu hwnt.
  • Rydym yn sicrhau ein bod yn cynnig digon o gyfleoedd i chi gael profiad ymarferol, a hynny drwy ein cysylltiadau bywiog a hirsefydlog â phartneriaid allweddol yn y diwydiant.
  • Mae gennym ni enw ardderchog am ansawdd ein dysgu, yr amgylchedd dysgu a'r profiad diwylliannol rydym yn eu cynnig i'n myfyrwyr.
  • Rydym ymhlith y 15 uchaf yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol ar gyfer Astudiaethau Cyfryngau a Ffilm (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024) ac yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd gyda’r Cwrs ym maes Drama a Dawns (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023). 
  • Byddwch yn rhan o brifysgol gampws sydd â'i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Gelfyddydau brysur, ac mae Lyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig - gerllaw.
  • Ein nod yw i roi profiad myfyriwr cofiadwy i'n myfyrwyr.
  • Mae eich dyfodol chi yn bwysig iawn i ni.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, da chi cysylltwch â ni, neu dilynwch ni ar Trydar, Instagram, neu Facebook (gweler y manylion ar ein tudalen gartref).

Dr Kim Knowles
Pennaeth Adran

Dilynwch ni:

Facebook Twitter Instagram YouTube